Cymru a Lloegr: Noeth-chwilio plant
Gofynnodd ymchwiliad diweddar gan BBC File on 4 i bob un o’r 44 heddlu yng Nghymru a Lloegr am wybodaeth am noeth-chwilio plant.[i] Ymatebodd 31 o heddluoedd i gais y BBC, gan ddatgelu eu bod wedi noeth-chwilio 13,000 o blant yn ystod y 5 mlynedd diwethaf (fel arfer ar amheuaeth bod y plentyn yn cuddio cyffuriau neu arfau). Adroddwyd hefyd bod plant du a phlant o hil gymysg yn fwy tebygol o gael eu noeth-chwilio. Mae nifer o achosion uchel eu proffil sy’n cael eu hymchwilio gan y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu (IOPC), lle caiff ei honni nad yw plant wedi cael eu trin yn briodol tra’u bod yn cael eu chwilio.
Efallai eich bod wedi clywed am yr achos ‘Plentyn Q’ a’r achos ‘Olivia’ lle bu’r heddlu’n noeth-chwilio heb ddilyn y drefn briodol. Yn yr achos Plentyn Q, roedd plentyn 15 oed wedi cael ei amau’n anghywir am feddu ar gyffuriau anghyfreithlon a chafodd ei noeth-chwilio gan swyddogion yr heddlu yn yr ysgol, ac nid oedd unrhyw oedolyn priodol yn bresennol (os yw plentyn yn cael ei noeth-chwilio dan arweiniad yr heddlu, dylai rhiant/gwarcheidwad, gweithiwr cymdeithasol neu wirfoddolwr fod yn bresennol).[ii] Yn achos Olivia, cafodd plentyn awtistig 15 oed ei arestio, ac yn ystod ei chyfnod yn y ddalfa, ar ôl 20 awr, rhoddodd swyddogion yr heddlu gefynnau iddi cyn ei gwthio ar y llawr, gan dorri ei dillad isaf a’i noeth-chwilio yng ngŵydd swyddogion gwrywaidd.
Cyhoeddodd Comisiynydd Plant Lloegr adroddiad yn Awst 2022 a oedd yn nodi bod hanner yr holl noeth-chwiliadau i blant wedi arwain at beidio â chymryd camau pellach gan yr heddlu: dywedodd y Comisiynydd fod hyn ‘yn codi amheuaeth ynghylch a oedd y chwiliadau trawmatig hyn yn angenrheidiol o gwbl’. Canfu fod 650 o blant wedi cael eu noeth-chwilio yn 2020, gan gynnwys rhai plant mor ifanc â 10 oed. Gwnaethpwyd y rhan fwyaf o noeth-chwiliadau ar fechgyn (dros 95%) gyda llai na 5% o’r chwiliadau’n cael eu gwneud ar ferched. Hefyd, yn destun pryder mawr, roedd 58% o’r bechgyn a gafodd eu noeth-chwilio yn cael eu disgrifio fel pobl ‘Ddu’ gan swyddogion. Dysgodd y Comisiynydd hefyd nad oedd oedolyn priodol yn bresennol mewn 23% o’r achosion.
Casglu data
Yn frawychus, er i’r rhan fwyaf o noeth-chwiliadau ddigwydd yng nghartref neu orsaf heddlu’r plentyn, mewn 1 o bob 5 achos, methodd yr heddlu gadw cofnod priodol o’r noeth-chwiliad. Mynegodd y Comisiynydd bryder ynghylch y diffyg goruchwyliaeth briodol o arferion yr heddlu o ran noeth-chwilio plant ac mae wedi gofyn am wybodaeth am yr holl noeth-chwiliadau gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r Swyddfa Gartref (sy’n gyfrifol am oruchwylio’r heddlu) yn dweud y bydd yn cyhoeddi gwybodaeth am noeth-chwiliadau fel rhan o’i Gofyniad Data Blynyddol. Gofynnwyd i heddluoedd ddarparu gwybodaeth ar gyfer 2021/22 yn wirfoddol, erbyn diwedd 2022. Roedd yr wybodaeth y gofynnwyd amdani’n cynnwys manylion am oed, rhyw ac ethnigrwydd pobl sy’n cael eu noeth-chwilio gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr. Dylai’r adrodd hwn, yn ein barn ni, fod yn orfodol.
Cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ei hadroddiad cyntaf ar 18 Tachwedd 2022.
Dim ond 28 o’r 43 heddlu a ddarparodd ddata. Dywedodd y Swyddfa Gartref fod 3,133 o blant rhwng 10 ac 17 oed wedi cael eu noeth-chwilio yn 2021/22 a bod dros draean y plant a chwiliwyd yn ddu.
Risg Hiliaeth systemig a Chasineb at Ferched
Rhaid i’r dystiolaeth ar noeth-chwilio plant hefyd gael ei gosod yng nghyd-destun ehangach hiliaeth systemig a chasineb at ferched.
Mae’r IOPC wedi bod yn adrodd ar gasineb at ferched a hiliaeth sefydliadol yn yr heddlu Metropolitan. Mae tystiolaeth hefyd wedi’i datgelu gan ymchwiliad y Sunday Times, sy’n codi pryderon am y posibilrwydd o ddiwylliant o hiliaeth a chasineb at ferched yn Heddlu Gwent. Mae’r IOPC yn cynnal ymchwiliad annibynnol ar yr heddlu. Mae cyn bennaeth erlyn y goron, Nazir Afzal, wedi bod yn galw am adolygiad ehangach o ddiwylliant yr heddlu.
Yn ein barn ni, ni ddylai unrhyw blentyn gael ei noeth-chwilio. Rydym hefyd yn bryderus y gallai rhai o’r chwiliadau hyn fod yn cael eu cynnal gan heddluoedd lle mae posibilrwydd o hiliaeth neu gasineb at ferched ymhlith rhai swyddogion sy’n gyfrifol am gynnal noeth-chwiliadau plant.
Y broblem gydag arweiniad ar noeth-chwilio
Mae’r dull presennol o noeth-chwilio yn mynd yn groes i’r hyn sy’n cael ei gyfleu gan ddull Cyngor Cenedlaethol yr Heddlu sy’n canolbwyntio ar blant yng nghyswllt plismona, sy’n nodi’n glir:
‘Mae’n hanfodol bod pobl ifanc dan 18 oed yn cael eu trin fel plant yn gyntaf ym mhob achos â’r heddlu. Rhaid i bob swyddog ystyried eu diogelwch a’u llesiant fel sy’n ofynnol dan A10 ac A11 Deddf Plant 2004 a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.’
Mae adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Chris Bath wedi cyfeirio at ddiffyg eglurder ac amwysedd ynghylch y canllawiau PACE presennol a gyhoeddir i heddluoedd ledled y DU, ar bwerau i noeth-chwilio plant sy’n agored i niwed. [iii] Dywed Bath:
‘Mae disgresiwn yn ganolog, a dyma lle mae hiliaeth a grym yn dod i rym. Mae pwerau disgresiwn mor beryglus yn nwylo swyddog sy’n trin plant a phobl ifanc du fel rhai sy’n cael eu hamau ac nad ydynt yn agored i niwed ac nad ydynt yn eu gweld fel plant.’
Mewn ymateb i adolygiad diogelu Hackney yn yr achos Plentyn Q, diweddarodd Adran Addysg y DU ei chanllawiau ar gyfer ysgolion sy’n trafod noeth-chwilio. Er bod llawer o’r newidiadau i’r canllawiau yn cael eu croesawu, yn enwedig y pwyslais cryf ar ddiogelu, cofnodi beth ddigwyddodd, a hysbysu rhieni, mae’n dal i awdurdodi defnyddio noeth-chwilio.
Nid yw’n syndod bod sefydliadau yn Lloegr yn dod at ei gilydd i ymgyrchu dros roi diwedd i noeth-chwilio plant, gan ddadlau bod yr hyn y mae’r heddlu’n ei orfodi ar blant yn israddol ac yn annynol, a’i fod yn cyfateb i ymosodiad rhywiol sy’n cael ei awdurdodi gan y wladwriaeth.
