Ydych chi erioed wedi meddwl beth sydd gan stori serch 200 oed i’w wneud â’r gyfraith?

Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos bod Pride and Prejudice yn ymwneud â rhamant, cwrteisi a chamddealltwriaeth. Fodd bynnag, o dan y ddrama gymdeithasol fe geir system gyfreithiol a oedd yn rheoli pwy allai etifeddu eiddo, pwy a oedd ag annibyniaeth ariannol, a phwy oedd â’r hawl i wneud dewisiadau go iawn am eu dyfodol.

Mae’r blog hwn yn archwilio 3 syniad cyfreithiol allweddol sydd ynghudd yn y nofel, gan ddangos sut wnaeth y gyfraith siapio bywydau cymeriadau Jane Austen, a pha mor wahanol yw’r gyfraith yn y DU heddiw.

 

1.   Cyfraith Etifeddiaeth Lloegr ac Entael

Y thema gyfreithiol gyntaf ac amlycaf y byddwn yn edrych arni yn Pride & Prejudice yw’r entael a roddwyd ar gartref y teulu Bennet, Longbourn.

Beth ydi Entael?

Trefniant cyfreithiol a grëwyd o dan Gyfraith Eiddo Lloegr oedd entael. Cyfyngiad ar dir oedd hwn a oedd yn golygu nad oedd gan fenywod hawl i etifeddu eiddo. Roedd yn gymal yn ewyllys dyn, ac roedd fel arfer yn para am sawl cenhedlaeth, er nad oedd yn barhaol. Mewn llawer o achosion, roedd yr entael yn mynnu, pan fyddai’r tirfeddiannwr (y tad fel arfer) yn marw, y byddai’r ystâd yn pasio i lawr y llinell wryw, fel arfer i’r mab hynaf. Os nad oedd meibion i’w cael, byddai’r eiddo’n cael ei drosglwyddo i’r perthynas gwrywaidd agosaf.

Er nad oedd yn rhaid i’r mab hynaf etifeddu’r ystâd yn gyfreithiol, dyma oedd yr arfer mwyaf cyffredin ar y pryd oherwydd traddodiad ac arferion cymdeithasol. Pan roddwyd entael ar yr ystâd, ni allai’r perchennog presennol ddim ond dewis gadael yr eiddo i rywun arall, ac roedd hynny’n golygu na châi menywod yn aml etifeddu.

Felly, beth am y chwiorydd Bennet? Ble wnaeth hyn eu gadael nhw?

 

Cysylltiad â theulu Bennet

Mr. Bennet’s property consisted almost entirely in an estate of two thousand a year, which, unfortunately for his daughters, was entailed, in default of heirs-male, on a distant relation

(Pennod 7)

Yn sefyllfa teulu Bennet, dim ond merched oedd gan Mr Bennet a dim meibion. O ganlyniad, ni cheid etifedd gwrywaidd uniongyrchol i etifeddu ystâd Longbourn. Mae’r defnydd o’r gair entailed neu entael yn y dyfyniad yn cyfeirio at y rheol yn y gyfraith eiddo a oedd yn mynnu bod yr ystâd yn cael ei throsglwyddo i berthnasau gwrywaidd, yn hytrach na chaniatáu i ferched Mr Bennet ei hetifeddu.

Dyma lle mae Mr Collins yn dod yn bwysig. Fel y perthynas gwrywaidd agosaf, mae ganddo ef yr hawl gyfreithiol i etifeddu Longbourn ar ôl i Mr Bennet farw. Felly nid oedd gan chwiorydd Bennet ddim hawl gyfreithiol i’w cartref teuluol ac wynebent ei golli’n gyfan gwbl.

Dangosir hyn gan yr ymadrodd “unfortunately for his daughters”, sy’n dangos sut roedd cyfreithiau etifeddu yn gwahaniaethu yn erbyn menywod. Er eu bod yn blant i Mr Bennet, cafodd y chwiorydd Bennet eu gadael heb sicrwydd ariannol (a’u gadael heb ddim arian) heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain. Nid dewis teuluol oedd hwn, ond canlyniad system gyfreithiol a oedd yn gadarn o blaid dynion.

