Mae angen help ar fy rhieni i ofalu amdanaf

  • Os oes gennych anghenion sy’n anodd eu bodloni, efallai y bydd angen help arnoch, hyd yn oed os yw eich rhieni a’ch gofalwyr yn gwneud eu gorau i ofalu amdanoch
  • Mae eich hawliau plentyn yn rhan bwysig o wneud yn siŵr eich bod yn cael eich cynnwys yn y penderfyniadau pwysig hyn
  • Yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am asesu eich anghenion gofal a chymorth a gwneud yn siŵr eich bod yn cael yr help sydd ei angen arnoch

Os ydych yn anabl neu os oes gennych anghenion eraill sy’n anodd eu bodloni, gallwch gael cymorth a chefnogaeth gan eich awdurdod lleol. Mae gennych ran i’w chwarae yn hyn, ac mae eich hawliau’n bwysig er mwyn gwneud yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed yn ystod y broses hon.

Yng Nghymru, mae cyfreithiau i wneud yn siŵr bod eich hawliau’n cael eu parchu. Fe ddylech gael eich cynnwys pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud a chael manylion ynglŷn â’r hyn y bydd yr awdurdod lleol yn ei wneud i’ch helpu. Os ydych yn deall yn llwyr eich sefyllfa a’r penderfyniadau y mae’n rhaid eu gwneud, cewch wrthod cael asesiad os nad ydych eisiau un.