Dr Rhian Croke, Arweinydd Ymgyfreitha Strategol ac Eirioli Polisi, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru
Mewn newid pwysig, mae pobl ifanc 16 oed wedi cael yr hawl i bleidleisio yn Etholiad Cyffredinol nesaf y DU — cam sy’n cydnabod eu gallu i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau democrataidd ac sy’n cydnabod y dylent gael llais yn y gwaith o lunio’r gymdeithas maen nhw’n byw ynddi. Mae hwn yn ddiwygiad hirddisgwyliedig sy’n golygu bod Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cyd-fynd â Chymru a’r Alban. Yng Nghymru, mae pobl ifanc 16 ac 17 oed wedi gallu pleidleisio mewn etholiadau Senedd Cymru ers 2020.
Ond eto, mae’r datblygiad hwn yn tynnu sylw manwl at anghysondeb mawr yn ein system gyfreithiol: er mai dim ond newydd gael eu hystyried yn ddigon aeddfed i bleidleisio mae pobl ifanc 16 oed, mae’n dal yn bosibl arestio plant mor ifanc â 10 oed yng Nghymru a Lloegr, a’u cyhuddo a’u herlyn mewn llys troseddol.[i] Mae hyn yn codi cwestiynau difrifol ynghylch sut rydyn ni’n diffinio aeddfedrwydd, cyfrifoldeb a chyfiawnder.
Beth yw Oedran Cyfrifoldeb Troseddol?
Ystyr oedran cyfrifoldeb troseddol yw’r oedran ieuengaf y gellir erlyn a chosbi rhywun o dan y gyfraith. Yng Nghymru a Lloegr, 10 oed yw’r oedran hwnnw, yr ieuengaf yn Ewrop.
Yn syml, mae hyn yn golygu y gall y canlynol ddigwydd i blentyn 10 oed sy’n cyflawni trosedd:
- Cael ei gyfweld gan yr heddlu a’i gadw gan yr heddlu
- Cael ei noeth-chwilio
- Cael ei erlyn mewn llys ieuenctid neu yn llys y goron
- Cael ei ddedfrydu i sefydliad troseddau ieuenctid
- Cael cofnod troseddol a all barhau nes bydd yn oedolyn.
Yn hanesyddol, roedd cyfraith Lloegr yn cydnabod athrawiaeth doli incapax, a oedd yn tybio na allai plant 10-13 oed gyflawni bwriad troseddol oni phrofir fel arall. Fodd bynnag, diddymodd Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 y mesur diogelu hwn, sy’n golygu bod plant dros 10 oed bellach yn cael eu trin fel unigolion sydd â gallu troseddol llawn, yn union fel oedolion. Mae hyn o’i gymharu â chanfyddiadau diweddar ein rhaglen addysg gyfreithiol lle nad oedd gan blant unrhyw syniad eu bod yn droseddol gyfrifol mor ifanc.
Y Broblem: Beth Rydyn ni’n ei Wybod am Ddatblygiad Plant
Mae niwrowyddoniaeth fodern a seicoleg ddatblygiadol yn cynnig tystiolaeth gref nad yw plant 10 oed yn ddigon aeddfed yn ddatblygiadol i gael eu dal yn gwbl atebol am ymddygiad troseddol.
- Maen nhw’n dal i ddatblygu’r gallu i reoli mympwy a sgiliau rhesymu moesol
- Maen nhw’n agored iawn i bwysau gan gyfoedion a dylanwad allanol
- Yn aml, dydyn nhw ddim yn gallu rhagweld canlyniadau tymor hir.
Er eu bod efallai’n deall cysyniadau sylfaenol yr hyn sy’n iawn a ddim yn iawn, maen nhw’n aml yn ei chael hi’n anodd cymhwyso’r ddealltwriaeth honno mewn sefyllfaoedd llawn emosiwn neu llawn straen—yr union sefyllfaoedd lle mae troseddu ieuenctid yn digwydd yn aml.
Yn ôl Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a’r Ganolfan Astudiaethau Trosedd a Chyfiawnder, dydy’r llabed flaen—y rhan honno o’r ymennydd sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau a rheoli ymddygiad—ddim wedi datblygu’n llawn.
Ar ben hynny, dydy’r plant sydd fwyaf tebygol o ddod i gysylltiad â’r system gyfiawnder ddim yn droseddwyr bychan—maen nhw’n aml ymysg y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mae llawer yn byw mewn tlodi, wedi cael eu trin yn wael, yn y system ofal, yn niwrowahanol, neu mae ganddyn nhw anghenion iechyd meddwl heb eu diwallu. Mae eu hymddygiad yn aml yn adlewyrchu trawma ac anghenion cymorth sydd heb eu diwallu, yn hytrach na malais drwg neu fethiant moesol.
Mae perygl hefyd bod yr oedran cyfrifoldeb troseddol ifanc yn arwain at rwystro llesiant a chefnogaeth gymdeithasol i blant, gan eu trawsnewid yn droseddwyr, yn hytrach na bod yr hyn ydyn nhw, sef plant sy’n haeddu cefnogaeth a gwasanaethau o safon. Does dim angen i blant gael eu troseddoli—tosturi, strwythur, diogelwch a’r cyfle i wella sydd ei angen arnyn nhw.
Anghysondeb Amlwg: Pleidleisio vs. Cyfrifoldeb Troseddol
Mae’r penderfyniad i ganiatáu i bobl ifanc 16 oed bleidleisio yn cydnabod bod pobl ifanc yn magu aeddfedrwydd gwleidyddol a chymdeithasol wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, a bod eu llais a’u galluoedd sy’n esblygu yn bwysig. Ond mae’r diwygiad hwn yn teimlo braidd yn chwithig ochr yn ochr â system sy’n dal i dybio bod plant 10 oed ar fai yn droseddol.
