Rhian Howells: Arweinydd Addysg ac Ymgysylltu, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru

Gall deimlo’n ddiniwed neu’n jôc, ond beth os yw neges yn annog rhywun i frifo rhywun arall?

Gall rhannu fod yn drosedd

Yn y DU, gall annog neu gefnogi trais ar-lein fod yn drosedd, hyd yn oed os mai “dim ond am hwyl” y byddwch chi’n gwneud hynny.

Os bydd neges yn annog pobl i wneud y canlynol:

  • Ymladd
  • Ymosod ar rywun
  • Dod ag arfau
  • Difrodi eiddo

…a’ch bod chi’n rhannu’r neges honno, gallech chi gael eich ystyried fel rhywun sydd wedi helpu i ledaenu’r neges. Gelwir hyn hefyd yn ‘Annog Trais’, sydd yn drosedd.

Mae hynny’n cynnwys ail-bostio, rhannu neges ar eich stori, tagio ffrindiau, neu hyd yn oed wneud sylwadau mewn ffordd sy’n cefnogi’r neges.

 

Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael eich dal yn droseddol gyfrifol o 10 oed ymlaen?

Yng Nghymru (a ledled Lloegr), mae pobl ifanc yn droseddol gyfrifol o 10 oed ymlaen.

Mae hynny’n golygu:

  • Gallwch gael eich arestio.
  • Gall yr heddlu eich holi.
  • Os oes tystiolaeth, gallwch wynebu canlyniadau fel cael eich cyhuddo neu eich erlyn.

Dyma’r canlyniadau posibl:

  • Rhybudd gan yr heddlu
  • Cofnod troseddol
  • Gorchymyn Cadw Ieuenctid

Ni fydd dweud “doeddwn i ddim yn ei feddwl” neu “dim ond jôc oedd hi” yn eich gwarchod chi’n awtomatig.

Pam mae hyn yn bwysig?

Nid yw cofnod troseddol yn diflannu dros nos.

Gall effeithio ar y canlynol:

  • Ceisiadau Prifysgol
  • Cyfleoedd gwaith
  • Rolau gwirfoddoli
  • Cysylltiadau teuluol

Hefyd, os ydych chi eisiau teithio, gall cofnod troseddol olygu na chewch chi deithio i rai gwledydd. Er enghraifft, gall UDA ac Awstralia wrthod mynediad i bobl sydd â chofnodion troseddol penodol.

 

 Beth ddylech chi ei wneud yn lle hynny?

Os gwelwch neges sy’n annog trais:

✅ Peidiwch â’i rhannu
✅ Peidiwch â gwneud sylw yn canmol y neges
✅ Riportiwch y neges ar y llwyfan
✅ Blociwch y cyfrif os oes angen
✅ Dywedwch wrth oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo neu wrth eich ysgol

 Sylw i Gloi

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn symud yn gyflym.
Ond gall y canlyniadau bara’n hir.

Cyn i chi bwyso’r botwm rhannu, gofynnwch i chi’ch hun:

“Fyddwn i’n fodlon esbonio hyn i’r heddlu?”

Os na yw’r ateb, peidiwch â phostio’r neges.