 

Cyfraith heddiw: unrhyw wahaniaeth?

Heddiw, ni fyddai’r problemau etifeddiaeth a wyneba’r teulu Bennet yn bodoli o dan gyfraith y DU. Anaml iawn y ceir enteiliau heddiw oherwydd Deddf Cyfraith Eiddo 1925, a ddiddymodd yr hawl i greu enteiliau newydd ac a ganiataodd i rai a wnaed eisoes gael eu torri ac i eiddo gael ei werthu’n rhydd.

Yn ogystal, dan Ddeddf Gweinyddu Ystadau 1925, mae meibion a merched yn etifeddu’n gyfartal os na cheir ewyllys.

O ganlyniad, ni allai’r sefyllfa yn y nofel, lle na chaniatawyd i’r chwiorydd Bennet etifeddu cartref eu teulu, ddigwydd yn gyfreithiol heddiw, gan nad yw enteiliau’n bodoli yng nghyfraith yr oes fodern.

 

Ceir esboniadau pellach ar y pwnc hwn yma:  https://englishhistoryauthors.blogspot.com/2020/05/entailmentinenglishinheritancelaws.html https://alwaysausten.com/2024/06/10/whyentailanestateanyway/

 

2.   Priodas fel Strategaeth Gyfreithiol i Oroesi

I lawer o fenywod yn y nofel, nid mater o gariad yw priodas, mater o sicrwydd ydyw. Dyma’r ail thema gyfreithiol y byddwn yn edrych arni yn y nofel drwy edrych ar Charlotte Lucas a’i phriodas â Mr Collins.

Priodas fel Dyfais Methu Diogel ynteu Cariad?

Ar adeg ysgrifennu’r nofel, roedd priodas yn cael ei llywodraethu gan yr athrawiaeth gyfreithiol Coverture, sef bod y wraig yn mynd dan reolaeth ei gŵr. Eglura Syr William Blackstone yn syml beth oedd hyn. Yn ei gyfres o lyfrau o’r enw “Commentaries on the Laws of England” (1765-1769), mae’n datgan “husband and wife are one person in law”. Dyma ddisgrifiad syml o beth oedd Coverture. Mae’r dyfyniad hwn yn dangos yn glir sut roedd hunaniaeth gyfreithiol menyw briod yn cael ei meddiannu gan hunaniaeth gyfreithiol ei gŵr. Yn fyr, nid oedd gan fenyw lawer o hawliau oherwydd bod ei gŵr yn gyfreithiol gyfrifol amdani.

O ganlyniad i hyn, ni allai menyw wneud y canlynol:

  • Bod yn berchen ar eiddo yn ei henw ei hun
  • Nid oedd ganddi ddim hawl gyfreithiol i’w chyflog ei hun
  • Ni châi weithredu’n annibynnol yng ngolwg y gyfraith

Roedd hefyd yn anodd iawn cael ysgariad, gan adael llawer o fenywod yn ddibynnol yn gyfreithiol ac yn ariannol ar eu gwŷr. Mae’r thema gyfreithiol hon yn helpu i egluro pam bod priodas yn y nofel yn aml yn cael ei thrin fel mater o oroesi yn hytrach na fel rhywbeth rhamantus gan mai sicrwydd oedd y rheswm mwyaf cyffredin am briodi oherwydd y cyfyngiadau hyn ar hawliau menywod.

 Cysylltiad â Charlotte Lucas

“Happiness in marriage is entirely a matter of chance”

(Pennod 6)

Mae’r dyfyniad hwn yn adlewyrchu dealltwriaeth realistig Charlotte o sefyllfa gyfreithiol menywod yn yr oes honno. Yn hytrach na gweld priodas fel ffynhonnell hapusrwydd, roedd Charlotte yn ei chydnabod fel penderfyniad ymarferol a gâi ei siapio gan y gyfraith.

