Mae’n bleser gan Ganolfan Gyfreithiol y Plant Cymru gyhoeddi partneriaeth newydd â Just for Kids Law ar y prosiect Newidwyr Cyfiawnder Plant, yn dilyn buddsoddiad pum mlynedd sylweddol gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Bydd y prosiect yn cefnogi plant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru a Lloegr i ddatblygu’r sgiliau, yr hyder a’r cyfleoedd i ddylanwadu ar sut mae plismona’n effeithio ar eu bywydau nhw ac ar fywydau cenedlaethau’r dyfodol.

I Ganolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, mae hwn yn gyfle cyffrous i adeiladu ar ein gwaith cynyddol ym maes cyfiawnder ieuenctid, hawliau plant a phlismona, gan gryfhau partneriaeth sydd wedi bod yn ganolog i’n datblygiad fel sefydliad.

Mae Just for Kids Law wedi bod yn gefnogol o Ganolfan Gyfreithiol y Plant Cymru ers i ni gael ein ffurfio. Felly, rydym yn arbennig o falch o fod yn gweithio gyda’n gilydd ar brosiect sy’n adlewyrchu ein cyd-ymrwymiad i sicrhau bod plant yn cael eu clywed, eu parchu a’u grymuso i ddylanwadu ar y systemau sy’n effeithio arnynt.

Er y bydd y prosiect yn gweithredu ar draws y ddwy wlad, bydd Canolfan Gyfreithiol y Plant yn cyflwyno persbectif Cymreig unigryw, gan ddefnyddio ymrwymiad hirsefydlog Cymru i hawliau, cyfranogiad ac atal plant.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru wedi cyfrannu at drafodaethau cenedlaethol pwysig ar faterion sy’n cynnwys oedran cyfrifoldeb troseddol, noeth-chwilio plant, defnydd yr heddlu o Taser ar blant, a dyfodol diwygio cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru. Drwy ymchwil, datblygu polisïau a chydweithio â phartneriaid ledled Cymru, rydym ni wedi eirioli’n gyson dros ddulliau sy’n rhoi hawliau, llesiant a phrofiad bywyd plant yn rhan ganolog o’r broses o wneud penderfyniadau.

Daw’r prosiect ar adeg arbennig o arwyddocaol i Gymru wrth i drafodaethau barhau ynghylch datganoli cyfiawnder ieuenctid a phwerau plismona yn y dyfodol. Ar yr un pryd, mae Llywodraeth Cymru wedi adnewyddu ei hymrwymiad i gryfhau hawliau plant ac ymgorffori hawliau dynol ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Wrth i’r sgyrsiau hyn ddatblygu, mae’n hanfodol fod plant a phobl ifanc yn chwarae rhan ystyrlon yn y gwaith o siapio’r dyfodol.

Ledled Cymru a Lloegr, cafodd tua 58,300 o blant rhwng 10 a 17 oed eu harestio am droseddau hysbysadwy yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025. Y tu ôl i bob ymwneud â’r system gyfiawnder mae plentyn â’i hawliau, ei urddas, ei les a’i ddyfodol yn bwysig iddo.

Mae prosiect Newidwyr Cyfiawnder Plant yn adlewyrchu’r gred gyffredin fod pobl ifanc yn arbenigwyr ar eu profiadau eu hunain. Drwy eu cefnogi i ddatblygu sgiliau arwain, eiriol ac ymgyrchu, bydd y prosiect yn creu cyfleoedd i bobl ifanc ddylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a chyfrannu at ddiwygiadau ystyrlon.

Gan weithio gyda’n gilydd ledled Cymru a Lloegr, mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru a Just for Kids Law yn edrych ymlaen at gefnogi cenhedlaeth newydd o newidwyr ifanc a sicrhau bod lleisiau plant yn rhan ganolog o sgyrsiau am blismona, cyfiawnder ieuenctid a hawliau plant.

Dywedodd Dr Rhian Croke, Arweinydd Ymgyfreitha Strategol a Pholisi yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru:

“Mae’r cyllid hwn yn gyffrous oherwydd mae’n rhoi plant a phobl ifanc lle maen nhw’n perthyn, sef wrth galon sgyrsiau am blismona a chyfiawnder ieuenctid.

Rydym ni wedi treulio sawl blwyddyn yn tynnu sylw at bryderon am faterion fel oedran cyfrifoldeb troseddol, noeth-chwilio, defnyddio Taser, a hawliau plant yn y system gyfiawnder. Mae’r prosiect hwn yn creu cyfle gwirioneddol i bobl ifanc symud y sgyrsiau hynny ymlaen eu hunain.

Mewn cyfnod pan fo trafodaeth gynyddol am ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a phlismona i Gymru, ac adeiladu systemau sy’n adlewyrchu gwerthoedd a hawliau plant Cymru yn well, mae’n hanfodol fod profiadau pobl ifanc yn helpu i siapio’r dyfodol.”

Dywedodd yr Athro Anthony Charles, Ymddiriedolwr gyda Chanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru:

“Rwy’n falch iawn y byddwn ni’n gweithio ochr yn ochr â Just for Kids Law ar y prosiect pwysig hwn. Mae ein sefydliadau’n rhannu’r gred y dylai hawliau plant a phrofiadau bywyd helpu i sbarduno diwygiadau.

Mae Cymru wedi arwain y ffordd yn aml o ran hyrwyddo hawliau plant, ond mae llawer o waith i’w wneud o hyd i sicrhau bod yr hawliau hynny’n cael eu hadlewyrchu’n llawn ym mhrofiadau plant o blismona a chyfiawnder.

Y lleisiau mwyaf pwerus dros newid yn aml yw’r rhai sydd â phrofiad uniongyrchol, a bydd y prosiect hwn yn rhoi cyfle gwirioneddol i bobl ifanc ddylanwadu ar ddadleuon a fydd yn siapio’r dyfodol ledled Cymru a Lloegr.”

Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant yn diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am wneud y gwaith hwn yn bosibl. Edrychwn ymlaen at weithio gyda phobl ifanc, partneriaid a llunwyr polisïau ledled Cymru a Lloegr dros y blynyddoedd nesaf i helpu i adeiladu systemau plismona a chyfiawnder ieuenctid sy’n parchu, yn amddiffyn ac yn cyflawni hawliau plant yn well.