Dyw fy rhieni ddim yn byw gyda’i gilydd

  • Mae gennych hawl i beidio â chael eich gwahanu oddi wrth eich rhieni
  • Hyd yn oed os nad yw eich rhieni’n byw gyda’i gilydd, fe ddylech gael cyswllt â’r ddau riant, os dyna rydych ei eisiau
  • Byddwch yn rhan o unrhyw benderfyniadau mae llys yn ei wneud ynghylch gyda phwy y byddwch yn byw a’ch cyswllt â’ch rhieni

Ddylech chi ddim cael eich gwahanu oddi wrth eich rhieni heblaw bod rheswm da dros hynny. Os nad yw eich rhieni’n byw gyda’i gilydd, efallai y byddwch yn byw gydag un ohonynt y rhan fwyaf o’r amser, neu’n rhannu eich amser yn gyfartal rhwng y ddau. Hyd yn oed os nad ydych gydag un o’ch rhieni, gallwch gadw mewn cysylltiad os dyna rydych ei eisiau.

Os na all eich rhieni gytuno ble y dylech fyw, efallai y bydd yn rhaid i’r llys wneud penderfyniad. Os yw hynny’n digwydd, bydd yn gwrando ar eich barn.