Mae’r nofel Great Expectations gan Charles Dickens yn dilyn hanes plentyn amddifad o’r enw Pip sy’n derbyn ffortiwn gan gymwynaswr anhysbys ac sy’n symud i Lundain i fod yn ŵr bonheddig. Mae Pip yn credu mai Miss Havisham yw’r cymwynaswr anhysbys, nes iddo gwrdd unwaith eto â’r troseddwr y gwnaeth ei helpu pan oedd yn blentyn; mae’n cael ar ddeall yn ddiweddarach mai ef yw ei gymwynaswr anhysbys. Mae Pip yn helpu Magwitch i ddianc ond mae’n methu yn y pen draw ac mae Magwitch yn cael ei arestio. Yn ddiweddarach, mae’n cael ei ddedfrydu i farwolaeth ond mae’n marw yn y carchar o anafiadau cyn i’r ddedfryd gael ei gweithredu. Mae’r nofel yn archwilio’r dosbarth cymdeithasol a’r system gyfiawnder yn oes Fictoria.

 

Beth mae magwraeth Pip yn ei ddysgu inni?

Mae dechrau’r nofel yn disgrifio Pip yn byw mewn tlodi ac yn cael ei drin yn wael gan ei chwaer, Mrs Joe. Wrth dyfu i fyny, mae Pip yn dioddef ansefydlogrwydd ac amddifadedd, sy’n golygu nad yw ei anghenion gartref yn cael eu diwallu i safon ddigonol yn ôl cyfraith heddiw. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), a grëwyd drwy UNICEF, yn cyflwyno set o hawliau sy’n berthnasol i bob plentyn ac sy’n golygu y cânt fynnu’r hawliau hyn.

Mae Erthygl 27 yn bwysig oherwydd ei bod yn ymdrin â’r hawl i safon byw ddigonol, rhywbeth na chafodd Pip. Mae’r erthygl yn cadarnhau y dylid diwallu anghenion sylfaenol pob plentyn er mwyn iddynt ddatblygu’n gyfannol; mae hyn yn golygu sicrhau bod eich datblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol a chymdeithasol yn ddigonol. Mae’r nofel yn dangos fel mae’r hawl sylfaenol hon yn cael ei thorri; pe bai Pip yn byw yng Nghymru heddiw, byddai ei hawl i safon byw yn cael ei thramgwyddo.

Beth am ddisgyblaeth lem Mrs Joe tuag at Pip?

Yn y nofel, mae Mrs Joe yn dangos achos arall o dorri CCUHP pe byddent yn byw yng Nghymru heddiw. Cafodd Pip ei fagu gan ei chwaer a’i gŵr, mae’r nofel yn dangos bod Pip yn aml yn cael ei gosbi’n llym gan ei chwaer ac mae Pip yn cael ei daro’n aml.

Mae Erthygl 19 o CCUHP yn amddiffyn plant rhag camdriniaeth o unrhyw fath, boed hynny’n gorfforol neu’n feddyliol, esgeulustod neu gamfanteisio. Mae’n golygu, yn ôl y gyfraith, eich bod yn cael eich amddiffyn fel plentyn rhag unrhyw niwed neu ddioddefaint y gallai unrhyw un yr ydych yn ei adnabod neu’n byw gydag ef/hi ei achosi ichi. Yng Nghymru, mae’n anghyfreithlon cosbi plentyn yn gorfforol, sy’n golygu bod gennych chi’r un amddiffyniad ag sydd gan oedolion. Y gyfraith ar gosbi corfforol yng Nghymru | LLYW.CYMRU

 

Beth mae diffyg llais Pip yn ei olygu i mi?

Fel plentyn a oedd yn byw mewn tlodi ac mewn amodau annigonol, roedd pobl hefyd yn dueddol o ddiystyru barn a safbwyntiau Pip. Yn ystod y rhan fwyaf o’i fywyd, ychydig iawn y mae ei farn ef am ei fywyd ei hun neu am benderfyniadau pwysig yn cyfrif wrth i gymeriadau eraill wneud y penderfyniadau hynny drosto. Ychydig o farn a oedd ganddo am y penderfyniadau a effeithiodd arno ef, ar ei fywyd a’i ddyfodol.

