Cafodd llawer ohonom ni ein magu ar straeon tylwyth teg a phawb yn byw’n hapus byth wedyn. Rydyn ni gyd wedi breuddwydio am fod yn dywysoges neu dywysog rywbryd siawns? Ond rhywbeth rydyn ni’n ei anghofio ydy’r driniaeth erchyll mae’r rhan fwyaf o’r arwresau yn ei dioddef er mwyn cael byw’n hapus byth wedyn. Mae Rapunzel yn enghraifft dda. Merch â gwallt hir, yn sownd mewn tŵr, yn cael ei hachub ac yn byw’n hapus am byth… swnio’n gyfarwydd?

Cafodd ei chyhoeddi’n wreiddiol gan y brodyr Grimm. Mae’n stori adnabyddus ac mae Disney wedi ei throi’n llyfr a ffilm boblogaidd, Tangled. Er bod diweddglo hapus, nid oes dechrau hapus.

Er hynny, mae modd dysgu am ein hawliau yng Nghymru drwy stori Rapunzel. Dyma chwe hawl sydd gennym ni o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) – sy’n codi yn stori Rapunzel.

1. Mae gan bob plentyn yr hawl i safon byw uchel

O dan erthygl 27 o CCUHP, ystyr safon byw uchel yw safon sy’n ddigon da i ddiwallu eich anghenion corfforol a meddyliol. Yn achos Rapunzel, roedd hi’n byw mewn tŵr anghysbell uchel iawn, a doedd hi ddim yn gallu gadael. Doedd hyn ddim yn diwallu ei hanghenion corfforol na meddyliol, gan ei bod hi ar ei phen ei hun, methu cymdeithasu, a methu gadael neu wneud unrhyw weithgarwch corfforol.

Os nad yw eich teulu’n gallu fforddio diwallu eich anghenion, dylai’r Llywodraeth helpu er mwyn i chi gael safon byw uchel. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu nifer o ddeddfau mewn cysylltiad â thai er mwyn gorfodi hyn. Mae enghreifftiau yn Neddf Tai (Cymru) 2014. Mae adran 60 o’r Ddeddf hon yn cynnwys dyletswydd i ddarparu gwybodaeth, cymorth a chyngor er mwyn atal digartrefedd. Mae nifer o sancsiynau cyfreithiol ar waith i’ch helpu chi i gael safon byw uchel.

2. Mae gan bob plentyn yr hawl i gael ei ddiogelu rhag niwed a thrais

Mae erthygl 19 o CCUHP yn dweud y dylai plant gael gofal priodol a chael eu diogelu rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod gan eu rhieni neu unrhyw un arall sy’n edrych ar eu hôl.

Gothel oedd prif ofalwr Rapunzel. Er ei bod wedi’i diogelu rhag y byd tu allan yn ei thŵr, roedd hi’n cael ei hesgeuluso’n ofnadwy. Math o gamdriniaeth yw esgeuluso, lle mae prinder o’r sylw a’r gofal priodol sydd eu hangen ar blant. Roedd Rapunzel ar ei phen ei hun drwy’r amser, oni bai fod Gothel yn dod yn ôl i’w gweld hi. Doedd hi ddim yn cael y sylw a’r gofal priodol y dylai hi wedi’u cael.

Mewn amgylchiadau fel hyn, mae gan y Llywodraeth reoliadau i’ch helpu a’ch diogelu chi. Mae’r rhain yn cynnwys adrannau 130 a 21 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, sy’n mynnu bod athrawon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn rhoi gwybod i awdurdodau lleol am unrhyw amheuaeth o gam-drin plant, ac sy’n dweud bod gan yr awdurdodau lleol hynny ddyletswydd i asesu sefyllfa’r plentyn i wneud yn siŵr ei fod yn ddiogel. Mae’r rheoliadau hyn yn golygu, os ydych chi’n wynebu sefyllfa o gam-drin gartref, eich bod wedi eich gwarchod a’ch bod yn gallu cael help.

3. Mae gan bob plentyn yr hawl i fyw gyda’i rieni

 Mae erthygl 9 o CCUHP yn dweud na ddylid gwahanu plentyn oddi wrth ei rieni, oni bai fod hynny er ei les ei hun. Cymerwyd Rapunzel oddi wrth ei rhieni pan oedd hi’n fabi. Yn ei sefyllfa hi, roedd ganddi hawl i aros gyda’i rhieni, ond dewch i ni ddefnyddio sefyllfa ddamcaniaethol. Pe bai Gothel wedi bod yn fam go iawn Rapunzel, byddai ganddi hawl i fyw gyda hi, ond gan ei bod hi’n cael ei hesgeuluso ac nad yw ei hanghenion yn cael eu diwallu, mae modd tynnu’r hawl yma’n ôl er mwyn iddi gael gofal priodol.

