Roeddwn i tua 12 oed pan nes i ddarllen ‘The Secret Diary of Adrian Mole, Aged 13 and 3/4’. Roedd yna elfennau doniol iawn yn y llyfr a hanesion ro’n i’n gallu uniaethu â nhw, yn enwedig pan oedd Adrian yn disgyn dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â Pandora! Ar y llaw arall, roedd y dadlau cyson a phenderfyniad mam a thad Adrian i wahanu yn rhywbeth gafodd effaith negyddol ar blentyndod Adrian. Os ydych chi’n aml yn teimlo’n ofidus neu’n ofnus oherwydd bod eich rhieni’n gweiddi ar ei gilydd a’u bod yn gwahanu am gyfnodau, bydd y blog hwn yn eich tywys trwy’r camau nesaf posibl a’r gefnogaeth sydd ar gael i chi os byddan nhw’n dewis ysgaru
Mae fy rhieni’n dadlau drwy’r amser, a ddylwn i boeni?
Does dim cuddio’r ffaith y bydd eich rhieni’n dadlau weithiau, fel arfer am bethau diflas fel biliau! Peidiwch â phoeni, dydy ffrae neu ddau yn eich teulu yn ddim byd i boeni yn ei gylch, cyn belled nad ydych chi’n teimlo eich bod mewn perygl. Fodd bynnag, os ydych chi’n teimlo bod y gweiddi’n digwydd yn rhy aml, a’ch bod yn teimlo’n ofnus neu’n fregus oherwydd ymddygiad un neu’r ddau riant, dydy hynny ddim yn iawn. Gallai gael ei ystyried yn fath o drawma i blentyn. Ond ceisiwch beidio â phoeni, mae digon o adnoddau ar gael sydd wedi’u cynllunio i’ch helpu chi.
Ble galla i fynd os bydd y dadlau’n mynd yn ormod? Oes gen i unrhyw hawliau neu lais yn y mater?
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (sef y corff cyfreithiol sy’n creu cyfreithiau yng Nghymru a Lloegr) wedi datgan os yw dadleuon eich rhieni’n gwneud i chi deimlo’n ofnus neu’n anniogel, p’un ai eich bod chi yna neu beidio, byddwch yn cael mynediad awtomatig at wasanaethau iechyd meddwl a diogelu. Mae gwylio pobl yn dadlau yn gallu bod yn hynod o drawmatig.
Fel Adrian Mole, mae’n bosibl y byddwch chi’n teimlo ar goll neu’n unig ar yr adegau hyn. Os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus i siarad â’ch rhieni am sut rydych chi’n teimlo, dywedwch wrth oedolyn cyfrifol arall, fel athro yn eich ysgol, perthynas, neu riant un o’ch ffrindiau. Gallan nhw roi gwybod i bobl eraill fydd yn gallu eich helpu. Mae Deddf Seneddol (sy’n derm ffansi arall am gyfraith) yng Nghymru a Lloegr o’r enw Y Ddeddf Plant. O dan y ddeddf honno, mae’n rhaid i bob asiantaeth diogelu plant wrando arnoch chi ac ystyried eich teimladau.
Mae gennych chi hawl i deimlo’n ddiogel bob amser. Os nad ydych chi’n teimlo’n ddiogel, bydd rhoi gwybod i oedolyn cyfrifol yn hanfodol i’ch helpu i gyrraedd sefyllfa lle rydych chi’n hapus ac yn ddiogel.
Dydy fy rhieni ddim gyda’i gilydd mwyach. Mae hyn yn fy ypsetio. Beth alla i neud?
Mae rhieni Adrian yn penderfynu gwahanu yn y diwedd oherwydd eu bod yng ngyddfau ei gilydd drwy’r amser. Mae hyn yn cael effaith fawr ar Adrian ac nid yw’n gallu derbyn y sefyllfa am gyfnod, ac mae ei dad hefyd yn teimlo’n drist ac unig. Os ydych chi mewn sefyllfa debyg, a’ch bod yn teimlo’n ddigon cyfforddus i siarad â’ch rhieni am eich teimladau, yna gwnewch hynny; dylen nhw ddeall bod angen atebion arnoch chi.
Fodd bynnag, os yw eich rhieni wedi gwahanu a bod un ohonyn nhw wedi symud allan, mae’n bosibl na fyddwch chi’n gallu penderfynu gyda phwy y byddwch chi’n byw. Mewn sefyllfa o’r fath, bydd eich rhieni’n cael eu hannog i geisio ystyried dull o ddatrys anghydfod a dod i gytundeb, yn hytrach na mynd i’r llys. Gall hyn gynnwys sesiynau cyfryngu a gallech chi gyfrannu at y rhain drwy siarad am eich dymuniadau a’ch teimladau chi. Os na all eich rhieni benderfynu ymysg eu hunain, hyd yn oed gyda chymorth gweithwyr proffesiynol, yna’r opsiwn olaf yw gwneud cais i’r llys. Os ydych chi am barhau i weld eich dau riant, mae gan y llys bŵer i ddyfarnu y gallwch chi fyw gyda’ch dau riant yn eu tro. Dyma fydd y trefniant nes i chi droi’n 18 oed; ar ôl hynny, eich dewis chi yw ble rydych chi’n mynd!. Peidiwch â phoeni, fydd dim rhaid i chi fynd os ydych chi’n dewis peidio!