Fel y gwelir, dan athrawiaeth Coverture, roedd menyw briod yn ildio llawer o’i hannibyniaeth gyfreithiol, oherwydd bod unrhyw beth a oedd yn eiddo iddi, fel ei heiddo a’i hincwm, yn mynd yn eiddo i’w gŵr, felly prin iawn oedd ei chyfleoedd am annibyniaeth ariannol. Oherwydd hyn, priodas oedd yr unig ffordd barchus yn aml i fenywod heb fawr o arian gael sefydlogrwydd.

Felly, mae penderfyniad Charlotte i briodi Mr Collins yn dangos fel yr oedd cyfyngiadau cyfreithiol yn gwthio menywod i mewn i briodasau er cyfleustra, a rhoddwyd blaenoriaeth i sicrwydd dros gariad ac angerdd, rhywbeth arall sy’n gyffredin iawn yn ystod cyfnod y rhaglywiaeth yn Lloegr, sef pryd lleolwyd a phryd ysgrifennwyd y nofel.

At hynny, mae’r dyfyniad: Marriage had always been her object; it was the only honourable provision for well-educated young women of small fortune”, (Pennod 22), hefyd yn tynnu sylw at ba mor gyfyngedig oedd dewisiadau menywod o dan y gyfraith yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r geiriau “only honourable provision” yn awgrymu nad oedd gan fenywod fel Charlotte ddim dewisiadau cyfreithiol nac ariannol realistig heblaw am briodi. Gyda hawliau etifeddu cyfyngedig, ychydig o gyfleoedd i gael gwaith, a fawr ddim mynediad at incwm annibynnol, priodas oedd y ffordd fwyaf diogel a mwyaf derbyniol yn gymdeithasol o gael sicrwydd.

Felly, mae penderfyniad Charlotte i briodi Mr Collins yn dangos sut roedd y system gyfreithiol yn annog menywod i flaenoriaethu sefydlogrwydd dros serch, gan atgyfnerthu ymhellach y syniad bod priodas yn y nofel yn aml yn gweithredu fel strategaeth gyfreithiol i oroesi yn hytrach na fel dewis rhamantaidd yn ystod yr oes honno.

 

Cyfraith heddiw: unrhyw wahaniaeth?

Heddiw, mae sefyllfa gyfreithiol menywod priod yn y DU yn gwbl wahanol. Mae athrawiaeth Coverture wedi cael ei diddymu, ac nid yw priodas bellach yn dileu annibyniaeth gyfreithiol nac ariannol menyw. Mae menywod yn cael eu cydnabod fel unigolion cyfreithiol ar wahân i ddynion, gyda’r hawl i fod yn berchen ar eiddo, ennill a rheoli eu hincwm eu hunain, a gwneud penderfyniadau’n annibynnol ar eu gwŷr.

O ganlyniad, nid yw priodas bellach yn strategaeth gyfreithiol i oroesi, gan fod gan fenywod hawliau a gwarchodaeth sy’n golygu nad oes raid iddynt fod yn ddibynnol ar ddynion. Adlewyrchir y newidiadau hyn yn y ddeddfwriaeth allweddol (y gyfraith) sydd bellach yn llywodraethu priodas, eiddo a chydraddoldeb yng nghyfraith fodern y DU:

  • Roedd Deddf Eiddo Menywod Priod 1870: yn caniatáu i fenywod priod gadw eu henillion eu hunain.
  • Roedd Deddf Eiddo Menywod Priod 1882: yn rhoi hawliau llawn i fenywod priod fod yn berchen ar eiddo a’i reoli.
  • Fe wnaeth Deddf Achosion Priodasol 1973: sefydlu rheolau modern ar ysgaru a rhwymedïau ariannol.
  • Mae Deddf Cydraddoldeb 2010: yn gwahardd unrhyw wahaniaethu ar sail rhyw mewn cyflogaeth, cyflog a materion ariannol.

Gyda’i gilydd, mae’r diwygiadau hyn yn golygu bod hunaniaeth a hawliau cyfreithiol menyw yn aros yn gwbl ar wahân i rai ei gŵr, gan sicrhau bod priodas dan gyfraith fodern y DU yn fater o ddewis yn hytrach nag yn anghenraid economaidd a chymdeithasol.

