Yr Athro Jane Williams, Cadeirydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru
Cefais yr anrhydedd yn ddiweddar o gyflwyno’r ddarlith flynyddol ar gyfer yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant ym Mhrifysgol Abertawe. Dewisais y teitl ‘Pam fod angen Cyfreithwyr ar Blant, nid dim ond y Gyfraith’. Bûm yn myfyrio ar y cyfreithiau amddiffynnol niferus sy’n bodoli, a’r dyletswyddau a phwerau niferus ar gyrff cyhoeddus, a gynlluniwyd i greu plentyndod mwy diogel, hapus ac iach i blant yng Nghymru. Nodais fod yr ‘edefyn’ hawliau plant wedi’i bwytho yng nghyfreithiau a’r gallu datganoledig i greu polisïau yng Nghymru ers dechrau’r llywodraeth ddatganoledig ym 1999.
Er hynny, yn ymarferol, mae’n aml yn anodd iawn i blant, naill ai eu hunain neu drwy eu gofalwyr, ddefnyddio’r cyfreithiau hyn pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le: pan nad ydynt wedi’u hamddiffyn, pan nad oes darpariaeth ar eu cyfer, neu nid ydynt yn cael eu parchu mewn ffordd sy’n ofynnol yn gyfreithiol. Drwy ein gwaith yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, gwyddom fod plant a phobl ifanc yng Nghymru yn aml yn wynebu materion cyfreithiol mewn cysylltiad â mewnfudo, addysg, tai, gofal cymdeithasol, cyfiawnder troseddol a chyfraith teulu, ymysg eraill. Ac, yn hanfodol, mae ein gwaith ymchwil ni ac eraill yn dangos yn gyson nad yw llawer o blant yn gallu cael mynediad at gyngor cyfreithiol arbenigol, amserol sydd wedi’i deilwra i’w hanghenion nhw. Mae rhwystrau yn cynnwys gostyngiad yn y ddarpariaeth cymorth cyfreithiol, argaeledd cyfyngedig cyfreithwyr arbenigol, llythrennedd cyfreithiol isel ymhlith pobl ifanc, a gwendidau strwythurol yn y system gyfiawnder.
Felly, mae angen clir am wasanaethau cyngor cyfreithiol hygyrch, ymroddedig wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc, ac yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru rydym yn gweithio gyda’n partneriaid niferus i ganfod ffyrdd i ddarparu’r angen hwn pryd bynnag a lle bynnag y bydd yn codi yng Nghymru.
Mae’r Blog hwn yn cyflwyno rhywfaint o’r dystiolaeth rydym wedi bod yn ei chasglu wrth i ni weithio tuag at fodel cyflenwi. Mae’n hollbwysig ein bod yn casglu’r holl wybodaeth er mwyn i ni wneud y defnydd gorau o’r adnoddau presennol, gan gynnwys ein cydweithrediadau a’n rhwydweithiau, yn ogystal â datblygu’r gwasanaethau rydym eisiau eu cynnig yn uniongyrchol i blant a’u gofalwyr.
Mae casglu tystiolaeth yn flaenoriaeth barhaus i ni. Mae croeso i chi gysylltu os oes gennych unrhyw wybodaeth bellach i’w chynnig ar angen cyfreithiol heb ei gyflawni – gweler y manylion cyswllt yma.
Angen Cyfreithiol Heb ei Gyflawni yng Nghymru
Canfu’r astudiaeth Anghenion Cyfreithiol yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas y Gyfraith (2026) bod 73% o bobl yng Nghymru wedi profi o leiaf un mater cyfreithiol yn ystod y pedair blynedd diwethaf, er hynny ni dderbyniodd 35% o bobl unrhyw gymorth ar gyfer eu problem. Y rhwystr mwyaf cyffredin a nodwyd oedd anhawster i ddod o hyd i rywun sy’n gallu neu sy’n barod i helpu gyda’r mater.
Mae’r data hwn yn awgrymu rhwystrau systemig wrth gael mynediad at gymorth cyfreithiol, yn arbennig mewn ardaloedd â llai o weithwyr cyfreithiol proffesiynol. Er bod yr astudiaeth yn canolbwyntio ar y boblogaeth gyffredinol, mae plant a phobl ifanc yn fwy tebygol o wynebu heriau hyd yn oed yn fwy oherwydd eu dibyniaeth ar oedolion i gael mynediad at wasanaethau, diffyg gwybodaeth am hawliau, a’u bod yn agored i niwed o fewn systemau cyfreithiol.