Os bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys, ceisiwch beidio â mynd i banig. Cofiwch, does dim rhaid i chi fynd i’r gwrandawiad llys os nad ydych chi’n dymuno gwneud hynny. Ond os ydych chi’n mynd i’r llys, mae gennych chi hawl i gwrdd â’r barnwr sy’n penderfynu beth i’w wneud ar eich rhan chi ac ar ran eich teulu. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle i chi siarad yn uniongyrchol â’r barnwr heb unrhyw bwysau gan y naill riant na’r llall. Gall llys ymddangos yn lle brawychus, ond does dim byd i’w ofni mewn gwirionedd; mae Adran 1(1) o’r Ddeddf Plant yn sicrhau mai eich lles a’ch diogelwch chi yw’r flaenoriaeth bennaf. Hefyd, ceir dogfen arbennig sy’n nodi hawliau plant, a elwir yn Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, neu CCUHP. Mae Erthygl 9 o’r ddogfen hon yn sicrhau na fyddwch yn cael eich tynnu oddi wrth unrhyw un o’ch rhieni oni bai fod risg i’ch diogelwch. Wedi dweud hynny, os ydych chi am aros gyda dim ond un rhiant, fel y gwnaeth Adrian gyda’i dad, dylai’r llys ystyried eich cais. Hefyd, os oes gennych chi frodyr a chwiorydd, does dim rhaid i chi gael yr un trefniant â nhw! Cofiwch, mae popeth yn cael ei wneud gyda’ch lles a’ch hapusrwydd chi mewn golwg. Mae’r holl wybodaeth hon wedi’i nodi yn Erthygl 12 o CCUHP, ac mae’r erthygl hon yn sicrhau bod gan bob plentyn (gan eich cynnwys chi) yr hawl i fynegi ei farn ar bob mater a fydd yn effeithio arno gydag addewid i gymryd y farn honno o ddifrif.
Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd raglen o’r enw Rhaglen Gweithio Gyda’n Gilydd er mwyn Plant (WT4C). Lluniwyd y rhaglen yn benodol i’ch helpu chi drwy broses ysgariad eich rhieni gyda chymorth ar bethau fel rhannu eich amser rhyngddyn nhw a deall sut bydd eich bywyd ar ôl yr ysgariad.
Beth alla i neud os nad ydw i’n hoffi partner newydd fy rhiant?
Pan wnaeth mam Adrian ddechrau perthynas newydd gyda Mr Lucas, eu cymydog, nid yw Adrian yn swnio’n ypset am y peth, ond mae’n amlwg fod hyn wedi achosi cryn syndod a dryswch iddo.Os yw un o’ch rhieni wedi dechrau perthynas newydd, gall hyn fod yn anodd. Mae’r syniad o orfod dod i nabod oedolyn cwbl newydd yn gallu gwneud i chi deimlo’n ddig, yn enwedig os ydych chi’n teimlo bod y person newydd hwn yn ‘cymryd lle’ eich rhiant arall. Cofiwch fod y gyfraith yna i warchod eich lles bob amser, felly os byddwch chi’n dod ar draws unrhyw anhawster, gallwch droi at yr adnoddau yn y dolenni ar ddiwedd yr erthygl i’ch helpu. Mae cyfathrebu’n allweddol: ceisiwch siarad â’ch rhiant a dweud sut mae hyn yn gwneud i chi deimlo. Dylen nhw wneud eu gorau i ymateb i’ch teimladau.
I gloi …
Gobeithio bod y blog hwn wedi eich helpu i ddeall yr hawliau gwahanol sydd gennych i ddiogelu eich lles os ydych chi’n teimlo’n ofidus pan fydd eich rhieni’n dadlau drwy’r amser neu os ydyn nhw wedi ysgaru. Dyma rai elusennau eraill y gallwch droi atynt:
Childline: 0800 1111
Mae Childline ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ac maen nhw yno i’ch cefnogi gydag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, dim ots pa mor fawr neu fach. Oni bai bod yr oedolion ar ben arall y ffôn yn teimlo eich bod mewn perygl gwirioneddol, bydd y sgwrs yn gwbl gyfrinachol, a does dim rhaid i chi ddweud dim wrthyn nhw amdanoch chi eich hun! https://www.childline.org.uk/
NSPCC: 0808 800 5000
Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei nabod yn byw mewn sefyllfa o gam-drin, boed yn y cartref neu’n rhywle arall, cysylltwch â’r NSPCC i gael cyngor am ddim. Bydd rhywun bob amser yno i’ch helpu. https://www.nspcc.org.uk/
Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru:
Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant yn helpu i wella bywydau plant ifanc a’u teuluoedd os ydyn nhw’n wynebu caledi. Mae’n eu helpu i ddeall y gyfraith a darparu gwybodaeth gyfreithiol am ddim. https://childrenslegalcentre.wales/cy/sut-maer-gyfraith-yn-effeithio-arnaf/gartref/
Comisiynydd Plant Cymru:
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn cydnabod pa mor werthfawr yw plentyndod, ac yn cael ei arwain gan y plant eu hunain – drwy siarad yn uniongyrchol â phlant a chanfod yr hyn sydd ei angen arnyn nhw. Nod y Comisiynydd yw gwella bywyd pob plentyn.Children’s Commissioner for Wales (complantcymru.org.uk)
Helo! Fy enw i yw Amba Hetherington ac ar hyn o bryd rwy’n fy 2il flwyddyn yn astudio’r Gyfraith gyda Throseddeg ym Mhrifysgol Abertawe. Dwi wrth fy modd yn ysgrifennu a rhannu fy ngwybodaeth am y gyfraith!
Diolch i Rhian Jones, Cyfreithiwr Cyswllt yn Harding Evans Solicitors, am wirio cynnwys cyfreithiol y blog hwn.