Mae About a Boy, yn llythrennol, yn sôn am fachgen. Mae’r llyfr, gan Nick Hornby, yn canolbwyntio ar Marcus, bachgen swil 12 oed a’i ymdrechion i wneud synnwyr o’r byd anniben yn aml y mae’r oedolion o’i gwmpas yn byw ynddo. Y ddau brif oedolyn yw ei fam, Fiona, a’i ‘ffrind’, Will. Mae Fiona wedi cael ysgariad, ac fel mae About a Boy yn nodi’n glir, mae’n cael pyliau o iselder yn aml. Ar ôl iddi fynd i grŵp cymorth i rieni sengl daw Will, sy’n mynd i’r grŵp yn wreiddiol â’r bwriad o ddod o hyd i gymar, yn rhan o fywyd Marcus.
Mae’r nofel yn canolbwyntio ar y cyfeillgarwch annhebygol rhwng Marcus, sy’n teimlo ei fod yn wahanol i bawb arall o’i gwmpas, a Will, sy’n ‘cŵl’, ac yn llawn hyder. Ond os edrychwch chi’n agosach, o dan y tynnu coes am steil gwallt a cherddoriaeth, mae About a Boy yn fan cychwyn da er mwyn ystyried pa gyfreithiau sydd yn eu lle i gefnogi plant sy’n cael eu heffeithio gan ysgariad a heriau salwch meddwl rhieni.
Ysgariad
Mae rhieni Marcus eisoes wedi ysgaru erbyn yr adeg rydyn ni’n cael ein cyflwyno iddo. Ac eto, mae’r ysgariad teuluol yn cael effaith sylweddol ar fywyd Marcus, ac mae Marcus yn poeni’n aml am berthnasoedd Fiona. Ym mrawddeg agoriadol About a Boy mae Marcus yn gofyn i Fiona ydy hi a’i phartner diweddaraf wedi gwahanu.
Pan gyhoeddwyd About a Boy am y tro cyntaf, yn 1998, roedd cyfraith ysgariad yn wahanol i’r hyn yw hi heddiw. Yr adeg hynny, byddai rhieni Marcus yn gorfod penderfynu pa bartner oedd ‘ar fai’ am fethiant eu priodas. Ers pasio Deddf Ysgaru, Diddymu a Gwahanu 2020, sy’n diwygio Deddf Achosion Priodasol 1973, mae system o ysgariad ‘heb fai’ wedi bodoli. Mae hynny’n golygu nad oes angen mwyach i bartneriaid sy’n ysgaru roi rheswm sy’n beio’r llall. Yr unig beth y mae angen i’r pâr ei wneud yw cadarnhau bod y briodas wedi methu ac nad oes modd ei hadfer. Cyflwynwyd y newid hwn er mwyn lleihau gwrthdaro diangen mewn achosion ysgariad, yn enwedig i barau sydd â phlant ifanc fel Marcus.
Pan fydd rhieni’n ysgaru, mae’n bosibl y gofynnir i lysoedd wneud penderfyniadau yn ymwneud â ble y dylai plentyn fyw neu faint o amser y dylai ei dreulio gyda phob rhiant, yn seiliedig ar yr hyn sydd er pennaf les y plentyn. Mae’r egwyddor hon wedi’i chynnwys yn Adran 1 o Ddeddf Plant 1989. Wrth gymhwyso Adran 1 o’r Ddeddf Plant, bydd llysoedd, fel arfer, yn ystyried materion megis dymuniadau’r plentyn, ei anghenion emosiynol ac addysgol, yn ogystal ag effaith debygol unrhyw newid mewn amgylchiadau ar ei lesiant.
Mae profiad Marcus yn dangos sut mae ysgariad yn gallu cael effaith fawr ar blant. Mae Marcus yn disgrifio rhannu ei amser rhwng cartref ei dad a chartref ei fam fel bywyd ‘blerach’, sy’n ‘cynnwys mwy o bobl a lleoedd’. Er nad yw’r gyfraith yn gallu atal effaith emosiynol ysgariad, mae’n ceisio lleihau gwrthdaro ac annog rhieni i gydweithio lle bynnag y bo modd wrth wneud penderfyniadau sy’n hybu lles eu plentyn. Mae’r egwyddorion hyn wedi’u cynnwys mewn cyfraith ryngwladol, hefyd. Mae Erthygl 3 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn nodi bod yn rhaid sicrhau mai’r brif ystyriaeth ym mhob gweithred sy’n ymwneud â phlant yw pennaf les y plentyn. Mae CCUHP hefyd yn cydnabod hawl pob plentyn, dan Erthygl 12, i fynegi ei farn gan wybod y bydd y farn honno’n cael ei hystyried mewn penderfyniadau sy’n effeithio arno, megis ysgariad.
Mewn llawer o achosion, anogir rhieni i ddatrys anghydfodau y tu allan i’r llys, drwy broses y cyfeirir ati fel cyfryngu. Gall rhai rhieni sy’n ysgaru ofyn am gefnogaeth gan aelodau sefydliad o’r enw Resolution, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol cyfraith teulu sydd eisiau helpu unigolion i ddatrys materion mewn ffordd sy’n golygu llai o wrthdaro. Mae hyn yn adlewyrchu nod ehangach cyfraith teulu fodern, i gefnogi perthnasoedd teuluol cydweithredol ac adeiladol, lle bynnag y bo modd, gan gydnabod y gall lleihau gwrthdaro rhwng rhieni fod yn fuddiol i blant fel Marcus.