Llythrennedd Cyfreithiol ac Ymwybyddiaeth Ymysg Plant
Mae mynediad at gyfiawnder wedi’i gyfyngu gan lefelau isel o wybodaeth gyfreithiol. Sut mae disgwyl i blentyn wybod bod bod yn llwglyd yn barhaol neu gael eu trin yn wael, neu gael eu hamddifadu o gyfleoedd addysgol, diwylliannol, economaidd neu hamdden, neu broses briodol, yn groes i’w hawliau, neu’n torri rhyw bŵer neu ddyletswydd cyfraith gyhoeddus? Sut mae unrhyw un yn gwybod pa broses gyfreithiol y gellid ei defnyddio i unioni pethau? Nid yw unrhyw un yn cael eu geni gyda’r wybodaeth! Mae ymchwil Addysg Gyfreithiol Gyhoeddus wedi disgrifio Cymru fel “anialwch addysg gyfreithiol,” lle mae’r ddarpariaeth addysg gyfreithiol mewn ysgolion yn dameidiog ac anghyson.
Canfu astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd yn 2024 bod llai na hanner yr ysgolion cynradd yn darparu unrhyw addysg gyfreithiol, a phan mae’n bodoli, mae’n dueddol o ganolbwyntio ar reoli ymddygiad yn hytrach na hawliau plant neu brosesau cyfreithiol.
Mae llythrennedd cyfreithiol isel yn golygu nad yw llawer o bobl ifanc yn ymwybodol o’u hawliau, y prosesau cyfreithiol sy’n effeithio arnyn nhw, neu sut i geisio cyngor pan fydd problemau’n codi. Mae hyn yn cyfeirio at angen am wasanaethau penodol ar gyfer plant sy’n cyfuno darpariaeth cyngor cyfreithiol gydag addysg gyfreithiol.
Bregusrwydd Plant yn y System Gyfiawnder
Mae plant sy’n gysylltiedig â systemau cyfreithiol yn aml yn wynebu heriau ychwanegol sy’n golygu bod cyngor cyfreithiol yn arbennig o bwysig. Er enghraifft, mae ymchwil i gyfiawnder ieuenctid yng Nghymru yn dangos bod gan tua 60% o blant yn y system cyfiawnder ieuenctid anghenion lleferydd, iaith neu gyfathrebu, o gymharu â thua 10% o blant yn y boblogaeth gyffredinol.
Gall y rhwystrau cyfathrebu hyn atal plant rhag deall achosion cyfreithiol neu fynegi eu safbwyntiau yn effeithiol. Heb gymorth cyfreithiol arbenigol, gallai llawer o blant gael anhawster i gyfranogi’n ystyrlon mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.
Mae plant hefyd yn dod yn rhan o’r system gyfiawnder o ganlyniad i gam-fanteisio. Mae tystiolaeth yn dangos bod pobl ifanc sy’n profi tlodi, cam-drin domestig neu ansefydlogrwydd teuluol yn agored iawn i gam-fanteisio troseddol.
Gall gwasanaethau cyngor cyfreithiol arbenigol helpu i sicrhau bod y plant hyn yn cael eu cydnabod fel plant sydd angen diogelwch a chefnogaeth briodol yn hytrach na throseddoli.
Materion Systemig yn y System Cyfiawnder Teuluol
Mae adroddiadau diweddar yn seiliedig ar ganfyddiadau corff gwarchod y llywodraeth yn dangos bod y gyfran o blant sy’n aros dros flwyddyn am benderfyniadau llys teulu wedi cynyddu o 0.7% yn 2017 i 12% erbyn 2024.
Gall oedi hir mewn achosion gofal a theuluol greu canlyniadau difrifol i blant, gan gynnwys ansefydlogrwydd, tarfu ar addysg, a straen emosiynol. Gall mynediad at gyngor cyfreithiol annibynnol helpu plant a theuluoedd i ddeall prosesau cyfreithiol, llywio oedi, a sicrhau bod eu hawliau’n cael eu diogelu.
Prinder Cyngor Cyfreithiol Arbenigol ar gyfer Plant ar eu Pen eu Hunain
Canfu papur briffio yn 2025 ar gyngor cyfreithiol ar gyfer plant sy’n ceisio lloches gan Ganolfan Gyfreithiol y Plant Cymru a Sefydliad Bevan bod llawer o blant sydd ar eu pen eu hunain yn cael anhawster i sicrhau cynrychiolaeth gyfreithiol er bod ganddynt hawl i gymorth cyfreithiol.