Os ydych chi’n cael eich esgeuluso neu eich cam-drin mewn unrhyw ffordd, dydy hynny ddim yn lefel briodol o ofal. Mae’n bwysig siarad ag oedolion dibynadwy, fel athrawon, i’ch gwarchod chi ac i gael gofal priodol. Os ydy eich rhieni wedi gwahanu, mae gennych hefyd yr hawl i gadw mewn cysylltiad â’r ddau riant, oni bai y byddai hynny’n gallu eich niweidio mewn unrhyw ffordd.

4. Mae gan bob plentyn yr hawl i addysg

Mae addysg yn bwysig dros ben. Mae erthygl 28 o CCUHP yn dweud bod gan bob plentyn hawl i addysg – yn yr ysgol, gartref neu mewn cyfleuster arbenigol. Gan fod Rapunzel yn y tŵr a methu gadael, doedd hi ddim yn gallu mynd i’r ysgol neu gael addysg. O dan adran 7 o Ddeddf Addysg 1996, mae eich rhiant neu eich gofalwr yn gyfrifol am wneud yn siŵr eich bod yn cael addysg amser llawn effeithlon. Os nad yw eich rhieni neu eich gofalwyr yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael addysg briodol, efallai y byddan nhw’n cael dirwy.

Mae addysg am ddim i bawb rhwng 3 ac 16 oed yng Nghymru, felly does dim rheswm pam na allwch chi gael addysg.

5. Mae gan bob plentyn yr hawl i ddweud eu barn am faterion sy’n effeithio arnyn nhw

 Doedd Rapunzel ddim yn gallu dewis rhwng byw gyda’i rhieni neu gyda Gothel. Cafodd ei orfodi arni. Roedd Gothel wedi dweud nifer o gelwyddau wrthi hefyd. Mae erthygl 12 o CCUHP yn dweud bod gan blant yr hawl i ddweud eu barn am benderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, ac i’w barn gael ei hystyried.

Yn achos Rapunzel, roedd ganddi hawl i ddweud ei barn am fyw gyda’i rhieni neu gyda Gothel. Hefyd, roedd ganddi hawl i ddweud eu barn am allu mynd allan a gadael y tŵr. Weithiau mae oedolion yn gwneud penderfyniadau am bethau maen nhw’n gwybod mwy amdanyn nhw, ond mae gennych chi hawl bob amser i ddweud eich dweud i ryw raddau am y penderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi’n uniongyrchol.

6. Mae gan bob plentyn yr hawl i gael help priodol i wella os yw wedi cael ei niweidio mewn unrhyw ffordd

Ar ddiwedd y llyfr, pan mae Rapunzel yn cael ei hachub ac yn symud yn ôl i’r castell, bydd angen llawer o bethau arni i’w helpu i wella ar ôl y gamdriniaeth a’r esgeulustod yr oedd hi wedi’u dioddef yn y tŵr. Mae erthygl 39 o CCUHP yn dweud y dylai unrhyw blentyn sydd wedi cael ei gam-drin neu ei esgeuluso gael help arbennig i adfer ei hunan-barch. Weithiau mae yna bethau trawmatig yn digwydd yn ein bywyd, ac mae’n bwysig ein bod yn cael yr help a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnom ni.

Mae’r erthygl yma wedi sôn am ambell bwnc anodd ac annifyr. Mae’n bwysig eich bod yn gwybod bod gan y Llywodraeth reoliadau a deddfwriaeth sy’n eich gwarchod, ac sy’n rhoi nifer o hawliau i chi – hawliau mae’n bwysig gwybod amdanyn nhw.

Dyma rywfaint o ddolenni i wasanaethau cymorth ac i fwy o wybodaeth am eich hawliau yng Nghymru:

Gair am yr awdur:

Helo! Maddison Weir ydw i. Dwi’n fyfyriwr rhyngwladol o Ganada a dwi ar fy ail flwyddyn yn astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe. Dwi’n teimlo’n gryf iawn dros y gyfraith a’r hawliau sydd gennym ni fel dinasyddion. Wrth fy modd yn gwirfoddoli yn y gymuned ac yn gobeithio cymryd rhan mewn mwy o brosiectau tebyg yn y dyfodol!

Diolch i Angela Killa  o JCP Solicitors  am brawfddarllen y blog hwn.