Iechyd meddwl
Mae iechyd meddwl yn thema sy’n codi’n aml yn About a Boy, ac mae’n cael ei amlygu yn iselder rheolaidd Fiona, rhywbeth sy’n effeithio ar ei bywyd hi ac ar fywyd Marcus. Pan fydd Fiona yn dechrau crio ‘cyn brecwast’, mae Marcus yn dweud bod ganddo ‘ofn’ oherwydd mae’n adnabod hyn fel ‘arwydd drwg iawn’. Mae nifer o adegau yn y nofel lle mae Marcus yn ymgymryd â chyfrifoldebau oedolyn, megis gwneud bwyd, oherwydd ei fod yn poeni am lesiant ei fam.
Er bod Fiona yn cael ei derbyn i’r ysbyty ar ôl ceisio diweddu ei hun, mae’n cael dod adref at Marcus. Dan Adrannau 1 i 5 ac Adrannau 135 i 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac, mewn rhai achosion, yr heddlu, gadw, asesu, a thrin unigolion am gyflyrau iechyd meddwl os ydynt yn teimlo eu bod yn achosi risg iddyn nhw eu hunain neu i bobl eraill. Ond mae llawer o bobl sy’n profi salwch meddwl yn cael eu trin yn wirfoddol, â chefnogaeth sy’n cael ei darparu drwy wasanaethau iechyd meddwl cymunedol a gofal sylfaenol.
Mae’n bosibl hefyd y bydd ar blant fel Marcus, sy’n byw gyda rhiant sydd â salwch meddwl, angen cefnogaeth ychwanegol. Dan Adran 17 o Ddeddf Plant 1989 ac Adran 5 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae gan awdurdodau lleol ddyletswyddau i ddiogelu lles plant mewn sefyllfaoedd o’r fath. Yn ymarferol, byddant fel arfer yn gweithio gydag ysgolion, darparwyr gofal iechyd, a sefydliadau perthnasol eraill er mwyn nodi plant a allai elwa o ymyriad cynnar neu gefnogaeth deuluol ehangach. Mae’r egwyddor hon, unwaith eto, i’w gweld mewn cyfraith ryngwladol drwy CCUHP, ac mae Erthygl 18 yn cydnabod y dylai rhieni dderbyn cefnogaeth briodol i gyflawni eu cyfrifoldebau fel rhieni.
Yn bwysicach na dim, fodd bynnag, nid yw bod â chyflwr iechyd meddwl yn golygu nad yw rhywun yn gallu bod yn rhiant da. Bydd penderfyniadau ynglŷn â llesiant plant yn cael eu gwneud ar sail ffeithiau penodol pob achos, yn hytrach na thybiaethau cyffredinol.
Cefnogaeth bellach
Os ydych wedi cael eich effeithio gan unrhyw un o’r materion a godwyd yn y darn hwn, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae nifer o sefydliadau sy’n cynnig cefnogaeth a chyngor:
- Childline – gwasanaeth cyfrinachol, di-dâl i unrhyw un dan 19 oed sydd angen cyngor, neu rywun i siarad ag ef, am unrhyw fater sy’n effeithio arno. Dolen: https://www.childline.org.uk/.
- Coram Family Lives – yn cefnogi rhieni, gofalwyr, a phobl ifanc drwy linell gymorth gyfrinachol a chyngor ar-lein yn ymwneud â pherthnasoedd teuluol, gwahanu, magu plant, a llesiant plant. Dolen: https://www.coramfamilylives.org.uk/.
- Mind – yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth yn ymwneud ag iechyd meddwl, ynghyd â gwasanaeth gwybodaeth gyfreithiol yn egluro hawliau dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl. Dolen: https://www.mind.org.uk/.
- Resolution – yn darparu gwybodaeth a mynediad at weithwyr proffesiynol cyfiawnder teuluol sy’n helpu teuluoedd i ddatrys problemau mewn ffordd adeiladol, gan gynnwys ar ôl gwahanu ac ysgariad. Dolen: https://resolution.org.uk/.
- Y Samariaid – yn cynnig cefnogaeth emosiynol gyfrinachol, 24 awr y diwrnod, i unrhyw un sy’n profi trallod neu sy’n cael anhawster i ymdopi. Dolen: https://www.samaritans.org/how-we-can-help/contact-samaritan/.
- Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn – yn amlinellu hawliau plant a sut y dylid cefnogi’r rhain. Dolen: https://www.unicef.org.uk/wp-content/uploads/2016/08/unicef-convention-rights-child-uncrc.pdf.
- Llywodraeth Cymru – yn amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn hybu hawliau plant yng Nghymru, gan gynnwys sut mae CCUHP yn dylanwadu ar bolisi a gwneud deddfau. Dolen: https://www.llyw.cymru/hawliau-plant-yng-nghymru
Am yr awdur
Mae Ioan Phillips yn Ysgolor Diplock Middle Temple ac wedi cael ei dderbyn i astudio Cwrs Bar ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n awyddus i weithio ym maes cyfraith droseddol a sifil, gan ganolbwyntio’n benodol ar gyfraith addysg. Hoffai Ioan ddiolch i Angela Killa o JCP Solicitors am ei hamser a’i chymorth wrth adolygu cynnwys cyfreithiol y darn hwn.
