Pa wahaniaeth mae fy oedran yn ei wneud

  • Os ydych chi rhwng 10 a 17 rydych yn ddigon hen i fod yn gyfrifol am dorri’r gyfraith
  • Mae’n rhaid i chi gael eich trin fel plentyn, ac nid fel oedolyn sydd wedi torri’r gyfraith
  • Os ydych chi o dan 10, fyddwch chi ddim yn gyfrifol am dorri’r gyfraith

Os ydych chi o dan 10 oed, mae cyfraith Cymru a Lloegr yn dweud nad ydych yn ddigon hen i ddeall a ydych wedi torri’r gyfraith ai peidio. Mae hyn yn golygu na allwch gymryd ‘cyfrifoldeb troseddol’ am rywbeth rydych wedi’i wneud tan eich bod yn 10 oed. Dyw hynny ddim yn golygu na fydd dim yn digwydd os torrwch chi’r gyfraith, ond mae’n golygu y cewch eich trin yn wahanol i blentyn 10 oed neu hŷn sy’n torri’r gyfraith.

Pan fyddwch yn 10 oed, mae cyfraith Cymru a Lloegr yn dweud eich bod yn ddigon hen i ddeall y gallech fod wedi torri’r gyfraith a bod yr hyn rydych wedi’i wneud yn gwbl anghywir, nid dim ond yn ‘ddrwg’. Mae hynny’n golygu y gallech orfod mynd i orsaf yr heddlu yn ystod yr ymchwiliad i’r achos, ac efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys. Cewch gyfle i roi eich ochr chi i’r stori, ond os yw’r llys yn penderfynu eich bod wedi torri’r gyfraith, bydd barnwr yn penderfynu beth fydd yn digwydd i chi.

Cewch eich trin fel ‘plentyn’ – a bydd gennych hawliau plentyn – tan eich bod yn 18.