Pan fydd y cwbl drosodd

  • Os ydych chi’n dal o dan 18 pan ddaw eich cosb i ben, efallai y bydd angen cymorth arnoch i’ch rhoi’n ôl ar y trywydd iawn
  • Mae gennych hawliau drwy’r amser rydych chi mewn cysylltiad â’r heddlu, neu yn y ddalfa, ac wedi hynny
  • Efallai eich bod yn poeni ble fyddwch chi’n byw a beth fyddwch chi’n ei wneud – bydd gwybod beth yw eich hawliau’n helpu

Efallai y bydd meddwl am adael y ddalfa neu fynd yn ôl i fyw bywyd bob dydd pan ddaw eich dedfryd i ben yn eich poeni a’ch drysu, yn union fel pan oeddech chi mewn trafferth gyntaf. Efallai y bydd angen help ychwanegol arnoch i fynd yn ôl i’r ysgol ar ôl bod yn y ddalfa, neu i ddod o hyd i rywle i fyw neu gael swydd, ond mae pobl a sefydliadau ar gael i’ch helpu.

Os bydd yn rhaid i chi dreulio amser mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc neu Ganolfan Hyfforddi Ddiogel ar ôl bod mewn trafferth gyda’r heddlu, fe ddylech gael help o’r cychwyn cyntaf i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl i chi gael eich rhyddhau.

Os cewch eich cosbi’n ffurfiol, ac mae hynny’n gallu cynnwys cael rhybudd, ac unrhyw amser rydych yn ei dreulio mewn Llety Cadw Ieuenctid, bydd y rhain yn rhan o’ch cofnod troseddol. Bydd y manylion i gyd yn cael eu cadw ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu nes eich bod yn 100 oed.
Os ydych chi wedi bod mewn Llety Cadw Ieuenctid, efallai y byddwch yn poeni ynglŷn â ble y byddwch yn byw ar ôl gadael. Os ydych chi’n gallu mynd yn ôl adref i fyw gyda’ch teulu, does dim byd i’ch rhwystro rhag gwneud hynny. Os oeddech yn cael problemau gartref cyn mynd i’r ddalfa, neu os na allwch fynd yn ôl at eich teulu am ryw reswm, bydd angen i’r awdurdod lleol drefnu rhywle i chi i fyw. Os ydych chi o dan 18, mae gennych yr un hawl â phob plentyn arall i fyw mewn amodau da. Os na allwch fynd yn ôl at eich teulu ar ôl gadael y ddalfa ac os oes perygl i chi fod yn ddigartref, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol eich helpu. Cewch gwbod mwy yn ein adran Gartref.

Os nad oes raid i chi gael eich cadw yn y ddalfa, fe ddylech allu parhau i fynd i’r ysgol. Os na allwch fynd i’r ysgol, efallai mai uned cyfeirio disgyblion fydd y lle gorau i chi i barhau â’ch addysg tra byddwch yn cwblhau unrhyw ddedfryd nad yw’n golygu bod yn rhaid i chi gael eich cadw yn y ddalfa.

Os oeddech chi mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc, Canolfan Hyfforddi Ddiogel neu Gartref Diogel i Blant, fe ddylech fod wedi cael cyfle i barhau â’ch addysg, felly fe ddylech allu mynd yn ôl i’r ysgol, neu barhau â’ch addysg mewn rhyw ffordd arall. Os na allwch fynd i’r ysgol am ryw reswm, efallai am eich bod wedi cael eich gwahardd am byth, neu am ei bod yn rhy anodd i chi wneud hynny ar ôl bod mewn trafferth gyda’r heddlu, fe allai uned cyfeirio disgyblion fod yn opsiwn da.

Ddylai cofnod troseddol ddim eich atal rhag mynd i goleg neu brifysgol, ond mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi ddatgan unrhyw euogfarnau troseddol wrth wneud cais. Fyddwch chi ddim ond yn gorfod datgan ‘euogfarnau sydd heb ddarfod’ (mae hyn yn cael ei esbonio’n fwy manwl isod), ond ar gyfer rhai cyrsiau, efallai y bydd yn rhaid i chi roi gwybodaeth am unrhyw euogfarnau yn eich erbyn, gan gynnwys euogfarnau sydd ‘wedi darfod’. Gallai hyn fod oherwydd y bydd yn rhaid i chi weithio gyda phlant neu bobl eraill sy’n agored i niwed yn ystod eich cwrs.

