Dr Rhian Croke, Arweinydd Ymgyfreitha Strategol ac Eirioli Polisi, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru

 

Digwyddiadau ac adroddiadau diweddar ar hawliau plant

 

Yn ddiweddar, cafwyd adroddiadau a digwyddiadau sydd wedi ein helpu i fyfyrio ar y meysydd lle gwnaed cynnydd a’r meysydd hynny lle na wnaed fawr ddim cynnydd neu ddim cynnydd o gwbl, o ran gwireddu hawliau plant yng Nghymru. Cyhoeddwyd adroddiad Llywodraeth Cymru ar gynnydd yn erbyn adroddiad Arsylwadau Terfynol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ym mis Gorffennaf eleni a fis diwethaf, cyhoeddwyd Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru hefyd, gyda thrafodaeth ddilynol yn y Senedd. Mae’r ddau adroddiad yn dangos bod angen gwneud tipyn mwy o gynnydd o hyd o ran gweithredu hawliau plant yng Nghymru.

 

Fe wnaethom hefyd gynnal ein digwyddiad Hawliau Plant a’r Gyfraith ddiwedd mis Medi gyda’n partneriaid ar y Rhwydwaith Cyfraith Plant – a wahoddodd sylwadau gan Gomisiynydd Plant Cymru a Chadeirydd Pwyllgor Addysg Plant a Phobl Ifanc y Senedd, sylwadau amhrisiadwy a chraff gan ein chwaer gyfreithwyr ar y Rhwydwaith Cyfraith Plant a chyfreithwyr ac arweinwyr polisi o bob rhan o Gymru, ar faterion hawliau plant sy’n peri pryder. Yn ein digwyddiad, fe wnaethom fyfyrio ar y ffaith bod ymgorffori CCUHP yn anuniongyrchol yn y gyfraith drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn sicr wedi helpu i wreiddio hawliau plant mewn deddfwriaeth, polisi a chanllawiau cenedlaethol. Er hyn, rydym yn dal i weld bwlch gweithredu ystyfnig, lle mae hawliau plant yn cymryd gormod o amser i’w rhoi ar waith.

 

Yr Alban v Cymru: ‘ras i’r brig’ ar hawliau plant

 

Mae’n wir ein bod yn dyst i effaith lawn caledi, sy’n sicr yn llesteirio gallu llawer o blant rhag gwireddu eu hawliau. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gweld hawliau’n cael eu gwireddu’n annheg yn dibynnu ar leoliad daearyddol plentyn yn y DU. Rydw i wedi cyfeirio at enghreifftiau o hyn mewn sawl cyflwyniad eleni, wrth gymharu’n benodol, rhwng plant sy’n byw yng Nghymru a phlant sy’n byw yn yr Alban.

 

Er enghraifft, yn yr Alban:

 

  • Ers ymgorffori CCUHP yn uniongyrchol yng nghyfraith yr Alban ym mis Gorffennaf, mae plant yn gallu herio cyrff cyhoeddus yn gyfreithiol i weithredu’n gyson â CCUHP, o dan Ddeddf Ymgorffori CCUHP (Yr Alban) 2024

 

 

  • Mae gan blant a phobl ifanc rhwng 5 a 21 oed fynediad at drafnidiaeth bws am ddim, galwad a gafodd ei gwrthod yn ddiweddar iawn gan Lywodraeth Cymru, hyd yn oed ar ôl tystiolaeth fanwl gan Bwyllgor Deisebau’r Senedd, fod hyn yn cael effeithiau cadarnhaol o ran yr amgylchedd a lliniaru tlodi, a’i fod hefyd yn helpu i hyrwyddo tegwch rhwng y cenedlaethau gyda phoblogaethau hŷn.

 

  • Mae gan blant sy’n geiswyr lloches ar eu pen eu hunain fynediad at wasanaeth gwarcheidiaeth annibynnol, a gwerthuswyd yn llwyddiannus fod y gwasanaeth hwn yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i’r garfan hon o blant eithriadol o agored i niwed, sy’n aml wedi dioddef trawma mawr ac yn ei chael yn anodd ymdopi â system loches gymhleth.

 

  • Nid ystyrir bod plant yn gyfrifol yn droseddol tan eu bod yn 12 oed ac mae cyfraith wedi’i phasio’n ddiweddar fel na fydd unrhyw blentyn dan 18 oed yn cael ei gadw mewn sefydliad troseddwyr ifanc. Mae hyn yn cydnabod bod y plant sy’n dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol fel arfer yno oherwydd trawma, esgeulustod, effaith negyddol lleoliadau mewn system gofal annigonol neu niwrowahaniaeth heb ei ddiagnosio.

 

Gyda’r ‘chwyldro’ mwy blaengar hwn mewn hawliau plant, ni all Llywodraeth Cymru honni mwyach ei bod ar flaen y gad o ran hawliau plant yn y DU. Ac fel y mae’r Athro Ann Skelton, Cadeirydd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ei egluro, ni ddylid gwahaniaethu rhwng hawliau plant mewn gwahanol ranbarthau.

 

Tystiolaeth glir a thryloyw o benderfyniadau ariannol a gwleidyddol sy’n effeithio ar wireddu hawliau plant

 

Beth sy’n ein hatal rhag cyrraedd y brig? Mae’r Alban yn sicr wedi optimeiddio cyd-destun eu setliad cyfreithiol datganoledig i fanteisio i’r eithaf ar hawliau plant, tra bo trefniadau datganoledig yng Nghymru, wedi cyflwyno lefel wahanol o gyfyngiadau, yn enwedig mewn perthynas â thlodi a chyfiawnder troseddol.

