Mae Never Let Me Go gan Ishiguro yn nofel ddystopaidd am grŵp o fyfyrwyr sy’n tyfu i fyny mewn realiti amgen dychrynllyd. Mae’r stori’n cael ei hadrodd gan Kathy, sy’n ddeg ar hugain oed, ac yn myfyrio ar ei chyfnod yn Ysgol Hailsham, gan amlygu’r ffawd sy’n ei disgwyl hi, ei ffrindiau agos a’r myfyrwyr eraill yn yr ysgol. Mae’r nofel yn dilyn bywydau Kathy, Ruth a Tommy ar ôl iddynt adael yr ysgol a byw gweddill eu bywydau: Ruth a Tommy fel rhoddwyr a Kathy fel gofalwr. Rydym yn dysgu pwrpas Ysgol Hailsham yn ogystal â pham y mae bellach wedi cau, ac yn anffodus ni all cariad eu hachub rhag y ffawd sy’n eu disgwyl.
Er bod y stori’n ffuglen lwyr, gan bortreadu fersiwn o gymdeithas sydd wedi’i chamystumio, mae’n dangos pwysigrwydd hawliau dynol ac ymreolaeth bersonol (y gallu i wneud eich penderfyniadau eich hun).
Beth yw neges y nofel?
Mae nofelau dystopaidd yn aml yn anfon neges at ddarllenwyr, gan bortreadu fersiwn dywyll o gymdeithas fel rhybudd o sut y gallai bywyd fod, yn yr achos hwn, pe na bai ein hawliau’n cael eu diogelu gan y gyfraith.
Yn y blog hwn, byddaf yn defnyddio diffyg hawliau’r cymeriadau i dynnu cymhariaeth uniongyrchol â’r hawliau y mae gennych chi hawl iddynt. Yn wahanol i Kathy a’i ffrindiau agos, mae’r llywodraeth yn amddiffyn eich hawliau dynol fel mater o gyfraith. Mae’n bwysig eich bod yn gwybod eich hawliau; fel y gallwch fod yn ymwybodol pan fyddant yn cael eu hanwybyddu neu eu torri.
Beth yw eich hawliau dynol chi?
Mae gan bob plentyn yn y DU hawliau o dan y Ddeddf Hawliau Dynol a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, a elwir hefyd yn CCUHP.
Fel person ifanc yng Nghymru, mae gennych chi fwy o warchodaeth! Hwrê! Diolch i’r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, mae gan weinidogion yn Llywodraeth Cymru ddyletswydd hefyd i ystyried darpariaethau CCUHP pryd bynnag y byddant yn llunio deddfwriaeth newydd ar gyfer y wlad ond hefyd i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gwybod am hawliau plant a phobl ifanc, yn eu deall ac yn eu parchu.
Hawliau dynol (neu ddiffyg hawliau dynol) yn y nofel
Yn y nofel Never Let Me Go, nid yw hawliau Kathy a’i ffrindiau yn cael gwarchodaeth o’r fath. Yn hytrach, mae Kathy yn datgelu i ni fod eu bywydau allan o’u dwylo’n llwyr; mae eu dyfodol eisoes wedi cael ei benderfynu ar eu cyfer o oedran cynnar.
Wrth i’r stori fynd yn ei blaen ac wrth i ni ddysgu am y ffawd sy’n aros y cymeriadau, mae’n dod yn glir yn ara’ deg beth oedd y dyfodol a fwriadwyd ar eu cyfer o’r dechrau. Er bod y myfyrwyr yn Ysgol Hailsham yn ymwybodol o’u tynged, dim ond wrth i’r nofel fynd rhagddi ac i’r cymeriadau ffurfio cyfeillgarwch a chysylltiadau rhamantus y maent yn dod i sylweddoli pa mor annheg yw eu sefyllfa.
Mae Tommy, er enghraifft, yn teimlo ei fod wedi cael ei dwyllo, yn rhwystredig, allan o reolaeth ac yn ddiymadferth wrth iddo baratoi ar gyfer ei bedwaredd rhodd. Mae’r cymeriadau yn y nofel wedi cael eu hamddifadu o’u hawliau dynol: nid oes ganddynt unrhyw ymreolaeth dros eu dyfodol, mae eu ‘bywydau wedi’u trefnu’.
Rhai o’r Hawliau sy’n cael eu torri yn y nofel, wedi’u cymryd o CCUHP
Erthygl 3– buddiannau gorau’r plentyn ydy’r brif flaenoriaeth ym mhob penderfyniad a gweithred sy’n effeithio ar blant.
Erthygl 6- yr hawl i oroesi a datblygu.
Erthygl 12- yr hawl i sicrhau bod eich barn yn cael ei chlywed a’i chymryd o ddifrif.
Erthygl 19- Amddiffyniad rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod. Yn 2022, ymunodd Cymru â dros 60 o wledydd ledled y byd i roi diwedd ar gosb gorfforol i blant. Mae hyn yn golygu bod UNRHYW fath o gosb gorfforol yn erbyn plant yn anghyfreithlon.
Erthygl 28– Addysg. Dylai ysgolion barchu urddas a hawliau plant.
Erthygl 32- Mae gan bob plentyn yr hawl i gael ei amddiffyn rhag unrhyw waith sy’n beryglus, sy’n ymyrryd â’i addysg neu sy’n niweidiol i’w iechyd.
Meddyliwch: yn Never Let Me Go, ym mha ffyrdd y gwadir yr hawliau hyn i’r cymeriadau?
Beth os torrir ar eich hawliau chi?
Nid oes unrhyw amodau i hawliau dynol; mae gennych hawl i’w cael o’r eiliad y cewch eich geni, ac nid oes gan neb y grym i’w cymryd oddi wrthych.
Os ydych chi’n rhannu unrhyw un o’r emosiynau y mae’r cymeriadau yn Never Let Me Go yn eu profi: os ydych chi’n teimlo bod eich dyfodol y tu hwnt i’ch rheolaeth chi neu fod unrhyw un yn eich gorfodi i wneud unrhyw beth nad ydych chi’n gyfforddus ag ef, efallai eu bod yn torri ar eich hawliau dynol.
Beth allwch chi ei wneud?
Os ydych chi’n credu bod eich hawliau dynol yn cael eu torri, peidiwch byth ag oedi cyn gofyn am help. Mae CCUHP yn rhoi hawl i chi gael hawliau a ddylai gael eu diogelu gan y gyfraith.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am yr hawliau y mae gennych hawl iddynt, darllenwch y llyfryn hwn.
I gael poster o’ch holl hawliau: cliciwch yma.
 phwy allwch chi siarad?
Meic Cymru: ffoniwch neu WhatsApp 080880 23456 neu ddechrau sgwrs fyw ar-lein
ChildLine: ffoniwch 01792 477354
Y Samariaid: ffoniwch 0116 123
Comisiynydd Plant Cymru: 01792 765600
Barnardos: 029 2057 7074 neu anfon e-bost at cymru@barnardos.org.uk
Gair am yr awdur
Anuraag Aulakh ydw i, myfyriwr trydedd flwyddyn yn y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd rwy’n astudio modiwl hawliau dynol, felly mae’r prosiect hwn yn gyfle i mi ehangu fy angerdd dros y pwnc, gan ganolbwyntio ar hawliau plant. Nid yw llawer o bobl ifanc yn ymwybodol o’u hawliau, felly mae’n bwysig ein bod yn dod o hyd i ffyrdd o’u haddysgu a’u grymuso.
Diolch i Belina Moseley o Geldards am brawfddarllen y blog hwn.