Penderfyniadau a rheolau gartref

  • Hyd nes eich bod yn 18, fe ddylai eich rhieni ofalu amdanoch a’ch magu
  • Mae’n rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau mawr ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd i chi – ac efallai y byddant yn gwneud rheolau ynglŷn â sut y bydd pawb yn byw gyda’i gilydd gartref
  • Bydd eich hawliau’n eich diogelu os nad yw eich rhieni’n eich trin yn iawn wrth i chi dyfu i fyny

Mae gennych hawliau plentyn i gael eich magu gan eich teulu – a ddylai neb atal hynny rhag digwydd heblaw eich bod yn cael eich trin yn greulon neu’n cael eich esgeuluso, neu bod rheswm arall pam na all eich rhieni eich magu. Eich rhieni sy’n gyfrifol am osod y rheolau ynglŷn â sut rydych yn byw gyda’ch gilydd gartref. Hyd yn oed os nad ydych yn byw gyda’ch rhieni, bydd rheolau ble bynnag rydych yn byw. Mae’r rheolau yno fel arfer i wneud yn siŵr bod pawb yn gallu byw gyda’i gilydd yn ddiogel yn yr un lle. Efallai y bydd y rheolau’n llym a chithau ddim yn gallu eu newid, neu efallai y byddant yn fwy llac. Bydd yn dibynnu ar bwy bynnag rydych yn byw gyda nhw.

Rydych yn gwneud penderfyniadau am yr hyn sy’n digwydd yn eich bywyd drwy’r amser, ond mae llawer o’r ‘penderfyniadau mawr’ am yr hyn sy’n digwydd i chi fel plentyn neu berson ifanc yn cael eu gwneud gan bwy bynnag sydd â chyfrifoldeb rhiant amdanoch. Wrth i chi fynd yn hŷn mae’n debyg y bydd gennych fwy o ddiddordeb yn y ‘rheolau’ y mae eich rhieni’n eu gosod, a’r penderfyniadau sy’n effeithio arnoch. Bydd mwy o gyfle hefyd i chi i fod yn rhan o’r penderfyniadau ‘mawr’, naill ai am fod eich rhieni neu pwy bynnag sydd â chyfrifoldeb rhiant amdanoch yn eich cynnwys yn y penderfyniadau hynny, neu oherwydd eich bod yn cael yr hawl i wneud penderfyniad penodol.