Diolch i gefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol a’i chwaraewyr, ac mewn partneriaeth â Just for Kids Law, rydym ni’n edrych ymlaen at recriwtio ar gyfer dwy swydd newydd yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru – Swyddog Cyfranogiad Ieuenctid a Chynorthwyydd Polisi ac Ymchwil. Mae’r swyddi newydd cyffrous hyn yn cefnogi’r gwaith o gyflenwi ymgyrch pum mlynedd dan arweiniad pobl ifanc, gan weithio ochr yn ochr â phobl ifanc sydd â phrofiad bywyd o blismona – gan eu grymuso i ddefnyddio eu lleisiau i newid sut mae’r heddlu’n rhyngweithio â phlant. Mae profiad bywyd mor bwysig i bopeth a wnawn. Diolch i’n partneriaid yn Just for Kids Law, mae pobl ifanc sydd â phrofiad bywyd wedi helpu i lunio’r disgrifiadau swydd a chyd-gynhyrchu cwestiynau’r cyfweliadau ar gyfer y rolau hyn.
Gellir lawrlwytho manyleb y person a chyfrifoldebau manwl yma.
Ceisiadau gan bobl sydd â phrofiad bywyd Gwyddom nad yw pob gweithiwr cyfranogiad ieuenctid gwych yn dod o’r un cefndir. Os oes gennych brofiad drwy waith ieuenctid, gweithredu cymunedol, ymgyrchu, neu eich profiad eich hun o blismona, rydym yn eich annog i wneud cais. Rydym yn croesawu pobl sydd ag amrywiaeth o brofiadau bywyd a phroffesiynol ac rydym wedi ymrwymo i greu tîm amrywiol, gwrth-hiliol sy’n ystyriol o drawma ac sy’n rhoi hawliau plant wrth galon ein gwaith.
Yr Iaith Gymraeg Gall ymgeiswyr wneud cais drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg a nodi y byddai’n well ganddynt gael eu cyfweld drwy gyfrwng y Gymraeg. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol.
Canllawiau ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) Rydym ni’n gwybod bod offer AI yn gallu bod yn ddefnyddiol wrth lunio cais. Os byddwch chi’n dewis defnyddio AI, mae hynny’n iawn, ond gofynnwn i chi sicrhau bod eich cais yn eich adlewyrchu chi mewn ffordd ddilys. Rydym ni eisiau clywed eich llais, eich profiadau a pham mae’r rôl hon yn bwysig i chi.
Sut mae gwneud cais Anfonwch eich CV (2 dudalen ar y mwyaf), ynghyd â llythyr eglurhaol (2 dudalen ar y mwyaf), at Info@ChildrensLegalCentre.Wales yn dweud wrthym pam mae gennych chi ddiddordeb yn y rôl a beth sy’n eich gwneud chi’n addas. Byddem wrth ein bodd yn clywed am y sgiliau, y profiadau a’r safbwyntiau y byddech chi’n eu cyfrannu at y rôl, ac a yw’r rhain yn deillio o’ch profiad proffesiynol, gwirfoddol neu fywyd.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm, dydd Gwener 30 Hydref 2026 Dyddiadau cynnal cyfweliadau: Dydd Llun 9 Tachwedd ar gyfer y Cynorthwyydd Polisi ac Ymchwil aDydd Mawrth 10 Tachwedd ar gyfer y Swyddog Cyfranogiad Ieuenctid (wyneb yn wyneb).
Byddwn yn rhannu tasgau a chwestiynau’r cyfweliadau, a gynhyrchwyd ar y cyd, gyda chi cyn y dyddiadau hyn, er mwyn i chi gael amser i baratoi.
