Yr wythnos hon, cafwyd newidiadau bach ond pwysig iawn i ganllawiau’r Swyddfa Gartref ar sut y penderfynir ar geisiadau am Ddinasyddiaeth Brydeinig. Tynnwyd sylw’r cyhoedd at y rhain gan y blog rhagorol Free Movement. Mae’r canllaw nawr yn cynnwys ‘mynediad anghyfreithlon’ fel rheswm penodol dros ystyried nad yw ymgeisydd o gymeriad da ac felly nid yn gymwys ar gyfer Dinasyddiaeth Brydeinig. Mae hefyd yn datgan y dylai unrhyw un a wnaeth ‘daith beryglus’ fod yn anghymwys fel arfer ar gyfer Dinasyddiaeth Brydeinig. Mae hyn yn disodli’r gwaharddiad ar ddinasyddiaeth yn Neddf Mudo Anghyfreithlon 2023, gan osgoi craffu seneddol. Er nad ydym eisiau dilyn y llwybr o awgrymu ‘eithriadau’ penodol i blant mewn polisi sy’n weithred o greulondeb perfformiol ac sy’n amlwg yn torri Confensiwn Ffoaduriaid 1951. Hoffwn ystyried effaith y polisi hwn ar blant.

Mae’r canllaw yn berthnasol i geisiadau a wneir o 10 Chwefror 2025 ymlaen. I’r rhan fwyaf o ffoaduriaid, mae’r llwybr at Ddinasyddiaeth yn cymryd o leiaf 6 blynedd – sef 5 mlynedd gyda chaniatâd i aros fel ffoadur, ac wedyn blwyddyn arall gyda chaniatâd amhenodol i aros. Felly, mae’r polisi hwn yn effeithio ar y rhai hynny a gyrhaeddodd yn 2019, a llawer iawn cynt na hynny mwy na thebyg, oherwydd o ystyried y ffioedd eithafol sy’n gysylltiedig â dinasyddiaeth, mae’n debygol y bydd llawer yn aros yn hirach i gasglu’r arian sydd ei angen at ei gilydd.

Er bod rhai adrannau o’r canllaw yn nodi y gellir defnyddio disgresiwn pan ddaw i blant y tybir nad oedd wedi dewis dull eu mynediad (yr enghraifft a roddir yw plant sy’n cyrraedd gyda theulu, gan awgrymu nad yw hyn yn berthnasol i blant ar eu pen eu hunain), a bod llawer wedi’i wneud o ‘eithriad’ ar gyfer plant, dylid trin hyn yn ofalus iawn. Nid yw’r polisi’n rhoi eithriad ond mae’n nodi lle y mae’n bosibl i weithiwr achos defnyddio disgresiwn – yr enghraifft a roddir yw plant a gyrhaeddodd gyda’u rhieni. Bydd y rhai a gyrhaeddodd fel plant ar eu pen eu hunain yn gorfod ceisio esbonio pam nad oedd ganddynt ‘ddewis’ mewn gwirionedd wrth deithio i’r DU. Llawer mwy tebygol yw na fydd pobl am fentro’r ffi o £1630.

Mae Erthygl 7 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn datgan bod gan blant hawl i genedligrwydd. Wrth gwrs, ni fyddai’r rhan fwyaf o blant sy’n ffoaduriaid yn cael eu hystyried i fod ‘heb wladwriaeth’ mewn ystyr dechnegol. Mae ganddynt genedligrwydd; fodd bynnag, mae dyfarnu statws ffoaduriaid yn cadarnhau nad yw gwladwriaeth eu cenedligrwydd yn gallu cynnig amddiffyniad rhag erledigaeth, neu nid yw’n fodlon cynnig hynny. Mae’r statws hwn yn dibynnu ar y derbynnydd yn peidio ag ‘ail-fanteisio’ ar ddiogelwch gwladwriaeth ei genedligrwydd – gan gynnwys y weithred o wneud cais am basbort. Felly, heb yr opsiwn i wneud cais am ddinasyddiaeth yn ei wlad letyol, mae’n aros mewn limbo – yn dibynnu ar ddogfennau teithio ffoaduriaid, sydd mewn llawer o achosion yn golygu gofynion fisa sy’n llymach o lawer na’r rhai ar gyfer cael Pasbort Prydeinig. Oherwydd hyn, byddwn yn awgrymu bod y newid nid yn unig yn groes i Gonfensiwn y Ffoaduriaid, ond hefyd i’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn.

Fodd bynnag, mae dinasyddiaeth yn golygu mwy na phasbort, mae’n golygu cydlyniant cymdeithasol. Mae dinasyddiaeth wedi ei ddefnyddio ers y 1940au i ddynodi pwy sydd, ac yn bwysicach, pwy sydd ddim, i fod ym Mhrydain.[1] Mae yna dystiolaeth sy’n awgrymu bod mynediad at ddinasyddiaeth yn cefnogi integreiddio economaidd a chymdeithasol. Mae bechgyn a dynion ifanc sy’n wynebu’r ‘anfantais ddwbl’ o gael eu trin yn ôl eu hil ac o fod efo profiad o fod mewn gofal, yn llawer mwy tebygol o fynd i mewn i’r system cyfiawnder troseddol a’r system iechyd meddwl.[2] Gall y rhai sydd heb Ddinasyddiaeth Brydeinig hefyd wynebu’r gosb ychwanegol o allgludiad.

Fodd bynnag, ni ddylai hyn fod yn ddadl ynghylch allgludiad (er bod hynny’n sicr yn ddadl sydd angen ei chynnal). Ond yn hytrach, y cwestiwn yw pam y gallai plant, a’r rhai a gyrhaeddodd fel plant beth amser yn ystod degawdau blaenorol, gael eu gwahardd o’r rhan bwysig a sylfaenol hon o berthyn i gymdeithas yn y lle cyntaf.

[1] Kennetta Hammond Perry, London Is the Place for Me: Black Britons, Citizenship and the Politics of Race (Gwasg Prifysgol Rhydychen 2016).

[2] Laura Robertson, John Peter Wainwright bydd y ddolen hon yn agor mewn ffenestr newydd Dolen i safle allanol, ‘Black Boys’ and Young Men’s Experiences with Criminal Justice and Desistance in England and Wales: A Literature Review’ (2020) 4 Genealogy 50.