Mae CCUHP yn cynnwys erthygl gyfan ar hawl plentyn i gael gwrandawiad ac i gael mynegi ei farn yn rhydd. Mae’n golygu, gydag unrhyw faterion sy’n effeithio arnoch chi’n bersonol, y byddai eich hawl i fynegi eich barn yn cael ei diogelu gan y gyfraith ac y byddai eich barn yn cael ei chydnabod a’i hystyried. Mae cyfraith Cymru yn ymgorffori erthygl CCUHP yn y system gan sicrhau bod pobl yn gwrando arnoch, bod eich safbwyntiau’n cael eu parchu a bod yn rhaid ystyried eich barn; mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn sicrhau hyn.

Sut byddai Cyfraith Cymru yn eich diogelu chi heddiw?

Mae’r nofel yn edrych ar sut mae bywyd Magwitch yn troi o amgylch y gyfraith, gan ei fod ef i mewn ac allan o’r carchar yn aml, gan ddisgrifio’r anghydraddoldeb a’r system gyfiawnder a geid yn oes Fictoria. Nawr, dychmygwch rywun yn cael dedfryd ysgafnach na chi oherwydd eu bod o ddosbarth cymdeithasol gwahanol? Dyna’n union ddigwyddodd i Magwitch; cafodd ei gosbi’n llymach na throseddwr arall o’r enw Compeyson, a gâi ei ystyried yn ŵr bonheddig ac a oedd yn perthyn i ddosbarth cymdeithasol gwahanol.

Yng nghymdeithas heddiw, ceir llawer o gyfreithiau yn system y llysoedd a fyddai’n eich amddiffyn chi a’ch hawliau. Mae Erthygl 6 o’r Ddeddf Hawliau Dynol yn gwarchod eich hawl i dreial teg; eich hawl i fod yn ddieuog nes profir eich bod yn euog a’r hawl i gynrychiolaeth gyfreithiol am ddim os na allwch chi fforddio un. Mae’r llysoedd heddiw yn ystyried eich cefndir a ffeithiau’r achos cyn penderfynu ar eich dedfryd;  https://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/1998/42/contents

Heddiw, mae’r system gyfreithiol yn canolbwyntio mwy ar eich hawl i degwch, i gael eich adsefydlu a’ch amddiffyn rhag gwahaniaethu, rhywbeth na chafodd Magwitch erioed.

 

Pam mae hyn yn bwysig?

Mae’r cymeriadau, Magwitch a Pip, yn dangos pa mor beryglus y gall system anghyfartal fod a pha mor bwysig yw cael system sy’n deddfu i ddiogelu pawb, waeth beth fo’u cefndir. Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 a Deddf Cydraddoldeb 2010 yn bodoli i atal unrhyw driniaeth annheg a allai ddigwydd i chi yn y system gyfiawnder neu mewn cymdeithas.

Mae deall yr hawliau sydd gennych chi fel person ifanc yn helpu i weld cymaint y mae cymdeithas wedi datblygu a pham mae tegwch yn hanfodol mewn cyfiawnder. Pe bai Magwitch a Pip yn byw yng Nghymru heddiw, byddai’r ddau ohonynt yn cael gwarchodaeth a chyfle cyfartal; hawliau y mae pob person ifanc yn eu haeddu.

Mae’r stori yn ein hatgoffa na ddylai cyfiawnder byth ddibynnu ar gyfoeth na statws rhywun, ac y dylai pawb gael eu trin yn deg ac yn gyfartal o dan y gyfraith. I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://childrenslegalcentre.wales

Gair am yr Awdur

Carys ydw i, ac ar hyn o bryd rwy’n astudio’r gyfraith yn fy 2il flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe. Ar ôl gorffen yn y brifysgol, rwy’n gobeithio ymarfer fel cyfreithiwr, er nad wyf yn siŵr pa faes yr hoffwn ymarfer ynddo eto.

Diolch yn fawr i Belinda Moseley o Geldards am archwilio cynnwys cyfreithiol y blog hwn.