Beth allai ddigwydd i mi

  • Bydd gennych hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn beth bynnag fydd yn digwydd i chi os ydych chi mewn trafferth gyda’r heddlu
  • Yng Nghymru, fe ddylech bob amser gael eich trin fel plentyn yn gyntaf a throseddwr yn ail
  • Mae’n rhaid i’r heddlu a’r llysoedd a’r Timau Troseddwyr Ifanc bob amser ystyried beth sydd fwyaf addas yn eich achos penodol chi
  • Os ydych chi mewn trafferth gyda’r heddlu, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys, ond fydd hynny ddim yn digwydd bob tro. Gall y canlyniadau amrywio, yn dibynnu ar yr hyn sydd wedi digwydd, yr hyn rydych chi wedi’i wneud, faint yw eich oed ac a ydych wedi bod mewn trafferth gyda’r heddlu o’r blaen.
  • Mae’n bwysig cofio, hyd yn oed os ydych chi wedi gwneud rhywbeth o’i le (neu wedi cael eich cyhuddo o wneud rhywbeth o’i le), fod gennych hawliau o hyd o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn os ydych chi o dan 18.