Dychmygwch na allech chi BYTH fynd y tu allan. BYTH.
Nid sôn am gael eich cadw yn y tŷ fel cosb ydw i. Dwi’n sôn am ddim cymuned, dim ffrindiau, dim ysgol, dim awyr iach.
Dyma fywyd Maddy yn Everything, Everything.
Mae mam Maddy wedi dweud celwydd wrthi, gan honni bod ganddi alergedd i’r byd y tu allan, ac mae’n defnyddio’r celwydd hwnnw i reoli pob rhan o’i bywyd.
Ond mewn bywyd go iawn, mae gennych hawliau cyfreithiol dros eich corff, eich iechyd a’ch dyfodol.
Mae stori Maddy yn ein helpu i ddeall beth yw’r hawliau hynny, a pham eu bod yn bwysig.
Eich corff chi, Eich dewis chi (y rhan amlaf!)
Yn Everything, Everything, mae holl fywyd Maddy yn cael ei reoli gan rywun arall.
Ond ni ddylai pethau fod fel hyn, gan fod gennych eich hawliau eich hun dros eich corff a’ch iechyd eich hun.

Beth ddywed y Gyfraith: A oes gennych hawl i leisio barn am eich triniaeth feddygol?
Os ydych chi dan 16, bydd meddygon yn eich helpu i wneud eich penderfyniadau meddygol eich hun os ydyn nhw’n penderfynu eich bod yn gymwys yn ôl safon Gillick, hyd yn oed os yw eich barn yn wahanol i farn eich rhieni neu’ch gofalwyr. Mae hyn yn golygu, os ydych chi’n deall beth mae’r driniaeth yn ei olygu, ei risgiau, ei manteision ac unrhyw ddewisiadau eraill, y gallwch gydsynio drosoch eich hun.
(I’r rhai sydd â diddordeb, mae rhagor o wybodaeth am gymhwysedd yn ôl safon Gillick a ddarparwyd gan y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant ar gael yma).
Os ydych chi’n 16 neu 17, mae’r gyfraith yn tybio bod gennych chi’r galluedd i gydsynio o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Teulu 1969.
Mewn argyfyngau neu sefyllfaoedd iechyd meddwl difrifol, efallai y bydd meddygon yn eich trin heb gydsyniad, ond dim ond er mwyn eich cadw’n ddiogel!
Os na allwch chi gydsynio, gall y sawl sydd â chyfrifoldeb rhiant benderfynu drosoch chi. OND bydd gweithwyr proffesiynol yn camu i mewn os oes pryderon nad yw’r penderfyniad a wneir er eich lles gorau chi.
Hefyd, os gallwch gydsynio, fel arfer mae gennych hawl i weld eich cofnodion meddygol eich hun.
Mae CCUHP yn diogelu’r hawliau hyn. ‘Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn’ ydy CCUHP. Mae’n gytuniad Hawliau Dynol rhyngwladol sy’n diogelu hawliau plant.
Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 wedi gwneud CCUHP yn berthnasol yng Nghymru.
Mae Erthygl 24 CCUHP yn dweud bod gennych hawl i’r safon iechyd orau bosibl.

Yn ôl at y Llyfr…
Dylai Maddy fod wedi gallu gofyn cwestiynau, gweld ei chofnodion meddygol, a siarad yn uniongyrchol â’r meddygon, yn enwedig pan oedd hi’n ddigon hen i ddeall ei chyflwr.
Amddiffyniad ynteu carchar?

Yn y llyfr, mae mam Maddy yn gwneud pob penderfyniad dros Maddy.
Beth ddywed y Gyfraith: Eich hawl i gael llais mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi
Gall oedolion sydd â chyfrifoldeb rhiant wneud penderfyniadau mawr ar eich rhan nes eich bod yn 18 oed. OND mae gennych chi hawl i leisio eich barn hefyd.
Mae’r penderfyniadau mawr hyn yn cynnwys pethau fel ble rydych chi’n byw os yw eich rhieni’n gwahanu, i ba ysgol rydych chi’n mynd, pa grefydd rydych chi’n ei dilyn, a phenderfyniadau am driniaeth feddygol. Mae’r Llys Teulu yng Nghymru a Lloegr yn ymdrechu i ddeall a pharchu llais y plentyn/person ifanc pan wneir penderfyniadau pwysig am fywyd y person hwnnw.
Rhaid i’r penderfyniad a wneir fod er eich lles pennaf chi. Mae Erthygl 3 o CCUHP yn rhoi lles gorau plant wrth wraidd penderfyniadau. Mae Deddf Plant 1989 yn datgan bod yn rhaid i’r llys wneud penderfyniadau drwy ystyried lles y plentyn yn anad dim.
Rhaid cymryd eich barn o ddifrif. Mae Erthygl 12 CCUHP yn dweud yn benodol y dylai plant gael gwrandawiad mewn materion sy’n effeithio arnynt, ac y dylid rhoi “pwys dyladwy” i’w barn yn dibynnu ar eu hoedran a’u haeddfedrwydd.
Os nad yw’r oedolion o’ch cwmpas yn gweithredu er eich lles gorau, gall gweithwyr proffesiynol gamu i mewn, ac fe ddylent fod yn gwneud hynny.
Yn ôl at y Llyfr…
O dan gyfraith Cymru, dylai Maddy fod wedi bod yn rhan o’r penderfyniadau am ei bywyd. Dylai’r tîm diogelu neu’r gwasanaethau cymdeithasol fod wedi camu i mewn i atal y cyfyngiadau diangen ar ei rhyddid.
Beth ddywed y Gyfraith: Eich hawl i fyw bywyd i’r eithaf