Fel y dywedodd Plentyn Q yn ystod ei hachos cyfreithiol:
‘Fe gerddodd rhywun i’r ysgol, lle’r oeddwn i fod i deimlo’n ddiogel, a mynd â fi oddi wrth y bobl a oedd i fod i fy amddiffyn a thynnu fy nillad gan fy ngadael i’n noeth, tra oeddwn i ar fy mislif. Alla i ddim mynd yr un diwrnod heb fod eisiau sgrechian, gweiddi, crio, a theimlo fel rhoi’r gorau i bopeth. Dwi ddim yn siŵr a ydw i’n mynd i deimlo’n normal eto. Ond dwi’n gwybod na all hyn ddigwydd i unrhyw un arall, byth eto.”
A dywedodd yr Ymgyrch #RhoiDiweddiNoethChwilio:
‘Does dim byd y gallai plentyn guddio yn ei gorff yn werth i rywun ymosod arnyn nhw’n rhywiol. P’un a yw rhywbeth yn cael ei ganfod ai peidio, mae plentyn yn cael ei niweidio mewn ffordd sy’n arwain at oblygiadau dwfn i’w iechyd meddwl, a’i ddyfodol. Nid oes unrhyw gyfiawnhad.’
Tystiolaeth sy’n Benodol i Gymru: Noeth-chwilio plant
Mae’r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid diweddaraf yng Nghymru i fod yn seiliedig ar hawliau plant. Dylai Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant olygu bod noeth-chwilio plant yn dod i ben. Mae’n torri hawliau plant, yn gwadu eu preifatrwydd a’u hannibyniaeth corfforol, mae’n annynol ac yn israddol.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r Fframwaith Ymarfer Trawma Cenedlaethol Cymru ac mae ei pholisi’n canolbwyntio ar atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Mae’r dull hwn yn cael ei ddilyn drwy’r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid.
Does dim dwywaith y bydd noeth-chwilio yn brofiad trawmatig i unrhyw blentyn. Fodd bynnag, cawsom wybod yn ddiweddar bod noeth-chwilio plant yn digwydd yng Nghymru.
Yn gynharach eleni, gofynnodd The National Newspaper am wybodaeth gan ddefnyddio gweithdrefn a elwir yn gais Rhyddid Gwybodaeth am noeth-chwilio plant yng Nghymru. Heddlu Gwent oedd yr unig heddlu a atebodd y cais ac adroddodd fod 75 o noeth-chwiliadau wedi’u cynnal ar blant rhwng 10 ac 17 oed, rhwng 2018 a 2021. Ni eglurwyd a oedd unrhyw rai o’r noeth-chwiliadau yn “chwiliadau personol”.[iv]
Mewn tystiolaeth ddiweddar a gasglwyd gan y Swyddfa Gartref ym mis Tachwedd 2022 ar gyfer 2021/2022, adroddwyd bod heddlu Gwent wedi noeth-chwilio 35 o blant, Dyfed-Powys 15 a De Cymru 133 o blant. Ni roddodd Gogledd Cymru unrhyw dystiolaeth. Ar draws y 3 heddlu yng Nghymru, cafodd 183 o blant eu noeth-chwilio yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022. [v] O’r 183 o blant, roedd 86% yn fechgyn a 14% yn ferched. Mae data dalfa’r heddlu yn disgrifio 81% o’r plant fel gwyn, 5.5% Du, 5% Asiaidd, 2.2% Hil Gymysg a disgrifiwyd y 6.3% yn weddill fel arall neu heb ei ddatgan.
Rydym yn ymwybodol bod Comisiynydd Plant Cymru yn gweithio gyda heddluoedd ledled Cymru ar noeth-chwilio ynglŷn â’r goblygiadau i hawliau plant. Mae’r swyddfa wedi dweud y gofynnwyd am ddata gan yr holl heddluoedd ond nid yw pob un wedi rhannu data. Fodd bynnag, maent yn ymwybodol bod plant dan 11 oed wedi bod yn destun noeth-chwiliadau.
Casgliad
Hoffai Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru weld gweithredu cadarn yn y maes hwn, ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru, Comisiynydd Plant Cymru a Phanel Ymgynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru i weithio i roi diwedd i noeth-chwilio plant yng Nghymru fel mater o frys.