Ceir esboniadau pellach ar y pwnc yma:

https://www.historyextra.com/period/georgian/asurvivorsguidetogeorgianmarriage/ https://donnahatch.com/marriageinregencyengland/

 

3.   Enw da, Sgandal a Chosb Gymdeithasol

Yn ystod cyfnod y Rhaglywiaeth, roedd statws cymdeithasol, risgiau i enw da a chosbau cymdeithasol yn norm gan fod cymunedau’n fach a gan fod hanesion yn lledaenu’n gyflym. Dyma’r thema gyfreithiol nesaf y byddwn yn edrych arni drwy werthuso sgandal Lydia Bennet.

Mwy o fanylion am Gylchoedd Cymdeithasol Lloegr yng nghyfnod y Rhaglywiaeth

Yn ystod cyfnod y rhaglywiaeth yn Lloegr, roedd gan enw da ran bwysig i’w chwarae i siapio dyfodol unigolyn, yn enwedig menywod. Er nad oedd rhedeg i ffwrdd i briodi fel arfer yn anghyfreithlon ynddo’i hun, roedd iddo ganlyniadau cymdeithasol difrifol nad oedd y gyfraith yn gwneud fawr ddim i’w hatal.

Gallai enw da menyw gael effaith ar ba mor debygol y byddai o briodi, ar ei statws cymdeithasol, ar enw da ei theulu, ei diogelwch ariannol, ac roedd cymdeithas yn aml yn beirniadu unrhyw sgandal yn llym.

Gan fod dyfodol menywod yn cael ei gysylltu mor agos â phriodas, gallai niwed i enw da arwain at ganlyniadau cymdeithasol hirdymor oherwydd fe allai unrhyw niwed i enw da gael sgil-effaith ar fenyw ac ar ei theulu. Roedd y system anffurfiol hon o gosbi cymdeithasol yn golygu bod enw da yn gweithredu bron fel cyfraith anysgrifenedig, yn enwedig i fenywod, yr oedd eu hymddygiad yn cael ei feirniadu a’i fonitro’n llawer agosach na dynion.

Cysylltiad â Sgandal Lydia Bennet

“She is lost for ever”

(Pennod 46)

Mae’r ymateb hwn gan Mrs Bennet yn awgrymu bod enw da Lydia wedi’i ddifetha am byth oherwydd y sgandal. Mae’r geiriau “lost for ever” yn awgrymu nid yn unig niwed i’w henw da ei hun ond i’w theulu cyfan. Roedd yn awgrymu y gallai un sgandal ddinistrio gwerth menyw mewn cymdeithas. Nid oedd llawer o waredigaeth i fenyw yn dilyn sgandal gymdeithasol gan ei bod yn newid y ffordd roedd cymdeithas yn ei hamgyffred hi.

Atgyfnerthir yr ofn hwn gan y pryder: “this unfortunate affair will, I fear, prevent any of the younger sisters from making advantageous marriages,” (Pennod 47), gan ddangos sut mae gweithredoedd Lydia yn bygwth nid yn unig ei dyfodol ei hun ond dyfodol ei chwiorydd hefyd’. Ymateb eithafol Mr Collins i’r sgandal yw: “The death of your daughter would have been a blessing in comparison of this” (Pennod 48), gan ddangos yn glir fel yr oedd enw da yn cael ei drin fel rhywbeth pwysicach na lles personol yng nghymdeithas Lloegr yng nghyfnod y Rhaglywiaeth.

Gyda’i gilydd, mae’r ymatebion hyn yn dangos sut roedd barn gymdeithasol yn cosbi menywod mewn ffyrdd nad oedd y gyfraith yn eu hatal na’u herio.

 Cyfraith heddiw: unrhyw wahaniaeth?

