Y CCUHP heddiw ac yn y dyfodol

Y CCUHP heddiw ac yn y dyfodol

Mae’r CCUHP – Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn  – yn 30 oed heddiw. 30 mlynedd o siarter hawliau dynol i blant, nid yma yng Nghymru yn unig, ond dros y byd. Hwn yw’r confensiwn rhyngwladol sydd wedi ei lofnodi gan y nifer fwyaf o wledydd erioed – ond 30 mlynedd yn ôl, roedd y byd yn lle gwahanol: doedd y rhyngrwyd ddim yn bod, y cyfryngau cymdeithasol, dim ffonau clyfar, dim argyfwng hinsawdd, dim Brexit. A oes modd i’r CCUHP barhau yn siarter bwerus a pherthnasol i hawliau plant yn wyneb anawsterau’r unfed ganrif ar hugain?

Sefydlu hawliau dynol i blant

Nid y CCUHP yw’r ddogfen ryngwladol gyntaf i gofnodi hawliau dynol plant. Ysgrifennwyd y datganiad cyntaf o hawliau plant gan ddynes o Brydain, Eglantyne Jebb, yn 1923. Roedd hi wedi byw trwy’r Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd ei dychryn gan y lluniau a welodd mewn papurau newydd o’r ffordd yr oedd plant yn byw mewn gwledydd fel yr Almaen ac Awstria. Un o’r tactegau a ddefnyddiwyd gan Brydain a’i Chynghreiriaid yn erbyn gwledydd y ‘gelyn’ oedd ceisio torri eu cyflenwadau. Golygodd hyn fod plant yn cael eu gadael heb fwyd a heb feddyginiaethau. Roedd Eglantyne yn teimlo’n gryf, rhyfel neu beidio, na ddylai plant orfod dioddef fel hyn, lle bynnag yr oedden nhw’n byw. Ar ôl iddi ysgrifennu ei datganiad, gan nodi’r hyn yr oedd hi’n ei gredu oedd hawliau pob plentyn, fe’i cyflwynodd i Gonfensiwn Cynghrair y Cenhedloedd yn Ngenefa. Mabwysiadodd Cynghrair y Cenhedloedd y datganiad yn 1925, ac yn 1959 mabwysiadwyd fersiwn estynedig o’r datganiad gan y Cenhedloedd Unedig.

Pam fod angen hawliau plant heddiw?

Roedd y syniad o ‘hawliau plant’ eisoes yn fyw erbyn i’r Cenhedloedd Unedig benderfynu bod angen iddo lunio confensiwn rhyngwladol – yr hyn a fyddai’n datblygu i fod yn Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Roedd datganiadau a chonfensiynau eraill yn cyfeirio at blant weithiau ac yn rhoi gwarchodaeth arbennig iddynt mewn rhai amgylchiadau ond roedd y CCUHP – ac y mae o hyd – wedi ei anelu’n arbennig at blant a phobl ifanc a’u hawliau.

Mae’n wir fod y sefyllfa wedi gwella’n aruthrol i blant mewn rhai rhannau o’r byd ers dechrau’r ugeinfed ganrif. Yn anffodus, os gwrandewch chi ar y newyddion mae’n amlwg iawn, mewn rhannau eraill o’r byd, fod plant yn byw mewn tlodi a pherygl yr un mor arswydus â’r plant a fu’n ysbrydoliaeth i Eglantyne. Hyd yn oed yma yng Nghymru, lle’r ydym yn byw bywydau cymharol gysurus, mae llawer o blant yn dioddef o esgeulustod a chamdriniaeth, neu’n byw mewn tlodi heb gartref priodol; gwrthodir mynediad i addysg i blant eraill am nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu’n briodol. Ni wrandewir ar blant bob amser wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt – anwybyddwyd barn plant a phobl ifanc gan Refferendwm Brexit. Mewn bywyd bob dydd hyd yn oed, caiff barn plant ei anwybyddu. Dangosodd ein gwaith diweddar gyda’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ar gyswllt rhwng brodyr a chwiorydd yn y maes mabwysiadu a gofal mor anaml y rhoddir llais gwirioneddol i blant yn yr hyn sy’n digwydd iddynt.

A oes modd i’r CCUHP wynebu heriau’r unfed ganrif ar hugain?

Roeddem yn ddigon ffodus i gael clywed un o’r cyfreithwyr hawliau dynol rhyngwladol gorau, yr Athro Geraldine van Bueren yn siarad yn narlith flynyddol ddiweddar yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant. Roedd yr Athro van Bueren yn rhan o’r gwaith o ddrafftio’r CCUHP. Roedd yn cydnabod nad oedd modd dychmygu llawer o heriau’r byd sydd ohoni pan oedd y CCUHP yn cael ei ddrafftio. Ar y llaw arall, roedd yn teimlo bod y CCUHP yn dal yn ddigon pwerus i wynebu’r heriau hynny, hyd yn oed os nad oeddent yn cael eu crybwyll yn benodol. Aeth yn bellach fyth i egluro yn ei darlith nad oedd yn teimlo bod y CCUHP wedi ei ddefnyddio i’w lawn allu, felly mae llawer mwy i’r Confensiwn ei gyflawni.

Er nad oedd newid hinsawdd a chynhesu byd-eang cyn uched ar yr agenda gwleidyddol ag y mae erbyn hyn, mae’r CCUHP yn cyfeirio at lywodraethau sy’n ystyried peryglon a risgiau llygredd amgylcheddol. Mae Greta Thunberg wedi gallu defnyddio’r Confensiwn i dynnu sylw’r Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn at ei hymgyrch. Mae hi wedi dadlau bod methiant llywodraethau i ymateb i her y newid yn yr hinsawdd yn torri hawliau plant i gael bywyd, iechyd a diwylliant, ac yn mynd yn groes i egwyddor ‘lles pennaf’ sy’n dweud bod yn rhaid i oedolion weithredu er ‘lles pennaf’ plant bob amser.

Dyma enghraifft ardderchog o’r ffordd y gellir defnyddio’r CCUHP heddiw i ymateb i heriau’r byd sydd ohoni, ac nid y materion mawr fel y newid yn yr hinsawdd yn unig. Soniodd yr Athro Van Bueren am sawl enghraifft o grwpiau bychan neu unigolion yn gweithredu drwy ddefnyddio’r CCUHP i wneud newid gwirioneddol.

Dathlwch y CCUHP heddiw – a fory!

Byddwn yn dathlu pen-blwydd y CCUHP yn 30, ynghyd â sefydliadau ac unigolion eraill yng Nghymru sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, ynghyd â phlant a phobl ifanc eu hunain. Mae Plant yng Nghymru yn cynnal y digwyddiad yng Nghaerdydd ac rydym ni’n edrych ymlaen yn arw at redeg stondin farchnad yno sy’n arddangos gwaith Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn y digwyddiad. Ar ôl yr holl gyffro, mae’r gwaith gwirioneddol yn parhau yng Nghymru er mwyn sicrhau bod hawliau plant yn cael, ac yn parhau i gael, eu parchu ym mhob rhan o fywyd. Gobeithiwn fod ar flaen y gad – allwn ni ddim aros!

Gadael Ymateb