Megan Lewis – Llysgennad Ieuenctid Cymru yn Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol a Chyd-Grëwr Modelau RoL

 

Efallai eich bod wedi clywed gwleidyddion neu gyfreithwyr yn siarad am ‘reol y gyfraith’ ar-lein neu ar y newyddion pan fydd rhywbeth mawr neu ddadleuol yn digwydd. Ond pur anaml yr eglurir beth y mae’n ei feddwl er mai dyma un o’r syniadau pwysicaf y tu ôl i’r gwasanaethau a ddefnyddiwn bob dydd, ac na sylweddolwn ei fod wedi mynd tan fydd yn stopio gweithio.

Dyna pam, yn y blog hwn, rwy’n egluro beth yw rheol y gyfraith, pam ei bod yn bodoli a pham ei bod yn bwysig i chi.

Felly beth yn union yw rheol y gyfraith? Er yr enw crand, rheol y gyfraith yw bod pawb yn cydymffurfio â’r un rheolau, gan gynnwys y bobl mewn grym, a bod proses deg ar gyfer datrys pethau pan fyddant yn mynd o’i le.

Gall hyn swnio’n amlwg ond meddyliwch faint o fywyd pob dydd sydd ond yn gweithio oherwydd ein bod yn ymddiried mewn pawb arall i ddilyn yr un rheolau. Pêl-droed er enghraifft: rydym ni’n disgwyl i’r dyfarnwr drin pob chwaraewr yr un fath, a phan fydd un yn torri’r rheolau, mae’n derbyn cerdyn melyn neu goch waeth pa mor dda o chwaraewr ydyw neu ym mha dîm. Mae rheol y gyfraith yr un fath, dim ond ar gyfer y wlad i gyd.

 

Beth y mae sicrhau bod pawb yn dilyn yr un rheolau’n ei olygu?

Pan fo’n fater o’r gyfraith, mae sicrhau bod pawb yn cael ei drin yr un fath yn bwysig oherwydd maint effaith bosib y penderfyniadau hyn ar fywydau pobl. Felly mae systemau yn eu lle i sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae’r systemau hyn yn cynnwys:

· Sicrhau bod y gyfraith yn gyhoeddus a hygyrch i bawb, nid wedi’i chuddio.

· Sicrhau na all pobl mewn grym wneud penderfyniadau ar sail eu barn neu deimladau personol. Rhaid iddynt eu hegluro a’u cyfiawnhau i’r Senedd a’r cyhoedd.

· Llys annibynnol i atal unrhyw ragfarn gan farnwyr sy’n penderfynu achosion.

Ac nid syniad yn Lloegr neu San Steffan yn unig yw hwn – mae’n berthnasol i Gymru hefyd. Mae gan Gymru ei Senedd ei hun sy’n dal Llywodraeth Cymru i gyfrif, barnwyr a llysoedd annibynnol a hyd yn oed cyfraith (Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019) sy’n gwneud yn siŵr bod y gyfraith yng Nghymru’n gyhoeddus, clir ac y gall pawb ei darllen.

 

Beth sy’n digwydd os yw rheol y gyfraith yn methu?

Mae rheol y gyfraith yn chwarae rôl anferth mewn gwarchod hawliau pob dydd. Felly pan fydd yn methu, a phenderfyniadau’n dechrau cael eu gwneud ar sail grym, poblogrwydd neu farn bersonol, yn lle ar sail rheolau, gall y canlyniadau fod yn ofnadwy.

Ar draws y byd, gwelwn beth sy’n digwydd lle y mae rheol y gyfraith yn wan neu’n cael ei hanwybyddu. Mae wedi’i gysylltu’n aml i bobl foesol bwdr (pobl mewn grym yn camddefnyddio eu swydd i’w mantais eu hunain), trin pobl yn annheg a phobl ddim mwyach yn credu y byddant yn cael eu trin yn deg. “Er enghraifft, Afghanistan, lle nad oes system llysoedd annibynnol i orfodi cyfreithiau’n deg, a dim gwarchodaeth gyfreithiol o gwbl – yn enwedig i ferched a genethod, fel yr hawl i fynd i’r ysgol. Mae’n ein hatgoffa’n sobor iawn o’r hyn all ddigwydd pan fydd rheol y gyfraith yn diflannu.

 

Dylid ymarfer rheolau’n deg ar bob lefel. Dyna pam yr ystyrir rheol y gyfraith i fod yn un o gonglfeini cymdeithas deg, gyda chyfreithiau wedi eu dylunio i warchod rhyddid, diogelwch a hawliau pobl.

Y peth yw, mae rheol y gyfraith yn gweithio dim ond os yw pawb yn gwybod amdani a ddim yn ei chymryd yn ganiataol – rydym yn ffodus i’w chael ac mae’n hawdd meddwl y bydd o hyd yno.

 

Beth allwch chi ei wneud?

Gallwch:

· Sylwi arni ar waith. Unwaith y gwyddoch beth i chwilio amdano, byddwch yn dechrau gweld rheol y gyfraith (neu beidio) ym mhob man – yn y newyddion, yr ysgol a hyd yn oed wrth chwarae gyda ffrindiau.

· Gofyn cwestiynau. Os yw penderfyniad yn teimlo’n annheg neu reol yn cael ei hymarfer yn wahanol i wahanol bobl, mae’n werth gofyn pam.

· Siarad amdani. Rhannwch beth ddysgoch chi gyda ffrindiau neu deulu. Mwya’n byd o bobl sy’n deall rheol y gyfraith, yr anoddaf fydd i bobl ei hanwybyddu’n dawel.

· Dal ati i ddysgu. Dilynwch y newyddion neu ffynonellau cyfryngau cymdeithasol dibynadwy fel Modelau RoL ar Instagram a TikTok am fwy o bytiau o wybodaeth fel hwn.

Nid rhywbeth i wleidyddion a chyfreithwyr yn unig boeni amdano yw deall rheol y gyfraith. Mae’n effeithio ar eich ysgol, cymuned a’ch dyfodol – mae’r un mor bwysig i bobl ifanc yma yng Nghymru wybod amdani hefyd.

 

Dolenni defnyddiol

The rule of law: a user guide

The Rule of Law and why it matters Explained – Portal

Home | Rol Models

Modelau RoL ar Instagram