Heddiw, mae enw da yn cael ei drin yn wahanol iawn. Mae enw da yn cael ei ddiogelu drwy gyfrwng Cyfraith difenwi, yn benodol o dan Ddeddf Difenwi 2013. Ni ddylai menyw orfod delio â’r ofn y gallai sgandal gymdeithasol ddifetha ei henw da hi a’i theulu gan fod hyn bellach yn cael ei ystyried yn ymddygiad preifat o dan y gyfraith fodern.

 

Yn ogystal, mae Deddf Hawliau Dynol 1998, yn enwedig Erthygl 8, yn diogelu’r hawl i fywyd teuluol a phreifat, sy’n golygu na ddylai perthnasoedd personol esgor ar ganlyniadau cyfreithiol i aelodau’r teulu.

O’r herwydd, ni ddylai sefyllfa fel un Lydia niweidio dyfodol ei chwiorydd mwyach nac arwain at yr un canlyniadau cymdeithasol yn y gymdeithas sydd ohoni. Er bod ein hymddygiad heddiw yn dal i esgor ar nifer o ganlyniadau cymdeithasol, mae’r gyfraith fodern yn fwy cynhwysol nag yr oedd yn ystod Rhaglywiaeth Lloegr.

Y dyddiau hyn, mae’r gyfraith wedi symud oddi wrth gosb gymdeithasol anffurfiol ac erbyn hyn mae’n cynnig mwy o warchodaeth i faterion personol a phreifatrwydd; bechod na fyddai’r cyfreithiau hyn wedi bodoli ar gyfer Lydia.

Ceir esboniadau pellach ar y pwnc yma:

https://duqengland.annagibson.com/2018/06/06/reputationinprideandprejudice/ https://austenvariations.com/gossipandscandalinjaneaustensworld/

 

Crynodeb

Dyma grynodeb byr o’r 3 syniad cyfreithiol allweddol sy’n cael eu harchwilio yn y nofel:

  • Etifeddiant ac Entael- Roedd y gyfraith eiddo yn golygu bod ystadau’n aml yn cael eu trosglwyddo i etifeddion gwrywaidd yn unig. Gan fod amod entael ar Longbourn, ni allai’r chwiorydd Bennet etifeddu eu cartref eu hunain ac wynebent felly ansicrwydd ariannol.
  • Priodas fel Strategaeth Gyfreithiol i Oroesi- Oherwydd cyfreithiau fel coverture, roedd menywod yn colli eu hannibyniaeth gyfreithiol pan oeddent yn priodi ac nid oedd ganddynt lawer o ddewisiadau eraill. Priodas oedd y ffordd fwyaf diogel yn aml i fenywod heb fawr o arian gael sefydlogrwydd.
  • Enw da a Chosb Gymdeithasol- Gallai enw da menyw effeithio ar ei holl ddyfodol. Pan aeth Lydia i ffwrdd i briodi roedd dyfarniad y gymdeithas yn gweithredu fel cosb anffurfiol, hyd yn oed pan na chynigiai’r gyfraith ddim gwarchodaeth.

 

Beth ydych chi’n ei feddwl?

Ydych chi’n credu bod Pride and Prejudice yn cyflwyno’r rheolau cyfreithiol hyn fel rhai teg ynteu annheg? Sut mae cyfreithiau’r cyfnod yn siapio dewisiadau ac ymddygiad y cymeriadau?

 

Gair am yr Awdur

Helo, Charlotte (Charlie) ydw i; rwy’n fyfyriwr yn y gyfraith ac yn wirfoddolwr sy’n gweithio ar brosiect allgymorth y brifysgol sydd â’r nod o wneud y gyfraith yn fwy hygyrch i fyfyrwyr iau. Cafodd y blog hwn ei greu i helpu myfyrwyr TGAU sy’n astudio Pride and Prejudice i ddeall sut roedd system gyfreithiol y cyfnod yn dylanwadu ar gymeriadau a digwyddiadau’r nofel. Drwy gyplysu llenyddiaeth â’r gyfraith, rwy’n gobeithio dangos sut y gall rheolau cyfreithiol siapio bywydau bob dydd, yn awr ac yn y gorffennol.

Diolch yn fawr i Belinda Moseley o Geldards am archwilio cynnwys cyfreithiol y blog hwn.