Mae’n anghysondeb amlwg:
- Rhy ifanc i bleidleisio yn 15 oed
- Digon hen i gael eu dyfarnu’n euog o drosedd yn 10 oed
Dim rhywbeth technegol yn unig yw’r camgymhariad cyfreithiol hwn—mae’n adlewyrchu anghysondeb dyfnach yn ein hagweddau at blant. Ar y naill law, rydyn ni’n gohirio hawliau fel pleidleisio, cydsyniad meddygol llawn, neu lofnodi contractau nes bydd unigolion yn 16 neu 18 oed. Ar y llaw arall, rydyn ni’n cosbi plant sy’n dal yn yr ysgol gynradd mewn ffordd debyg i oedolion. Mae oedran cyfrifoldeb troseddol yn mynd yn groes i safonau cyfreithiol eraill ar gyfer aeddfedrwydd a gwneud penderfyniadau.
Gwir Effaith Troseddoli Plant
Gall troseddoli plant mor ifanc â 10 oed achosi niwed sylweddol a pharhaol:
- Mae’r profiad o gael eu harestio, eu cadw a’u cwestiynu yn aml yn drawmatig.
- Gall cofnod troseddol amharu ar addysg, cyflogaeth a pherthnasoedd cymdeithasol yn y dyfodol
- Mae aildroseddu’n fwy tebygol, ddim yn llai tebygol, yn enwedig lle ceir diffyg cymorth ac adsefydlu.
Yn hytrach na chywiro ymddygiad, mae oedran ifanc cyfrifoldeb troseddol yn cynyddu ymwneud plant â’r system cyfiawnder troseddol—gan droi camgymeriadau ieuenctid yn anfanteision oes.
Cymariaethau Rhyngwladol
Cymru a Lloegr sydd â’r oedran cyfrifoldeb troseddol ieuengaf yn Ewrop. Gweler enghreifftiau o Ewrop yn y Tabl isod:
|
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
Ymhellach i ffwrdd, efallai y bydd yn ddiddorol i chi ddysgu bod isafswm oedran cyfrifoldeb troseddol yn uwch yn Tsieina a Rwsia nag yng Nghymru a Lloegr, sy’n tynnu sylw at y ffaith bod Cymru/Lloegr wir yn allanolion rhyngwladol.
Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wedi beirniadu oedran ifanc cyfrifoldeb troseddol y DU dro ar ôl tro, ac unwaith eto, roedd eu Sylwadau Clo yn 2023, yn erfyn ar wladwriaeth y DU sy’n barti i godi’r oedran.
Yng Nghymru, mae’r Comisiwn ar Gyfiawnder hefyd wedi argymell codi oedran cyfrifoldeb troseddol. Ers dyddiau cynnar datganoli, mae Cymru wedi hyrwyddo Dull Gweithredu Plant yn Gyntaf a Hawliau Plant,[ii] ac mae’n bryd i Lywodraeth y DU roi pwerau datganoledig i Gymru dros gyfiawnder troseddol, fel yr argymhellwyd gan Gomisiwn Silk yn 2011, Comisiwn Thomas yn 2019 a’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn 2024.
Yna gallai Cymru sicrhau bod deddfwriaeth cyfiawnder troseddol yn cyd-fynd â safonau rhyngwladol hawliau plant ac yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaeth hawliau plant sy’n benodol i Gymru.
I Gloi
Mae’r penderfyniad i roi’r bleidlais i bobl ifanc 16 oed i’w groesawu. Mae’n cydnabod y dylai pobl ifanc gael yr hawl i gymryd rhan mewn penderfyniadau democrataidd. Fodd bynnag, oni bai ein bod yn mynd i’r afael ag anghysondeb troseddoli plant sy’n llawer iau na hynny, rydyn ni’n anfon negeseuon cymysg ynghylch trothwyon oedran aeddfedrwydd a gwneud penderfyniadau. Dydy codi oedran cyfrifoldeb troseddol ddim yn golygu anwybyddu ymddygiad niweidiol. Mae’n golygu ymateb iddo mewn ffyrdd sy’n canolbwyntio ar y plentyn, lle mae hawliau plant yn cydymffurfio â safonau rhyngwladol, sy’n ystyriol o drawma ac sy’n briodol yn ddatblygiadol. Mae’n bryd i Gymru a Lloegr godi oedran cyfrifoldeb troseddol!
ÔL-NODIADAU
[i] Dyma erthygl academaidd ddefnyddiol sy’n trafod Oedran Cyfrifoldeb Troseddol ac sy’n cyfeirio at Gymru –Brown, A., a Charles, A. (2019). The Minimum Age of Criminal Responsibility: The Need for a Holistic Approach. Youth Justice, 21(2), 153 171.
[ii] O ddyddiau cynnar datganoli gyda’r Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan a oedd yn cyfleu pwysigrwydd trin plant fel plant yn gyntaf ac fel troseddwyr yn ail, i’r Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid ac yn fwyaf diweddar, Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid: Fframwaith Atal, mae Cymru wedi ymrwymo i Egwyddorion Plant yn Gyntaf a Hawliau Plant. Mae oedran cyfreithiol cyfrifoldeb troseddol yn mynd yn groes i’r datblygiadau hirdymor hyn sydd wedi cael eu croesawu yng Nghymru.
