Rydym yn croesawu adroddiad Comisiynydd Plant Lloegr ac rydym yn bryderus iawn ynghylch ei ganfyddiadau. Credwn fod yn rhaid rhoi’r gorau i’r arfer o noeth-chwilio plant ar unwaith. Mae’r adroddiad yn cadarnhau bod plant ledled Cymru a Lloegr wedi cael eu harchwilio gan swyddogion yr heddlu, a bod noeth-chwiliadau wedi cael eu cynnal lle mae swyddogion wedi methu â chadw at ofynion canllawiau statudol ar arfer pwerau Atal a Chwilio.[i]
Mae adroddiad Comisiynydd Plant Lloegr yn nodi bod 2, 847 o blant (8-17 oed) wedi cael eu noeth-chwilio rhwng 2018 a 2022. Roedd 25% o’r chwiliadau hyn ar blant dan 16 oed, a rhai ar blant mor ifanc ag 8 oed. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi na chymerwyd camau pellach yn erbyn y plentyn mewn 51% o’r achosion hyn.
Darparodd 39 o’r 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ddata i’r Comisiynydd. Mae data gan heddluoedd yng Nghymru yn dangos bod 134 o blant wedi cael eu noeth-chwilio yn 2018-2022. Cofnododd Heddlu Gogledd Cymru 12 chwiliad, a Heddlu Gwent 14 chwiliad. Mae’r ffigurau hyn yn peri pryder. Yn frawychus, adroddodd Heddlu De Cymru eu bod wedi noeth-chwilio 108 o blant, ffigur yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer Cymru a Lloegr; nid wnaeth Heddlu Dyfed-Powys ddarparu data.
Credwn y dylai fod yn orfodol i bob heddlu yng Nghymru fonitro ac adrodd ar noeth-chwilio plant, gan gynnwys dangos tystiolaeth o sut y maent wedi cydymffurfio â gofynion statudol perthnasol.
Mae adroddiad y Comisiynydd yn nodi’r canlynol, sy’n enghreifftiau clir o dorri’r canllawiau statudol:
- Mae plant du 6 gwaith yn fwy tebygol o gael eu noeth-chwlio;
- Mewn 53% o noeth-chwiliadau, nid oedd unrhyw oedolyn priodol yn bresennol;
- Mewn 45% o’r achosion, ni chofnodwyd lleoliad y noeth-chwilio;
- Cynhaliwyd 6% o noeth-chwiliadau gydag o leiaf un swyddog o ryw gwahanol (i’r plentyn) yn bresennol.
Mae canfyddiadau adroddiad Comisiynydd Plant Lloegr yn peri mwy fyth o bryder o’u darllen yng ngoleuni pryderon ehangach ynghylch hiliaeth sefydliadol, homoffobia, casineb tuag at fenywod a chamddefnyddio pwerau’r heddlu fel yr amlinellir yn Adroddiad Casey.
Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn dadlau:
- Bod noeth-chwilio plant yn groes i hawliau plant a dylid ei ystyried yn driniaeth annynol a diraddiol;
- Yn lle achosi trawma i blant, dylid trin pob plentyn, gan gynnwys y rhai a allai fod yn gysylltiedig ag ymddygiad troseddol, fel ‘plant’ yn gyntaf gydag urddas a pharch;
- Yng Nghymru, mae noeth-chwilio yn groes i ymrwymiad y genedl i CCUHP a deddfwriaeth Cymru’n unig sy’n hyrwyddo hawliau plant;
- Dylid adolygu pwerau’r heddlu ar noeth-chwilio ar fyrder a dod â’r arfer o noeth-chwilio plant i ben;
- Dylid buddsoddi mewn dewisiadau eraill yn lle noeth-chwilio (gan gynnwys technolegau amgen) y gellir eu defnyddio i gadw plant yn ddiogel rhag niwed, ac ar yr un pryd parchu eu hawliau.
[i] Gweler y blog ‘Noeth-chwilio plant: mynd yn groes i hawliau plant’ gan Dr Rhian Croke, Arweinydd Ymgyfreitha Strategol ac Eiriol Polisi ym maes Hawliau Plant ar gyfer Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, sy’n cyfeirio at ddata a gasglwyd gan Swyddfa Gartref y DU fel rhan o’r Gofyniad Data Blynyddol, ar noeth-chwilio plant yn y ddalfa.