Rydych chi i fod i gael profiadau o’r byd, nid dim ond bodoli’n ddiogel ynddo.
Mae Erthygl 15 o CCUHP yn dweud bod gennych yr hawl i gwrdd â ffrindiau, ymuno â grwpiau, a chymryd rhan mewn torfeydd heddychlon heb i oedolion eich atal (oni bai bod hynny er mwyn eich cadw’n ddiogel).
Mae Erthygl 31 o CCUHP yn diogelu eich hawl i orffwys, chwarae a mwynhau diwylliant. Fe ddylech allu cymryd rhan mewn gweithgareddau fel chwarae gemau, gwneud chwaraeon, treulio amser gyda ffrindiau, gwneud hobïau, mynd i ddigwyddiadau, neu greu celf. Nid gweithgareddau ‘ychwanegol’ ydy’r rhain; maen nhw’n rhan o’r hyn sy’n eich helpu i ddeall pwy ydych chi a lle rydych chi’n ffitio yn y byd.
Dylid bod hefyd lefydd lle gallwch wneud y gweithgareddau hyn. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn dweud y dylai Cymru fod yn wlad lle mae pobl yn byw ‘bywydau iach, llawn’. Mae’r llefydd hyn yn cynnwys parciau a mannau gwyrdd diogel, canolfannau ieuenctid, cyfleusterau chwaraeon, canolfannau cymunedol, amgylcheddau ysgol sydd mewn cyflwr da, a gwasanaethau iechyd a lles hygyrch.
Yn ôl at y Llyfr…
Gwrthodir yr hawliau hyn i Maddy. Mae ei byd wedi’i gyfyngu i ychydig o ystafelloedd oherwydd bod ei mam yn credu bod ‘bod yn ddiogel’ yr un fath â ‘bod yn fyw’.
Ond mae cyfraith Cymru yn ei gwneud yn glir y dylai eich bywyd fod yn fwy na hynny. Mae gennych chi hawl i cael profiadau o’r byd a darganfod pwy ydych chi.
Rhoi popeth at ei gilydd
Mae eich rhyddid, eich annibyniaeth, eich hapusrwydd a’ch twf yn cael eu diogelu gan y gyfraith.
Mae Everything, Everything yn dangos beth sy’n digwydd pan fydd hawliau’n cael eu hanwybyddu.
Mae byd Maddy yn crebachu oherwydd y gwrthodir dewis, llais a chysylltiad iddi.
Y neges fawr? Ni ddylai diogelwch fyth ddileu rhyddid. Ni ddylai gofal fyth deimlo fel cawell. Ac mae eich hawliau’n bodoli i’ch helpu i fyw’n llawn, nid yn dawel.
Sut i sefyll dros eich hawliau
Os ydych chi’n meddwl nad yw eich hawliau’n cael eu parchu, mae pethau y gallwch eu gwneud.
- Ewch i wefan Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru i gael rhagor o wybodaeth
- Siaradwch ag oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddynt. Gallai fod yn athro, yn ffrind i’r teulu, yn weithiwr ieuenctid, yn hyfforddwr, yn nyrs ysgol
- Gofynnwch am gael siarad â meddyg ar eich pen eich hun
- Cysylltwch â’ch Comisiynydd Plant (Cymru) neu sefydliadau hawliau lleol eraill
- Edrychwch a oes grŵp hawliau ieuenctid neu gyngor cyfreithiol yn eich ysgol neu’ch cymuned
- Cysylltwch â Meic Cymru: 080880 23456
Gair am yr Awdur
Tamsin Beaumont ydw i, myfyriwr yn y gyfraith yn fy mlwyddyn olaf ym Mhrifysgol Abertawe. Rwyf wedi datblygu diddordeb cryf mewn cyfraith hawliau dynol, yn enwedig yng nghyd-destun plant. Rwy’n frwd dros wella mynediad at gyfiawnder, ac rwy’n credu y dylai pob person ifanc ddeall ei hawliau a theimlo fod ganddynt y pŵer i sefyll drostynt eu hunain. Drwy fy astudiaethau a’m profiadau, rwy’n gobeithio cyfrannu at gymdeithas lle mae lleisiau plant nid yn unig yn cael gwrandawiad ond yn cael eu gwir werthfawrogi.
Diolch yn fawr i Belinda Moseley o Geldards am archwilio cynnwys cyfreithiol y blog hwn.