 

Cyfiawnder a phlismona

Mae angen i ni weld Llywodraeth Cymru yn dadlau’n gryfach y dylai Llywodraeth y DU ddatganoli cyfiawnder a phlismona, sydd wedi bod yn uchelgais hirdymor i Lywodraeth Cymru a hefyd yn un o argymhellion Comisiwn Silk yn 2011, Comisiwn Thomas yn 2019 ac yn gynharach eleni, yn rhan o alwad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Fel arall, mae pryderon y bydd y sefyllfa bresennol yn parhau, gyda rhwystrau i gynyddu’r isafswm oedran cyfrifoldeb troseddol, sy’n anghyson â safonau hawliau plant rhyngwladol a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru i hawliau plant. Ar ben hynny, cyfiawnder ieuenctid yw’r unig wasanaeth i blant yng Nghymru nad yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano o hyd. Byddai datganoli cyfiawnder ieuenctid yn helpu i chwalu’r rhwystrau presennol rhag llunio polisïau cysylltiedig a darparu gwasanaeth i blant yng Nghymru, yn ogystal â chysylltu llinellau atebolrwydd. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo dull cydlynol ac unigryw yng Nghymru sy’n seiliedig ar egwyddorion hawliau plant.

 

Tlodi

Cymru yw’r rhanbarth tlotaf yn y DU, gyda’r gyfradd uchaf o dlodi plant. Dylem felly fod yn cael arian sy’n cyfateb i rannau eraill o’r DU. Mae angen i ni weld Llywodraeth Cymru yn dadlau’n gryf dros gael mwy o arian i Gymru, gan roi newidiadau ar waith i fformiwla Barnett (mae Cyllideb ddiweddar y DU wedi arwain at wariant ar sail poblogaeth, tua £620 y pen ar gyfer yr Alban a dim ond £541 y pen ar gyfer Cymru). Mae angen i ni hefyd weld Ystad y Goron yn cael ei datganoli’n llawn yng Nghymru, fel sy’n digwydd yn yr Alban. Rhoddir yr elw o Ystad y Goron i Lywodraeth yr Alban, ond nid i Lywodraeth Cymru. Mae angen i ni hefyd gael mwy o reolaeth dros fudd-daliadau, gan weld Cymru, o bosibl, yn cyflwyno Taliad Plant tebyg i’r un a geir yn yr Alban.

 

Caledi ac atebolrwydd penderfyniadau cyllidebol

Wrth wraidd hyn i gyd mae effaith hirdymor penderfyniadau ynghylch caledi, sydd yn sicr wedi cael effeithiau negyddol ar gynifer o agweddau ar fywydau plant, eu hiechyd meddwl a chorfforol, eu hanghenion dysgu ychwanegol a’u cyrhaeddiad academaidd, eu safon byw a’u disgwyliad oes. Rhoddwyd cryn ymrwymiad a chyllid i’r dadansoddiad cost a budd o’r terfyn cyflymder 20mya; mae angen i ni weld yr un ymrwymiad a thystiolaeth o’r gost hirdymor i gymdeithas yn sgil peidio â chefnogi’r genhedlaeth hon o blant.

 

Dylid cael tryloywder ac atebolrwydd ynghylch y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud sy’n cael effaith ddofn ar blant yng Nghymru. Fel yr argymhellwyd yn gyson gennym ni, ac yn wir gan Bwyllgor Addysg Plant a Phobl Ifanc y Senedd, rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos sut mae’n bodloni ei rhwymedigaeth i roi sylw dyledus i CCUHP a sut mae’n defnyddio ‘cymaint o adnoddau ag sydd ar gael’ i sicrhau bod plant yn gallu arddel eu hawliau o dan y Confensiwn. Ni ddylid gwrthod gwneud hyn heb ddadansoddiad manwl o’r rhesymau pam nad yw hawliau plant yn cael eu cyflawni – gan gynnwys ystyriaeth gytbwys a thryloyw o’r hyn sy’n cael ei wario ar blant – neu’r hyn nad yw’n cael ei wario arnynt – ochr yn ochr â phenderfyniadau gwario eraill.

 

Myfyrdodau terfynol

Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn argymell yn briodol bod angen gweithredu system olrhain ar gyfer dyrannu, defnyddio a monitro adnoddau ar gyfer plant gyda’r nod o ddileu gwahaniaethau a sicrhau tegwch. Mae hefyd yn eithaf clir na ddylai mesurau caledi effeithio ar blant ac na fydd mesurau negyddol ond yn cael eu hystyried ar ôl asesu pob opsiwn arall, gan sicrhau mai plant yw’r olaf i gael eu heffeithio.

ÔL-NODIADAU

[1] Nid oes gan Gymru reolaeth dros bob mater. Cedwir rhai materion ar gyfer senedd y DU. Mae nifer o’r rhain yn gyson ar draws holl wledydd y DU, ond mae materion yn wahanol i Gymru o’u cymharu â’r Alban. Ceir yr enghraifft amlycaf ym maes cyfiawnder a phlismona, sydd wedi’i ddatganoli yn yr Alban.

 

O dan Ddeddf yr Alban 2016, mae gan yr Alban y pŵer i greu ei budd-daliadau ei hun mewn meysydd penodol e.e. Taliad Plant yr Alban. Mae Llywodraeth y DU yn dal i fod yn gyfrifol am lawer o fudd-daliadau eraill. Mae Llywodraeth yr Alban yn gweithio i liniaru effaith negyddol y terfyn 2 blentyn drwy ddyrannu ei chyllideb ei hun. Yn weithdrefnol, fodd bynnag, mae angen cydweithrediad Llywodraeth y DU arni i godi’r terfyn 2 blentyn.

Ein gobaith ni yw y bydd hyn i gyd yn cael ei ystyried wrth ddatblygu Cyllideb Llywodraeth Cymru.