- Gan mai plentyn ydych chi, mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhoi hawliau i chi i wneud yn siŵr eich bod yn cael digon o ofal gartref
- Fe ddylai eich rhieni – neu rywun arall cyfrifol – wneud yn siŵr bod eich cartref yn lle diogel, ac yn rhywle lle y gallwch ddysgu a datblygu
- Mae gennych hawliau i’ch helpu pan fo rhywbeth yn mynd o’i le am ryw reswm
Dyw’r ffaith eich bod o dan 18 ddim yn golygu nad oes gennych hawliau. Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod gan bob plentyn a pherson ifanc sy’n byw yng Nghymru hawliau dynol sy’n benodol berthnasol os ydych o dan 18. Mae’r hawliau hyn yn rhan o gyfraith Cymru. Mae gennych yr hawliau hyn fel nad oes raid i chi boeni ynghylch pwy y byddwch yn byw gyda nhw a phwy fydd yn gofalu amdanoch. Hyd yn oed os oes rhywbeth wedi mynd o’i le gartref am ryw reswm, mae eich hawliau’n golygu y dylech gael eich diogelu a chael digon o ofal, a bod yr hyn sy’n digwydd i chi, os oes raid mynd â chi oddi wrth eich rhieni, yn digwydd am mai dyna sydd orau i chi.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn amlinellu’r hawliau sy’n benodol i chi fel plentyn. Mae’n rhoi hawl i chi i gael eich magu gan eich rhieni, ac i beidio â chael eich gwahanu oddi wrthynt heblaw bod rheswm da dros wneud hynny. Mae gennych hawl i gael eich diogelu rhag niwed hefyd, felly os yw eich rhieni, neu rywun arall gartref, yn eich brifo neu os nad ydynt yn gofalu amdanoch yn iawn, mae gennych hawliau. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn nodi bod yn rhaid i unrhyw benderfyniad sy’n cael ei wneud sy’n effeithio arnoch fod yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i chi, ac ystyried eich barn am yr hyn ddylai ddigwydd.
Mae’r rhan hon o’r wefan yn trafod llawer o agweddau ar eich bywyd gartref, gan gynnwys:
- Penderfyniadau a Rheolau gartref
- Beth sy’n digwydd os nad ydych yn cael digon o ofal gartref
- Os ydych yn gofalu am rywun gartref
- Os oes gennych anghenion ychwanegol o ran gofal a chymorth
- Beth i’w wneud os oes problem gyda lle rydych yn byw
- Eich hawliau os ydych oddi cartref
- Beth sy’n digwydd os nad yw eich rhieni’n byw gyda’i gilydd
- Beth i’w wneud os nad ydych eisiau byw gartref