Rhian Howells – Arweinydd Addysg ac Ymgysylltu
Mae etholiad nesaf y Senedd yn cael ei gynnal ar 7 Mai 2026. Eleni, mae yna newidiadau mawr y dylai pleidleiswyr ifanc wybod amdanyn nhw. P’un a ydych chi’n pleidleisio am y tro cyntaf yn 16 oed neu wedi cymryd rhan o’r blaen, mae’r etholiad hwn yn gyfle i chi ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n siapio bywyd yng Nghymru.
Beth yw’r Senedd?
Mae gan Gymru ei Senedd ei hun. Mae ar wahân i Lywodraeth y DU ac mae ganddi bwerau i wneud penderfyniadau ar faterion datganoledig. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Addysg
- Gwasanaethau Iechyd
- Tai a chymunedau lleol
- Trafnidiaeth gyhoeddus
- Hinsawdd a’r amgylchedd
Gall pob un o’r meysydd hyn effeithio ar eich bywyd bob dydd, ac os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn, mae gennych hawl i ddweud eich dweud ynghylch pwy sy’n gwneud y penderfyniadau hyn.
Mae etholiad y Senedd eleni yn wahanol iawn i’r etholiadau blaenorol. Mae’r prif newidiadau’n cynnwys:
🔹 16 etholaeth newydd – Mae gan Gymru 16 etholaeth fwy erbyn hyn, gyda phob un yn ethol 6 Aelod o’r Senedd gan ddefnyddio system cynrychiolaeth gyfrannol rhestrau caeedig.
🔹 Mwy o Aelodau – Bydd nifer Aelodau’r Senedd yn codi o 60 i 96, er mwyn ceisio gwella craffu a chynrychiolaeth.
🔹 System bleidleisio newydd – Yn hytrach na phleidleisio dros Aelod o’r Senedd ar gyfer etholaeth ac Aelod o’r Senedd ar gyfer rhanbarth, byddwch nawr yn bwrw un bleidlais dros restr plaid yn eich etholaeth.
Mae’r newidiadau hyn wedi’u cynllunio i wneud y Senedd yn fwy effeithiol ac yn fwy cynrychioliadol.
Beth ddylwn i ei wneud yn yr orsaf bleidleisio?
Yn etholiad y Senedd 2026, bydd gennych un bleidlais ar gyfer plaid neu ymgeisydd annibynnol, a bydd pob etholaeth yn ethol chwe Aelod o’r Senedd gan ddefnyddio cynrychiolaeth gyfrannol.
Rhaid i chi gofrestru i bleidleisio erbyn 20 Ebrill
Gallwch gofrestru i bleidleisio yn un o etholiadau’r Senedd:
- Os ydych chi’n 16 oed neu hŷn
- Os ydych chi’n byw yng Nghymru
- Os ydych chi’n ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd Gwyddelig, neu’n ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad neu dramor sy’n byw yng Nghymru
Hyd yn oed os nad ydych chi’n 16 oed eto, weithiau gallwch gofrestru’n gynnar yn 14 neu 15 oed, er mwyn i chi fod yn barod i bleidleisio pan fyddwch chi’n 16 oed. Does dim angen ID arnoch i gofrestru.
Sut i gofrestru
Y ffordd hawsaf yw ar-lein yn Cofrestru i bleidleisio – GOV.UK
Fel arfer, bydd angen y canlynol arnoch:
- Eich enw a’ch cyfeiriad
- Eich dyddiad geni
- Eich rhif Yswiriant Gwladol (os oes gennych un)
Mae’n cymryd tua 5 munud i lenwi’r ffurflen fel arfer.
Oes rhaid i mi Bleidleisio’n Bersonol?
Nac oes. Yn ogystal â phleidleisio’n bersonol mewn gorsaf bleidleisio, gallwch gofrestru i bleidleisio drwy’r post neu alluogi rhywun i bleidleisio ar eich rhan fel dirprwy.
Dyddiadau pwysig
Rhaid i chi gofrestru cyn y dyddiad cofrestru olaf, sef 20 Ebrill.
Os na fyddwch wedi cofrestru erbyn y dyddiad hwn, fyddwch chi ddim yn gallu pleidleisio yn yr etholiad hwnnw.
Rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio cyn hanner nos ar 20 Ebrill 2026 er mwyn gallu gwneud cais am bleidleisiau drwy’r post neu drwy ddirprwy ar gyfer etholiad nesaf y Senedd.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost yw 5pm ar 21 Ebrill 2026.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy yw 5pm ar 28 Ebrill 2026.
![]()
Bydd y bleidlais yn cael ei chyfrif y diwrnod ar ôl yr etholiad. Mae’r canlyniadau i’w gweld ar Hafan yr Etholiad cyn gynted ag y byddan nhw ar gael.
✔️ Cyngor i bleidleiswyr ifanc:
Cyn i chi bleidleisio, mae’n syniad da gwneud y canlynol:
- Darllen maniffestos pleidiau
- Cymharu polisïau
- Gwylio dadleuon neu adnoddau ysgol am yr etholiad
Mae eich pleidlais yn eich helpu i gael llais ar y pethau sy’n wirioneddol bwysig i chi yng Nghymru. Felly cofrestrwch nawr a defnyddiwch eich pleidlais ar 7 Mai 2026.
Sut alla i gael rhagor o wybodaeth?
Mae llawer o adnoddau ar gael i bobl ifanc. Mae’r rhain yn amrywio o sut i gofrestru i bleidleisio, i wybodaeth am y Senedd a’r etholiad sydd ar y gweill.
Etholiad y Senedd: Cofrestru a phleidleisio
https://www.complantcymru.org.uk/adnoddau-etholiad-senedd-2026/
https://hwb.gov.wales/news/articles/0f90aa0d-7c4d-45da-a719-6bf59c743a43

Beth yw’r Senedd?