Dydw i ddim yn cael digon o ofal gartref

  • Fe ddylai eich rhieni a’ch teulu eich diogelu a gofalu amdanoch
  • Mae eich hawliau’n golygu, os nad yw hyn yn digwydd, y dylech gael eich diogelu a chael gofal mewn rhyw ffordd arall
  • Os oes rhywun arall yn gofalu amdanoch, fe ddylai fod gennych yr un hawliau â phob plentyn arall yng Nghymru

Er bod gennych hawl fel plentyn yng Nghymru i beidio â chael eich gwahanu oddi wrth eich rhieni, ac i gael gofal ganddyn nhw, mae gennych hefyd hawl i gael eich diogelu rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod. Weithiau, dyw rhieni plant neu bobl ifanc, neu bobl eraill sy’n byw yn yr un tŷ â nhw, ddim yn eu trin yn iawn. Gall hyn fod am nad ydynt yn gofalu amdanoch fel y dylent, neu oherwydd eu bod yn gwneud pethau sy’n eich brifo. Os yw hyn yn digwydd i chi, mae pobl a sefydliadau ar gael i’ch diogelu, efallai drwy helpu eich rhieni i ofalu amdanoch yn well, neu drwy ofyn i rywun arall ofalu amdanoch am gyfnod.

Mewn argyfwng, efallai y bydd llys yn penderfynu y byddai’n well i rywun arall ofalu amdanoch. Fe ddylai eich hawliau eich diogelu drwy gydol y broses hon. Fe ddylai pobl wrando ar eich barn a’i hystyried, ac fe ddylai penderfyniadau gael eu gwneud ar sail yr hyn sydd orau i chi – fel bod pethau’n digwydd am mai dyna sydd orau i chi.

Weithiau, efallai na fydd eich rhieni’n gallu gofalu amdanoch, naill ai am gyfnod byr neu am gyfnod hwy. Fe allant ofyn i’r awdurdod lleol am help i ddod o hyd i rywle diogel i chi gael aros tra bo hyn yn digwydd. Efallai y byddant yn gwneud trefniadau gydag aelod arall o’r teulu neu ffrindiau i chi gael mynd yno i fyw. Cewch wybod mwy am hyn yn yr adran ‘Mae fy rhieni wedi gofyn i rywun arall ofalu amdanaf’.

Weithiau, bydd rhywun arall yn dweud wrth yr awdurdod lleol eich bod yn cael eich brifo neu eich esgeuluso gartref. Efallai y bydd un o’ch athrawon yn poeni amdanoch, neu feddyg. Gallai fod yn berthynas, yn gymydog neu’n ffrind. Os yw’r awdurdod lleol yn meddwl y gallech fod yn cael eich brifo gartref, fe ddylai ymchwilio i gael gwybod beth sy’n digwydd.

Gallai’r awdurdod lleol ofyn i’r llys roi caniatâd iddo i ofalu amdanoch os bydd hyn yn digwydd. Mae gennych hawl i gael gofal gan eich rhieni ac i beidio â chael eich gwahanu oddi wrthynt, felly mae’n rhaid i’r awdurdod lleol wneud yn siŵr y byddai’n well i chi fod i ffwrdd oddi wrth eich rhieni. Efallai y bydd eich rhieni’n cytuno y dylech fyw yn rhywle arall am gyfnod byr tra bo’r awdurdod lleol yn ymchwilio i weld a ddylech fyw yn rhywle arall yn fwy parhaol.

O bryd i’w gilydd, bydd y llys yn cytuno eich bod mewn cymaint o berygl fel y dylech fynd i fyw yn rhywle arall yn syth bin, hyd yn oed cyn i’r ymchwiliad ddigwydd.

Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, os oes rhywun yn eich brifo gartref, gallai’r llys wneud ‘gorchymyn gwahardd’. Mae hynny’n golygu na fyddai’r unigolyn dan sylw’n cael dod i mewn i’ch cartref. Byddai angen i’r llys fod yn siŵr mai dyna’r ffordd orau o’ch cadw’n ddiogel.

Os ydych yn cael eich esgeuluso’n ddifrifol neu’n cael eich brifo gartref, efallai y bydd yr heddlu’n ceisio eich cadw’n ddiogel. Rydym yn galw hyn yn warchodaeth yr heddlu. Os bydd hyn yn digwydd, fe ddylech gael gwybod beth sy’n digwydd a pham. Fe ddylai’r heddlu wneud eu gorau i gael gwybod beth yw eich teimladau a’ch dymuniadau – bydd hyn fel arfer yn golygu eu bod yn siarad â chi am yr hyn sy’n digwydd, heblaw bod rheswm pam na allant wneud hynny.

Os yw’r llys wedi rhoi caniatâd i’r awdurdod lleol i fynd i’ch casglu o’ch cartref a gofalu amdanoch, efallai y bydd y llys yn cytuno y dylai’r heddlu gael gwybod er mwyn gwneud yn siŵr bod yr awdurdod lleol yn gallu eich casglu’n ddiogel.

Yng Nghymru, os nad ydych yn cael byw gartref, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu rhywle diogel i chi i aros. Fe ddylai’r awdurdod lleol geisio cael gweld a ydych yn gallu aros gyda rhywun rydych eisoes yn ei adnabod, er enghraifft rhiant neu rywun arall sydd â chyfrifoldeb rhiant. Os nad yw hynny’n bosib, neu os nad dyna fyddai orau i chi, efallai y byddwch yn gallu aros gydag aelod arall o’r teulu neu ffrind i’r teulu. Os felly, efallai y bydd pwy bynnag sy’n gofalu amdanoch yn dod yn ofalwr maeth Teulu a Ffrindiau. Os nad yw hyn yn bosib, efallai y byddwch yn aros gyda gofalwr maeth neu mewn cartref plant.

