Dr Rhian Croke, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru
Mae data newydd a gyhoeddwyd ar 9 Ebrill 2026, sy’n deillio o ystadegau dalfa Swyddfa Gartref y DU, yn dangos bod 157 o blant wedi cael eu noeth-chwilio yn nalfa’r heddlu yng Nghymru yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025. Gyda gofal, gellir cymharu hyn â 2021/22 – sef y llinell sylfaen gynharaf y gellir ei chymharu’n fras yn y set ddata bresennol – pan gofnodwyd 183 o achosion. Ers hynny, mae’r Swyddfa Gartref wedi gwella cysondeb a chwmpas ei phroses casglu data, ond mae’n parhau i gategoreiddio’r ffigurau hyn fel “ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu”, ac mae’n cynghori yn erbyn dod i gasgliadau pendant am dueddiadau dros amser.
Drwy gydol y cyfnod hwn, Heddlu De Cymru oedd â’r gyfran fwyaf o noeth-chwiliadau yn nalfa’r heddlu, gyda Heddlu Gwent yn gyson â’r ail niferoedd uchaf. Cofnodwyd ffigurau cymharol isel bob blwyddyn yn Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Gogledd Cymru.
Mae’r gostyngiad cyffredinol ymddangosiadol yn adlewyrchu, o bosibl, effaith mwy o graffu a sylw ar ffurf polisi yn dilyn achosion uchel eu proffil, fel achos Plentyn Q, ochr yn ochr â galwadau ehangach am ddiwygio ynghyd â’r hyfforddiant a’r arweiniad a roddir i’r heddlu o ganlyniad i hynny. Er hynny, mae’r ffaith bod plant yn dal i gael eu noeth-chwilio ar y raddfa hon yn dal i achosi pryder mawr, a dim ond y plant sy’n cael eu noeth-chwilio yn nalfa’r heddlu sy’n cael eu cynrychioli yn y ffigurau hyn.[i]
Y tu ôl i’r ffigurau hyn mae plant go iawn sy’n profi cywilydd a thrallod, a system sydd, hyd yma, wedi methu â sicrhau nad yw eu hawliau’n cael eu tanseilio dro ar ôl tro, sy’n tanlinellu’r angen brys am ddiwygiadau ac eiriolaeth barhaus.
Eirioli, a Mwy o Graffu ers 2022
Yn 2022, cyhoeddais flog a gafodd gryn sylw, oedd yn sôn am brosesau monitro ac adrodd annigonol ar gyfer noeth-chwilio, ac yn dweud bod noeth-chwilio plant yn gyfystyr â thanseilio hawliau plant.
Yn 2025, ochr yn ochr ag Insaafi CIC – sydd wedi cyflwyno ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn gyson ar draws pedwar heddlu Cymru – fe wnaethom adrodd ar y gwaith ymchwil ac eirioli ar y cyd a wnaed ers 2022 er mwyn gwella prosesau monitro a chofnodi data noeth-chwilio. Fel yr amlinellwyd yn ein papur briffio, roedd ceisio cael data cadarn gan heddluoedd Cymru yn heriol dros ben. Mae hynny’n gwbl annigonol o ystyried na all yr heddlu, heb ddata priodol, ddangos yn ddigonol eu bod yn cydymffurfio â’u dyletswyddau cyfreithiol.
Fe wnaethom hefyd fynegi pryderon difrifol bod yr arfer diraddiol hwn yn parhau. Er mai bwriad noeth-chwiliadau yw datgelu eitemau peryglus neu anghyfreithlon, yn y rhan fwyaf o achosion nid oes unrhyw beth anghyfreithlon yn cael ei ganfod, ac mae diffyg cysondeb hefyd yn y defnydd o fesurau diogelu ochr yn ochr â noeth-chwiliadau. Mae’r data hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod plant Du yn cael eu noeth-chwilio ar lefel anghymesur.
Niwed Seicolegol a Thrawma Hirdymor
Yn bwysicaf oll, mae’r plant eu hunain wedi siarad yn glir dros flynyddoedd lawer am y trallod a’r trawma dwys y mae’r arfer hwn yn ei achosi. Yn 2006, mewn adolygiad a gynhaliwyd gan yr Arglwydd Carlile, roedd merch 16 oed yn teimlo bod ei noeth-chwiliad yn gyfystyr â cham-drin rhywiol. “Roedd fy noeth-chwiliad llawn cyntaf yn ofnadwy, gan fy mod i wedi cael fy ngham-drin yn rhywiol. Doeddwn i ddim yn teimlo’n gyfforddus yn dangos fy nghorff gan fod hynny’n dod ag atgofion drwg yn ôl.”
