Gorchmynion Amddifadu o Ryddid – Datganiad Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru a’r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant

Datganiad Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru a’r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant: Ymateb Llywodraeth Cymru i Ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd – Gwasanaethau i Blant sydd wedi bod mewn Gofal: archwilio diwygio radical.   Gorchmynion...

Gweithredu CCUHP yng Nghymru: strwythurau a mecanweithiau effeithiol ar gyfer plant

Dr Rhian Croke, Arweinydd Ymgyfreitha Strategol ac Eiriol Polisi ym maes Hawliau Plant, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru ac Aelod o Grŵp Monitro CCUHP Cymru   Pan fydd Gwladwriaeth, fel y DU, yn llofnodi ac yna’n cadarnhau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar...

Nid yw plant sy’n derbyn gofal yn cael mynediad at Ymwelwyr Annibynnol

Dr Rhian Croke, Arweinydd Ymgyfreithia Strategol Hawliau Plant ac Eiriolaeth Polisi, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru   Y Mater dan Sylw Mae’n ofyniad statudol bod ‘ymwelwyr annibynnol’ yn cael eu dyrannu i blant ‘sy’n derbyn gofal’ lle’r ymddengys i’r awdurdod...

Ymateb Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru: Adroddiad gan Gomisiynydd Plant Lloegr ar Noeth-Chwilio Plant

Rydym yn croesawu adroddiad Comisiynydd Plant Lloegr ac rydym yn bryderus iawn ynghylch ei ganfyddiadau.  Credwn fod yn rhaid rhoi’r gorau i’r arfer o noeth-chwilio plant ar unwaith.  Mae’r adroddiad yn cadarnhau bod plant ledled Cymru a Lloegr wedi cael eu harchwilio...

Noeth-chwilio plant: Mynd yn groes i hawliau plant

Cymru a Lloegr: Noeth-chwilio plant Gofynnodd ymchwiliad diweddar gan BBC File on 4 i bob un o’r 44 heddlu yng Nghymru a Lloegr am wybodaeth am noeth-chwilio plant.[i] Ymatebodd 31 o heddluoedd i gais y BBC, gan ddatgelu eu bod wedi noeth-chwilio 13,000 o blant yn...

Sut gall celf fel ffordd o fynegi dorri’r gyfraith a’ch cael i drwbl?

Night Owls gan Jenn Bennett Awdures nofelau i bobl yn eu harddegau ac oedolion o America yw Jenn Bennet. Mae un o’i llyfrau gwobredig, Night Owls, yn dilyn anturiaethau dau artist yn eu harddegau, Bex a Jack. Mae Bex yn fyfyriwr sy’n dyheu am fod yn ddylunydd...

Sut mae’r gyfraith yng Nghymru wedi newid ers dyddiau Hetty Feather

Mae’n siŵr bod mwy o bobl na fi yn caru unrhyw beth y mae Jacqueline Wilson yn ei sgwennu, ac mae gan Hetty Feather wastad le yn fy nghalon. Fel un o lyfrau enwocaf Jacqueline Wilson, mae Hetty Feather yn dilyn bywyd merch sydd wedi’u gadael gan ei mam mewn ysbyty...

Llinellau cyffuriau, troseddau cyllyll, y gyfraith, a’ch hawliau yng Nghymru

Mae No More Knives, gan Christina Gabbitas yn llyfr newydd sy’n edrych ar bump o ffrindiau a sut maent yn cael eu denu at linellau cyffuriau a throseddau cyllyll. Mae’r stori’n ymdrin â realiti anodd hynt pobl ifanc sy’n ymwneud â llinellau cyffuriau, gan gynnwys yr...

Hawliau Plant yn yr Unol Daleithiau

Mae gan Arsyllfa a Chanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru gysylltiadau ag ymchwilwyr ac ymgyrchwyr hawliau plant mewn nifer o wledydd ar draws y byd, gan gynnwys UDA. Yr haf hwn, cafodd ein gwaith ei gynrychioli mewn cynhadledd ryngwladol fawr a gynhaliwyd ar-lein ac ar...

Tlodi a hawliau plant

Mae byw mewn tlodi yn tanseilio hawliau plant sydd wedi’u gwarantu gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Er enghraifft, mae’n cael effaith negyddol ar hawl plant i fyw a goroesi, ac i ddatblygu i’w potensial gorau (Erthygl 6 CCUHP), i safon...

Mae’r Gyfraith yn Wahanol yng Nghymru

 

Yng Nghymru, mae’r gyfraith yn aml yn wahanol i’r gyfraith yn Lloegr.

Mae hyn oherwydd bod llywodraeth y DU wedi rhoi pŵer i’r Senedd (ac i Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon) i wneud rhai o’i deddfau ei hun. Mae’r gyfraith yn arbennig o wahanol mewn llawer o’r meysydd sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae hefyd yn wahanol oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).