Camau y mae Canolfan Gyfreithiol y Plant yng Nghymru yn eu cymryd mewn perthynas â noeth-chwilio plant.
- Gweithio gyda phartneriaid allweddol i roi DIWEDD ar noeth-chwilio plant yng Nghymru, rydym yn cynnal gweminar byd-eang gyda Chanolfan Gyfreithiol Cyfiawnder Ieuenctid ar ‘Noeth-chwilio Plant’ yn y gwanwyn.
- Gweithio gyda phartneriaid i gael gwell darlun o nifer y plant yng Nghymru sy’n cael eu noeth-chwilio. Cysylltwch â ni os oes gan eich sefydliad wybodaeth yr hoffech ei rhannu.
- Datblygu canllaw i blant i’w helpu i wybod beth yw eu hawliau o dan ddeddfwriaeth gyfredol y DU os gofynnir iddynt gymryd rhan mewn noeth-chwiliad. Cadwch lygad am y canllaw hwn.
Ôl-nodiadau
[i] Mae ‘noeth-chwiliad’ yn arfer penodol sy’n ymwneud â’r pwerau stopio a chwilio cyffredinol sydd ar gael i’r heddlu. Mae dau fath gwahanol o noeth-chwiliad wedi’u hamlinellu o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE) 1984.
Chwiliad Mwy Trylwyr, fel rhan o stopio a chwilio, yw pan fydd swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol bod y gwrthrych yn tynnu mwy na chôt allanol, siaced neu fenig. Nid yw’r broses hon yn datgelu rhannau personol o’r corff. Mae pwerau ar gyfer y chwiliad mwy trylwyr hwn wedi’u nodi o dan God A PACE, paragraff 3.6
Chwiliadau sy’n cynnwys Dangos Rhannau Personol o’r Corff yw pan fydd person yn tynnu’r cyfan neu’r rhan fwyaf o’i ddillad. Rhaid eu defnyddio dim ond lle bo angen ac o fewn rheswm, gan gadw gwrthrych y chwiliad mewn cof. Mae angen ymgynghori â goruchwyliwr bob amser. Rhaid i’r swyddog heddlu fod o’r un rhyw â’r sawl sy’n cael ei chwilio a rhaid cynnal y broses yn unol â pharagraff 11 Cod C PACE, Atodiad A. Mae pwerau llawn wedi’u nodi o dan God A PACE, paragraff 3.7. ‘Ni ddylai chwiliadau sy’n cynnwys datguddio rhannau personol o’r corff gael eu cynnal fel estyniad arferol o chwiliad llai trylwyr, dim ond oherwydd na chanfyddir dim yn ystod y chwiliad cychwynnol…’
[ii] Gweler y Briff ar noeth-chwilio ac Achos Plentyn Q gan y Rhwydwaith Cyfraith Plant.
[iii] I grynhoi adroddiad Chris Bath, mewn perthynas â diffyg eglurder o ran gweithredu pwerau chwilio, mae’n adrodd:
- mae’r codau PACE yn rhy gymhleth i ddeall pa chwiliadau sydd angen oedolyn priodol.
- nid yw rhieni yn bodoli o fewn fframwaith chwiliadau PACE.
- mae dryswch ynghylch pa rannau corff sy’n cael eu dosbarthu fel rhai personol,
- mae camddealltwriaeth o ran beth yw caniatâd.
- mae diffyg eglurder ynghylch y lleoliad gorau ar gyfer chwiliadau.
- mae dryswch o ran yr hyn sy’n gyfystyr â data a chofnodi priodol.
- nid yw safbwynt yr IOPC ynghylch arogl canabis, fel yr unig sail dros amheuaeth, yn cael ei gefnogi gan unrhyw ddeddfwriaeth, Codau nac Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig.
- mae dealltwriaeth gyfyngedig o weithdrefnau a hawliau chwilio ymhlith plant, gweithwyr proffesiynol fel athrawon a’r cyhoedd.
- nid yw’r fframwaith chwilio yn adlewyrchu’n llawn ofynion cyfreithiol cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer ymagwedd benodol at blant ac anfantais groestoriadol.
[v] Ni chofnodwyd unrhyw chwiliad personol.