Yn fwy diweddar, yn 2022, cafodd Olivia, plentyn 15 oed awtistig, ei harestio. Yn ystod ei chyfnod yn y ddalfa, ar ôl 20 awr, aeth swyddogion yr heddlu ati i’w rhoi mewn gefynnau cyn ei dal i lawr, torri ei dillad isaf a’i noeth-chwilio ym mhresenoldeb swyddogion heddlu oedd yn ddynion. Mae Olivia ‘mewn trallod mawr’ yn ôl ei mam, a dywedodd fod y profiadau wedi cael effaith ddinistriol ar ei hiechyd meddwl, gan wneud iddi ‘gamu’n ôl o gymdeithas’ a cheisio dod â’i bywyd i ben.
Yn adolygiad Jay a gynhaliwyd yn 2024, daeth y dystiolaeth ganlynol gan fachgen a gafodd ei noeth-chwilio am y tro cyntaf pan oedd yn 12 oed. Dywedodd ei fod yn brofiad diraddiol, a’i fod wedi cyfrannu at chwalu ei ymddiriedaeth yn yr heddlu am byth. ‘Roeddwn i’n ifanc dros ben y tro cyntaf y cefais i fy arestio … Roedd bron yn teimlo fel bach o jôc iddyn nhw. Doedd o ddim yn teimlo mor ddifrifol â hynny. Unwaith eto, roedd yn brofiad llawn cywilydd. Roeddwn i’n teimlo eu bod nhw’n codi cywilydd arna i.’
Mae llawer o sôn am niwed seicolegol: mae plant yn dweud eu bod yn teimlo cywilydd, pryder, ac ofn, a bod ganddynt ddiffyg ymddiriedaeth hirdymor mewn awdurdod.
Ymgysylltu Gwleidyddol a Galwadau am Newid
Ym mis Mai 2025, roedd yn galondid gweld ein briff ar y cyd – a oedd yn galw am wahardd noeth-chwilio plant – yn cael ei godi gan Sioned Williams AS yn y Senedd, a hynny’n bwerus iawn:
“Mae briff ymchwil… wedi datgelu bod yr arfer o noeth-chwilio plant yn dal i ddigwydd ar lefel annerbyniol o uchel yng Nghymru…er ei fod yn drawmatig ac yn mynd yn groes i’r hawliau plant rydym wedi’u hymgorffori yn ein deddfau…”
Mewn ymateb, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru ailddatgan ei hymrwymiad i gynnal Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ac i hyrwyddo dull gweithredu sy’n rhoi’r plentyn yn gyntaf ac sy’n seiliedig ar hawliau. Fodd bynnag, cydnabuwyd hefyd nad yw plismona a chyfiawnder troseddol wedi’u datganoli i Gymru.
Ochr yn ochr â dylanwadu ar Lywodraeth Cymru, er mwyn rhoi pwysau ar asiantaethau yng Nghymru, rydym wedi parhau i eirioli dros newid ar lefel y DU. Ym mis Mehefin 2024, law yn llaw â’n partneriaid Just for Kids Law ac Youth Justice Legal Centre, fe wnaethom gyflwyno ymateb cydweithredol i gynigion gweinyddiaeth flaenorol Llywodraeth y DU i ddiwygio chwiliadau sy’n cynnwys datgelu rhannau preifat o’r corff. Dywedom yn glir nad yw cyfraith a chanllawiau presennol y DU yn addas i’r diben ar gyfer plant, ac nad ydynt yn cyd-fynd â safonau hawliau dynol rhyngwladol.
Oedi wrth Ddiwygio, a phwysau rhyngwladol a chenedlaethol i ddelio â’r arfer
Bron i ddwy flynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i aros i Swyddfa Gartref y DU gyhoeddi adolygiad o Godau PACE ynghylch chwiliadau sy’n datgelu rhannau preifat o’r corff, neu am Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant i gyd-fynd â hynny. Gan fod cryfhau mesurau diogelu cyfreithiol ar gyfer noeth-chwilio plant yn un o ymrwymiadau Maniffesto Llafur y DU, mae’r oedi hwn yn anfaddeuol.
Yn y cyfamser, mae miloedd o blant ledled Cymru a Lloegr yn dal i ddioddef yr arfer diraddiol hwn. Gyda’n partneriaid, Just for Kids Law ac Youth Justice Legal Centre, rydym wedi ysgrifennu’n ddiweddar at Weinidog Plismona a Gweinidog Cyfiawnder Ieuenctid y DU i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y diwygiadau deddfwriaethol, ac rydym yn aros yn awyddus am eu hymateb.
Galwodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn am gamau deddfwriaethol i wahardd yn bendant, heb eithriad, y defnydd o noeth-chwiliadau o blant. Atgyfnerthwyd y safbwynt hwn ymhellach gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Gwahaniaethu ar sail Hil yn 2024.