Canfu’r adroddiad hefyd, mewn 38% o ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru, mai gweithwyr cymdeithasol yn hytrach na chyfreithwyr yw’r prif berson proffesiynol sy’n cynorthwyo plant i gael mynediad at gyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol.
Mae’r ddibyniaeth hon ar weithwyr proffesiynol nad ydynt yn rhai cyfreithiol yn dangos y prinder o wasanaethau cyfreithiol arbenigol sydd ar gael ac mae’n codi pryderon ynglŷn ag a yw plant yn derbyn arweiniad cyfreithiol cywir ac annibynnol. Heb gynrychiolaeth gyfreithiol briodol, mae plant yn wynebu colli statws mewnfudo, profi oedi gyda phenderfyniadau lloches a chael eu hamlygu i i gam-fanteisio neu amddifadedd.
Fframwaith Hawliau Plant yng Nghymru
Mae gan Gymru fframwaith polisi cryf sy’n cydnabod hawliau plant, yn arbennig drwy Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNRC). Mae polisi Llywodraeth Cymru yn pwysleisio’r pwysigrwydd o sicrhau bod plant yn gallu cael mynediad at eu hawliau a chyfranogi mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.
Fodd bynnag, mae cyrff rhyngwladol gan gynnwys Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wedi amlygu’r angen am ddulliau cyfiawnder sy’n addas i blant a chyngor cyfreithiol sy’n briodol i’w hoedran.
Heb wasanaethau cyfreithiol hygyrch ac arbenigol, efallai na fydd plant yn gallu arfer yr hawliau hyn yn effeithiol.
Casgliad
Mae’r dystiolaeth rydym yn ei chasglu yn cyfeirio’n gryf at yr angen am wasanaethau cyngor cyfreithiol pwrpasol i blant yng Nghymru. Mae gwasanaethau o’r fath yn bodoli mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol, er enghraifft drwy Child Law Advice yn Lloegr, Clan Childlaw yn yr Alban a Chanolfan Gyfreithiol y Plant yng Ngogledd Iwerddon. Mae angen cyfreithwyr ar blant oherwydd mae deall a defnyddio’r gyfraith yn fater arbenigol: nid yw’n ddigonol bod cyfraith yn bodoli os nad yw’r rhai y mae’n bwriadu eu diogelu yn gallu ei defnyddio. Dyma’r bwlch rydym eisiau helpu i’w lenwi, gan flaenoriaethu’r rhai y mae tystiolaeth yn awgrymu sy’n wynebu’r angen mwyaf, a gweithio gyda phartneriaid yng nghyd-destun unigryw Cymru.
Ffynonellau ar Fynediad Plant at Gyfiawnder yng Nghymru
Adroddiadau Allweddol sy’n Benodol i Gymru
- Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru a Sefydliad Bevan (2025) – Barriers to Legal Advice and Representation for Asylum-Seeking Children in Wales
- Cymdeithas y Gyfraith (2026) – Anghenion Cyfreithiol yng Nghymru
- Llywodraeth Cymru (2025) – Hawliau Plant a phobl ifanc: Adroddiad Cydymffurfio
- Comisiynydd Plant Cymru (2016) – Lleisiau Coll: Adolygiad o Wasanaethau Eiriolaeth i Blant yng Nghymru
- Ymchwil y Senedd (2024) – Diogelu yn Hytrach na Chosbi? Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru
Cyhoeddiadau Academaidd / Ymchwil
- Williams, H. a Bussicott, P. (2018) – The Desert: Public Legal Education in Wales
- Prifysgol Caerdydd (2024) – Astudiaeth ar lythrennedd cyfreithiol mewn ysgolion yng Nghymru
- Wolfreys, A. (2026) – Access to Justice: Objecting Children as Parties in Hague Convention Cases (International Journal of Law, Policy and the Family)
- Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid – Adroddiadau Plant yn y System Cyfiawnder Ieuenctid
- Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield – Family Court Delays and Children
Astudiaethau Mynediad at Gyfiawnder Cymharol / DU
- Pleasence, P. et al. – Paths to Justice research programme
- Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol – Reshaping Legal Services for Children 2021
- JUSTICE – Understanding Courts and Tribunals Needs of Young People
- UNICEF UK – Child-Friendly Justice in the UK
- Youth Access – Young People’s Access to Legal Advice
- Y Ganolfan Arloesi ym Maes Cyfiawnder – Youth Justice and Legal Representation
