Ym mis Medi 2024, cafodd Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru’r fraint o groesawu’r Rhwydwaith Cyfraith Plant y DU i Gymru am y tro cyntaf. Sefydlwyd y Rhwydwaith Cyfraith Plant yn 2019, sef grŵp o 9 corff cyfreithiol anllywodraethol a bob rhan o’r Deyrnas Unedig. Maen nhw i gyd yn rhannu’r un uchelgais o sicrhau bod gan bob plentyn sy’n dod i gyswllt â’r gyfraith yr hawl i gynrychiolaeth gyfreithiol arbenigol, cyngor, a gwybodaeth fydd yn eu galluogi nhw i ddefnyddio eu hawliau.
I nodi’r achlysur, cynhalion ni ddigwyddiad aml-asiantaeth i ddod â chydweithwyr o bob rhan o Gymru at ei gilydd i drafod y materion sydd yn effeithio ar blant yn feirniadol, ac i ddysgu sut y mae’r Rhwydwaith Cyfraith Plant wedi defnyddio’r gyfraith yn strategol er mwyn cyflawni newid i blant. Roedd hyn yn cynnwys cael cipolwg ar y ffordd y mae hawliau’r plant y maen nhw’n gweithio â nhw yn cael eu torri, a’r camau y maen nhw’n eu cymryd i fynd i’r afael â’r mathau hyn o dorri hawliau.
Ar ddechrau’r digwyddiad, cafwyd cyfarchion ardderchog ar ffurf fideo gan Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru a Buffy Williams, Aelod Llafur o’r Senedd a Chadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg y Senedd.
Roedd hawliau plant yn thema gyson yn y digwyddiad, ac yn ystod y trafodaethau a’r cyflwyniadau, cawsom wybod am yr anghydraddoldebau sy’n bodoli ym mhob un o awdurdodaethau’r DU yng nghyd-destun gallu pobl i wireddu eu hawliau. Fe wnaethom gydnabod ein bod wedi gwneud cynnydd yng Nghymru gyda Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, a’r ddeddfwriaeth a ddilynodd y mesur, ond nid yw hyn yn ddigon. Rydym ni’n gobeithio gweld Llywodraeth Cymru yn anrhydeddu eu hymrwymiad i ymgorffori’r holl gytundebau hawliau dynol yn uniongyrchol yng nghyfraith Cymru, a phob corff cyhoeddus yn cael eu cymell i gydymffurfio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Yn ogystal â hyn, hoffem ni weld Llywodraeth Cymru yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i godi’r oedran cyfrifoldeb troseddol, ac i gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng nghyfraith y DU er mwyn dangos eu bod nhw wedi ymroi i hawliau plant.
Rydym ni’n ymwybodol mai dim ond rhan o’r datrysiad yw diwygio’r gyfraith, ac rydym ni’n cytuno â chyfranogwyr sy’n credu bod angen gwneud mwy i sicrhau bod hawliau plant yn cael eu gwireddu wrth ddarparu’r gwasanaethau ac ym mywydau bob dydd plant.
Canolbwyntiodd cyflwyniadau a rhai grwpiau ar faterion a oedd yn ymwneud ag ymgorffori Comisiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, cyfiawnder ieuenctid, gwaharddiadau o’r ysgol, anghenion dysgu ychwanegol, plant sydd yn y system ofal, plant sy’n geiswyr lloches, a phlant sydd wedi mewnfudo.
Diolch o galon i Sefydliad Esmee Fairbain am roi cyllid i Ganolfan Gyfreithiol y Plant Cymru ac i’r Rhwydwaith, yn ogystal â chyllido’r digwyddiad hwn. Heb yr arian hwn, ni fyddai’r newidiadau hyn yr ydym ni wedi ymroi i’w cyflawni yng Nghymru phob rhan o’r Deyrnas Unedig yn bosibl.