Mae Siarter Plismona Plant a Phobl Ifanc 2025 yn datgan y bydd plismona’n cael ei roi ar waith yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Pe bai’r ymrwymiad hwn yn cael ei gynnal yn ymarferol, byddai’n rhoi diwedd ar noeth-chwilio plant, yn unol ag argymhelliad clir Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Mae Comisiynwyr Plant yng Nghymru, yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon wedi galw am roi diwedd ar noeth-chwilio plant. Yng Nghymru, yn 2025 roedd clymblaid bwerus o fudiadau trydydd sector – a gafodd ei chynnull gan Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Blant a Theuluoedd yn ogystal â’i Grŵp Trawsbleidiol ar Blant yn Ein Gofal – wedi galw yn eu Bil Pob Plentyn am ragor o ddatganoli er mwyn gallu gwahardd yr arfer.
Arfer sy’n mynd yn Groes i Hawliau Plant, a Dulliau Gweithredu Gwrth-hiliol ac sy’n ystyriol o Drawma yng Nghymru
Mae plant sy’n dod i gysylltiad â’r heddlu yn debygol o fod wedi profi trawma sylweddol yn barod. Mae gwneud iddynt ddioddef cael eu noeth-chwilio yn arfer cwbl amhriodol. Mae dulliau gweithredu sy’n ystyriol o drawma ac sy’n ymateb i drawma yn ganolog i Lasbrint Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a’r fframwaith atal.
Nid yw noeth-chwilio plant, hyd yn oed pan fydd amheuaeth o gyffuriau neu arfau, yn ymateb sy’n rhoi’r plentyn yn gyntaf, yn diogelu, nac yn ystyriol o drawma. Mae’n ymwthiol iawn, ac yn niweidiol yn seicolegol. Mae hefyd yn mynd yn groes i ddeddfwriaeth Cymru sy’n hyrwyddo ac yn amddiffyn hawliau plant.
Ar ben hynny, o ystyried yr effaith anghymesur ar blant Du, mae’r arfer hefyd yn mynd yn groes i ddeddfwriaeth cydraddoldeb y DU a’r ymrwymiadau a nodwyd yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae hefyd yn bwysig ailddatgan bod tystiolaeth yn dangos yn gyson nad oes unrhyw eitemau anghyfreithlon yn cael eu canfod ac nad oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd yn y rhan fwyaf o achosion.
Yr Achos dros Fuddsoddi mewn Opsiynau Eraill
Felly, mae’n anodd cyfiawnhau parhau i ddefnyddio arfer sy’n niweidiol yn ogystal ag yn aneffeithiol, ac sy’n dwysáu trawma plant ac yn tanseilio eu hurddas. Mae hyn yn arbennig o drawiadol mewn cyd-destun lle mae technolegau amgen blaengar yn bodoli.
Ym mis Ionawr 2023, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gyda balchder lwyddiant technolegau amgen yn yr ystad ddiogel i oedolion, lle gwnaed buddsoddiad sylweddol, gan ddatgan: Mae sganwyr corff pelydr-X arloesol wedi atal dros 28,000 o ymdrechion i smyglo cyffuriau, ffonau ac arfau yn y carchar. Ac eto, er bod yr ystad oedolion yn elwa o’r datblygiadau arloesol hyn, mae plant yn nalfa’r heddlu yn parhau i wynebu’r arfer ymwthiol o gael eu noeth-chwilio.
Gyda’r buddsoddiad cywir, mae potensial amlwg i opsiynau technolegol amgen. Er enghraifft, mae Heddlu De Cymru wedi cyfeirio miliynau at dechnoleg adnabod wynebau.[ii] Fel un o’r heddluoedd sy’n cynnal y nifer mwyaf o noeth-chwiliadau yng Nghymru a Lloegr, mae hyn yn codi cwestiwn pwysig: pam nad oes buddsoddiad cyfatebol mewn dulliau technolegol a allai leihau neu ddileu’r angen i noeth-chwilio plant?
Galw am Weithredu
Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i fwrw ymlaen â’r broses o ddatganoli pwerau plismona, ac i gymryd camau pendant i roi diwedd ar noeth-chwilio plant yng Nghymru.
Rhaid i hyn gynnwys buddsoddi mewn technolegau a dulliau amgen sy’n diogelu urddas plant, yn lleihau niwed, ac yn cynnal eu hawliau. Ni ddylai unrhyw blentyn orfod dioddef arfer sy’n ddiraddiol, yn drawmatig, ac sy’n anghyson â gwerthoedd Cymru a’i hymrwymiadau cyfreithiol.
Nodiadau i Gloi
[i] Mae plant hefyd yn cael eu noeth-chwilio o dan Bwerau Stopio a Chwilio, gweler adroddiad Comisiynydd Plant Lloegr. Dywedwyd mai Heddlu De Cymru yw un o’r 5 heddlu yng Nghymru a Lloegr sy’n cynnal y nifer mwyaf o noeth-chwiliadau.
[ii] Mae Heddlu De Cymru wedi buddsoddi tua £3.5 miliwn mewn technoleg adnabod wynebau.