Mewn rhai achosion, gallai’r awdurdod lleol benderfynu y dylech gael eich mabwysiadu. Mae hynny’n golygu y byddech yn dod yn rhan barhaol o deulu newydd a byddai gan eich rhieni newydd gyfrifoldeb rhiant amdanoch. Bydd hyn yn digwydd os na fyddai’n well i chi naill ai fynd i fyw gyda rhywun rydych eisoes yn ei adnabod neu gyda gofalwr maeth neu mewn cartref plant.

Fe ddylai’r awdurdod lleol ofyn i chi beth ydych chi ei eisiau ac ystyried eich barn wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Wrth benderfynu ble y dylech aros, dylai’r awdurdod lleol wneud yn siŵr y gallwch aros yn yr ysgol a pharhau â’ch addysg fel arfer. Os yw’n bosib i chi fyw gydag aelod arall o’r teulu ac mai dyna fyddai orau i chi at ei gilydd, gallai hynny olygu symud i ysgol arall os yw’r person hwnnw’n byw’n bellach i ffwrdd. Mae hyn i gyd yn rhan o’r gwaith pwyso a mesur sy’n gorfod digwydd, a bydd eich barn yn cael ei hystyried.

Os oes gennych frodyr a chwiorydd a bod angen iddyn nhw dderbyn gofal hefyd, bydd yr awdurdod lleol yn ceisio sicrhau eich bod yn cael aros gyda nhw ble bynnag yr ewch i fyw.

Dogfen yw hon sy’n dweud sut y byddwch yn cael gofal. Efallai y bydd gennych un eisoes, ac os felly fe ddylai fod gennych gopi ohono. Os nad oes gennych gynllun gofal a chymorth, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol weithio allan beth sydd ei angen arnoch er mwyn aros yn iach a datblygu’n dda tra byddwch yn derbyn gofal.

Fe ddylai cynllun gofal a chymorth gael ei lunio fel arfer cyn i chi adael eich rhieni. Os nad yw hynny’n bosib, mae’n rhaid ei baratoi ymhen 10 diwrnod. Dylai eich rhieni a phwy bynnag arall sydd â chyfrifoldeb rhiant amdanoch, neu pwy bynnag oedd yn gofalu amdanoch, gytuno ar eich cynllun.

Os ydych yn 16 neu’n 17 ac os ydych wedi gofyn i’r awdurdod lleol ddarparu llety i chi, cewch gytuno ar eich cynllun gofal a chymorth eich hun.

Mae rhai pethau penodol y mae’n rhaid i’ch cynllun gofal a chymorth eu cynnwys. Mae’n rhaid iddo gynnwys cynllun hirdymor ar eich cyfer, ac ystyried eich datblygiad a’ch addysg, eich hunaniaeth, eich perthynas â’ch teulu a phobl eraill a sut y bydd eich anghenion i gyd yn cael eu bodloni.

Fe ddylech gael copi o’ch cynllun gofal a chymorth heblaw bod yr awdurdod lleol yn meddwl eich bod yn rhy ifanc i’w ddeall.

Os yw’n edrych yn debygol y bydd angen i chi dderbyn gofal am gyfnod hir, fe ddylai’r awdurdod lleol wneud cais am orchymyn gofal i roi sicrwydd a chynllun pendant i chi.

Os oes gennych gynllun gofal, bydd yr awdurdod lleol yn rhannu cyfrifoldeb rhiant â’ch rhieni neu’r bobl sydd â chyfrifoldeb rhiant amdanoch.

Fe ddylech allu cadw mewn cysylltiad â’ch rhieni – os mai dyna rydych ei eisiau – heblaw y byddai hynny’n niweidiol i chi. Efallai na fyddwch yn cael treulio amser ar eich pen eich hun gyda’ch rhieni, yn enwedig os ydyn nhw wedi eich brifo, ond fe allech eu gweld mewn lle diogel pan fydd rhywun arall gyda chi, neu gysylltu â nhw dros y ffôn neu ebost. Eich hawl chi yw cadw mewn cysylltiad â’ch rhieni (sef ‘cyswllt’), ac nid hawl eich rhieni. Os nad ydych eisiau gweld eich rhieni, fe ddylai’r penderfyniad hwnnw gael ei barchu.

Cewch wybod mwy yma am fod oddi cartref, a’r cyswllt a gewch.

Efallai y bydd eich rhieni’n gallu gofalu amdanoch unwaith eto.

Os ydych yn 16 neu’n 17 ac yn dod at yr adeg pan fyddwch yn gadael gofal, fe ddylai trefniadau arbennig gael eu gwneud i’ch helpu wrth i chi adael gofal. Gallai hyn gynnwys cytundeb i chi gael aros gyda’ch teulu maeth ar ôl i chi droi’n 18, hyd nes eich bod yn teimlo’n barod i symud ymlaen. Bydd gan bob awdurdod lleol ei drefniadau ei hun ynglŷn â sut mae hyn yn gweithio yn eich ardal chi.

Wrth i chi baratoi i adael gofal, fe ddylai fod gennych gynghorydd personol i roi cyngor a chymorth ymarferol i chi wrth i chi ddod yn fwy annibynnol. Hyd yn oed os nad ydych yn derbyn gofal pan ydych yn 16/17, ond eich bod wedi derbyn gofal yn y gorffennol, mae’n bosib y bydd cymorth a chefnogaeth ar gael i chi wrth i chi droi’n 18.