Yn 1997, cynhaliwyd refferendwm yng Nghymru, pan ofynnwyd a ddylid cael Cynulliad yng Nghymru ai peidio. Pleidleisiodd mwy o bobl y dylid cael Cynulliad yng Nghymru o’i gymharu â’r rheini bleidleisiodd na ddylid cael Cynulliad.

Crëwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol) yn 1999 ar ôl y bleidlais hon.

Nid yw’r Cynulliad Cenedlaethol yn gallu creu deddfau am bopeth. Mae’r deddfau mae’n eu gwneud yn berthnasol i Gymru yn unig hefyd – nid gweddill y DU. Mae Senedd y DU yn dal i wneud deddfau sy’n berthnasol yng Nghymru, ond gall y Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu am nifer o bethau, gan gynnwys digon o bethau sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc: mae addysg, iechyd a gofal cymdeithasol i gyd yn ‘faterion sydd wedi’u datganoli’. Mae ychydig mwy am hyn ar ddiwedd y blog.

 

The Senedd in Cardiff Bay houses the National Assembly for Wales which makes law for Wales on devolved matters

Effaith Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ar y gyfraith yng Nghymru

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) yn gytundeb rhyngwladol ynglŷn â’r hawliau y gall pob plentyn (pawb o dan 18 oed) eu disgwyl wrth iddynt dyfu. Llofnododd y DU y cytundeb yn 1991, ond nid yw’r DU wedi’i ‘ymgorffori’ i gyfraith y DU.

Yng Nghymru, mae’r UNCRC wedi’i ymgorffori i’r gyfraith. Mor gynnar â 2004, penderfynodd Llywodraeth Cymru y byddai’n defnyddio’r UNCRC wrth edrych ar bolisïau a oedd yn effeithio ar blant a phobl ifanc.

Yn 2011 pasiodd y Cynulliad Cenedlaethol gyfraith o’r enw Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru). Caiff ei alw’n aml fel ‘y Mesur’. Mae hon yn gyfraith bwysig sy’n cyflwyno rhywbeth o’r enw dyletswydd ‘sylw dyledus’. Rhaid i weinidogion Llywodraeth Cymru feddwl am hawliau plant wrth iddynt ddatblygu unrhyw ddeddfau neu pan maen nhw’n adolygu deddfau. Pryd bynnag y bydd Llywodraeth Cymru yn pasio cynnig am gyfraith i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae’n rhaid iddi gynnwys Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant (CRIA). Bydd y CRIA yn egluro a fydd y gyfraith newydd yn effeithio ar hawliau plant, ac ym mha ffyrdd. Mae hyn yn berthnasol i bob deddf sy’n cael ei phasio gan y Cynulliad Cenedlaethol – hyd yn oed os nad yw’n ymddangos ei bod yn effeithio ar blant.

Pam fod angen i fi wybod bod y gyfraith yn wahanol yng Nghymru?

Felly beth os yw’r gyfraith yn wahanol yng Nghymru? Oes ots?

Gellir datrys nifer o’r problemau sy’n ein hwynebu mewn bywyd heb edrych ar y gyfraith, ond mae’r gyfraith yn effeithio ar y rhan fwyaf o’n bywydau, hyd yn oed os nad ydym yn sylweddoli hynny.

Os oes gennych broblem na allwch ei datrys eich hun neu drwy siarad â’r bobl dan sylw, efallai y bydd angen i chi ddeall beth yw’r gyfraith. Mae gwybod y gallai’r gyfraith fod yn wahanol yng Nghymru yn golygu eich bod yn fwy tebygol o gyrraedd yr ateb cywir am y broblem rydych chi’n mynd i’r afael â hi.

O ran meysydd lle mae’r gyfraith yn wahanol yng Nghymru, dyma rai enghreifftiau sydd wedi bod yn y penawdau yn ddiweddar:

Dyma rai o’r ffyrdd y mae’r gyfraith yn wahanol yng Nghymru, ond mae llawer mwy, a gallent wneud gwahaniaeth mawr i chi.

Mae’r ffaith bod yn rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru feddwl am hawliau plant wrth lunio neu adolygu’r gyfraith yng Nghymru hefyd yn golygu y gall y gyfraith fod yn wahanol yng Nghymru.

Sut mae darganfod a oes angen i fi edrych ar gyfraith Cymru neu gyfraith y DU?

I ddechrau, mae’n werth gwybod pa feysydd y gall y Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu yn eu cylch. Ceir 20 o feysydd sy’n benodol i Gymru. Materion ‘lleol’ yw’r rhain gan fwyaf ac maen nhw’n cynnwys:

  • addysg a hyfforddiant,
  • gwasanaethau iechyd,
  • tai,
  • lles cymdeithasol,
  • y rhan fwyaf o faterion cynllunio a chyflenwadau dŵr
  • amaethyddiaeth,
  • pysgodfeydd,
  • coedwigoedd,
  • diwylliant, gan gynnwys y Gymraeg
  • datblygiad Economaidd;
  • yr amgylchedd.

Sut alla i fod yn siŵr fy mod i’n edrych ar y gyfraith gywir?

Os oes angen i chi wybod beth yw’r gyfraith am rywbeth, y peth cyntaf i’w wirio yw a yw’n rhywbeth a allai gael ei gwmpasu gan yr 20 maes sydd wedi’u ‘datganoli’ i Gymru. Os ydych yn chwilio ar y rhyngrwyd, mae’n werth ychwanegu ‘yng Nghymru’ at eich chwiliadau, a gwirio a yw’r gwefannau rydych yn ymweld â nhw yn sôn am y gyfraith yng Nghymru neu’r gyfraith yn Lloegr.

Mae ein gwefan yn fan cychwyn da i gael gwybod mwy am y gyfraith yng Nghymru. Rydym  wedi creu adran o’r enw Sut mae’r Gyfraith yn Effeithio Arna I, wedi’i rhannu’n wahanol feysydd lle gallai fod gennych gwestiynau am y gyfraith.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â’r gyfraith, ac os na allwch ddod o hyd i ateb ar y wefan, gallwch e-bostio childrenslegalcentre@swansea.ac.uk Ni allwn roi cyngor ar achosion unigol, ond gallwn roi gwybodaeth am y gyfraith yng Nghymru, a sut gallai effeithio arnoch chi.