Cyn yr Etholiad Cyffredinol, roedd yna lawer o bolisïau newydd yn ymwneud â’r ffordd roedd y Deyrnas Unedig yn delio â Cheisiadau Lloches. Roedd y Ddeddf Mudo Anghyfreithlon wedi cael Cydsyniad Brenhinol yng Ngorffennaf 2023, a gweithredwyd nifer o rannau allweddol, yn benodol rhai a oedd yn atal rhoi statws ffoadur (ceisiwr lloches) i unrhyw un oedd yn cyrraedd y Deyrnas Unedig mewn ffordd nad oedd yn swyddogol. Roedd hyn yn cyfeirio yn benodol at bobl sy’n cyrraedd mewn cychod bychain.
Serch hyn, ni chafwyd dim rheoliadau a oedd yn datgan sut y dylid prosesu’r ceisiadau gan y bobl hyn, na chwaith y ceisiadau a oedd yn ymwneud â phlant. Daeth hi’n amlwg nad oedd hi’n bosibl anfon yr holl bobl oedd yn glanio yma i Rwanda, ac felly datblygodd ôl-groniad o geisiadau nad oedd posib gwneud dim â nhw.
Pan ddaeth y Llywodraeth newydd i rym, cafwyd gobaith am ddull newydd i ddygymod â cheiswyr lloches, ac felly mae’r nodyn briffio hwn yn trafod yr holl ddatblygiadau ers Gorffennaf 2024.
Cyflwynwyd Rheoliadau’r Ddeddf Mudo Anghyfreithlon (Diwygio) 2024 ddiwedd Gorffennaf 2024, ac arweiniodd hyn at allu ail-gychwyn prosesu’r ceisiadau lloches. Diwygiwyd y dyddiadau yn adran 30 a 31 y Ddeddf sy’n cyfeirio at bryd oedd y gwaharddiadau newydd yn dod i rym. Mae’r diwygiadau yn ei gwneud hi’n amhosib i’r gwaharddiadau hyn ddod i rym nes y mae trefniadau i gael gwared ar Adran 2 yn cael eu gwneud, ac mae hynny yn annhebygol iawn o ddigwydd dan y Llywodraeth newydd. Ar ei ffurf symlaf, mae hyn yn golygu bod modd prosesu ceisiadau lloches am eu bod wedi eu gwneud cyn i’r Ddeddf ddod i rym.
Serch hyn, mae hi’n bwysig nodi bod y Ddeddf yn dal i fod ar y llyfr statud, ac felly gall y newidiadau uchod gael eu gwyrdroi’r un mor gyflym ag y cawsant eu creu. Does dim newidiadau wedi eu gwneud ynglŷn â’r pwerau cadw ychwanegol a ddaeth i rym pan basiwyd y Ddeddf. Bydd y Ddeddf yn gysgod ar y system loches hyd nes y bydd hi’n cael ei diddymu – ac ar hyn o bryd does dim cynlluniau yn eu lle i wneud hynny.
Yng nghyd-destun yr effaith y bydd y datblygiadau hyn yn eu cael ar blant, mae’n debyg mai’r rhai wnaeth gais am loches pan oeddent yn blant ond sydd bellach dros 18 fydd yn cael eu heffeithio fwyaf. Yn fuan wedi i’r diwygiadau gael eu gwneud, anfonwyd gwahoddiadau at bobl i gael eu cyfweld gyda’r posibilrwydd o gyflwyno Ffurflen Datganiad Tystiolaeth (SEF) a Datganiad os nad oedd y person wedi cael cyfle i wneud hyn yn barod. Yn anffodus, er bod y Swyddfa Gartref yn ymestyn eu gweithdrefnau i’r rhai sydd wedi profi oedi, nid yw Cymorth Cyfreithiol am wneud yr un peth. Cadarnhaodd R (Alhasan) v Cyfarwyddwr Gweithiau Achos Cymorth Cyfreithiol & Anor [2024] EWHC 2031, nad oeddent yn gwahaniaethu drwy beidio â rhoi cynrychiolwyr cyfreithiol i bobl ifanc dros 18 gan mai cyllid i sicrhau bod gan blant gynrychiolwyr cyfreithiol mewn cyfweliadau lloches sydd ganddynt. Serch hyn, mae gan y bobl ifanc hawl i gael pobl yno i’w cefnogi – megis Cynghorwr Personol.
Mae hyn yn golygu ei bod hi’n bwysicach byth i staff Awdurdodau Lleol sy’n cefnogi pobl ifanc mewn cyfweliadau lloches gael yr hyfforddiant sydd ei angen arnynt er mwyn gwybod beth i’w ddisgwyl, ac i fod yn ymwybodol o’r hawliau sydd gan y bobl ifanc. Mae hyn hefyd yn golygu bod y gwaith sy’n cael ei wneud yn syth wedi’r cyfweliad – pethau fel gwirio’r trawsgrifiad gyda’r person ifanc, a chyflwyno gwybodaeth ychwanegol yn gorfod cael ei gwblhau heb gymorth nodiadau’r cynrychiolydd.
Gobeithio’n wir mai mater i’r garfan gafodd ei dal gan y problemau a achoswyd gan y Ddeddf Mudo Anghyfreithlon fydd hyn, ond bydd hi’n cymryd amser eto i’w ceisiadau gael eu cwblhau, ac nid yw hi’n glir eto a fydd y Tribiwnlys yn cymryd y diffyg cynrychiolaeth gyfreithiol i ystyriaeth mewn cyfweliad, petai mater yn ymwneud â hygrededd yn codi mewn apêl.