Efallai y bydd gofyn i chi roi mwy o fanylion am yr euogfarn a’r hyn a ddigwyddodd, cyn i’r coleg neu’r brifysgol benderfynu a yw am gynnig lle i chi. Os na chewch le ac os ydych yn meddwl bod hynny am fod gennych gofnod troseddol, efallai y byddwch yn gallu apelio yn erbyn y penderfyniad.

Os ydych chi dros oedran gadael yr ysgol, cewch chwilio am swydd a dechrau gweithio fel pawb arall. Efallai y cewch eich holi am eich ‘cofnod troseddol’, a does dim ond raid i chi ddweud wrth eich cyflogwr am euogfarnau sydd ‘heb ddarfod’. Efallai y bydd angen i chi gwblhau gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bydd angen i chi lenwi ffurflen a darparu gwybodaeth sy’n dweud pwy ydych chi, a bydd y cyflogwr yn anfon y ffurflen i gael gwybodaeth am unrhyw euogfarnau perthnasol. Mae hyn yn  fwy tebygol o ddigwydd os ydych yn gobeithio gweithio gyda phlant, oedolion agored i niwed, neu mewn swydd lle mae angen llawer iawn o ymddiriedaeth.

Hen euogfarnau yw euogfarnau sydd wedi darfod a does dim raid i chi ddweud wrth ddarpar gyflogwyr na sefydliadau addysg am y rhain heblaw eich bod eisiau gweithio mewn rhai swyddi penodol, er enghraifft gyda phlant neu oedolion agored i niwed.

Ar ôl i’ch cosb ddod i ben, bydd cofnod o’r hyn a ddigwyddodd ar gael am gyfnod penodol – dyma’r ‘cyfnod adsefydlu’. Bydd hyd y cyfnod adsefydlu’n dibynnu ar faint oedd eich oed ar y pryd, a beth oedd y gosb.

Amser yn y Ddalfa Cyfnod Adsefydlu
4 blynedd neu fwy parhaus – os oes rhywun yn gofyn i chi, mae’n rhaid i chi bob amser ddweud wrth gyflogwyr am unrhyw ddedfryd
30 mis – 4 blynedd 3.5 blynedd
6-30 mis 2 flynedd
6 mis neu lai 18 mis
Gorchymyn Cadw a Hyfforddi 18 mis – 2 flynedd
Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid 6 mis

Hyd yn oed os nad oes raid i chi dreulio amser mewn Llety Cadw Ieuenctid, ond eich bod yn cael eich cosbi mewn rhyw ffordd arall, efallai y bydd cyfnod adsefydlu byr yn gysylltiedig â’r gosb:

Gorchymyn Atgyfeirio Hyd y Gorchymyn
Dirwy 6 mis
Gorchymyn Iawndal pan fydd yr iawndal wedi’i dalu’n llawn
Rhyddhau Amodol hyd y gorchymyn
Rhyddhau Diamod dim
Rhybudd Amodol Ieuenctid 3 mis
Rhybudd Ieuenctid dim

Os byddwch yn gwneud cais am swydd lle y gallai hen euogfarnau fod yn bwysig, fe all eich cyflogwr ofyn am ddatgeliad manwl – er mwyn cael gweld eich hen euogfarnau i gyd gan gynnwys y rhai sydd ‘wedi darfod’. Mae angen i’r cyflogwr wneud yn siŵr y bydd y bobl y byddwch yn gweithio gyda nhw’n ddiogel – ond mae’n rhaid cadw’r ddysgl yn wastad rhwng hynny a’ch hawl i breifatrwydd.

 

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth ddarpar gyflogwyr am euogfarnau sydd heb ddarfod. Mae gwahanol fathau o gosbau’n para heb ddarfod am gyfnodau gwahanol. Os cawsoch eich dedfrydu i’ch cadw yn y ddalfa am 4 blynedd neu fwy, bydd angen i chi ddweud wrth gyflogwyr am hynny bob amser.

Efallai y bydd yn rhaid i chi ddweud wrth sefydliadau am unrhyw euogfarnau blaenorol os ydych chi eisiau gwirfoddoli gyda nhw, yn enwedig os byddwch chi’n gweithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed. Efallai y bydd yn rhaid i chi gwblhau gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu’n cadw gwybodaeth am eich holl euogfarnau nes eich bod yn 100 oed. Cewch wneud cais i Swyddfa Cofnodion Troseddol ACRO i gael gwybod beth yw eich cofnod troseddol. Bydd yn costio £10.