Yn aml, gall y cyswllt rhwng brodyr a chwiorydd yn dilyn achosion gofal fod yn dameidiog – ac yn y sefyllfaoedd gwaethaf, ni cheir unrhyw gyswllt o gwbl, yn arbennig pan fydd gwahanol drefniadau mewn grym ar gyfer gwahanol blant o grŵp teuluol fel y bydd y llys yn cytuno. Mewn gwirionedd, mae cryn dipyn yn dibynnu ar barodrwydd yr oedolion dan sylw i hwyluso’r cyswllt y cytunir arno – ac yn aml, gall hyn fethu, yn enwedig wrth i amser fynd yn ei flaen. Mae twf cyfryngau cymdeithasol wedi newid profiad ‘cyswllt’ i nifer o bobl ifanc hefyd, sy’n golygu eu bod yn agored i niwed gan gysylltiadau y tu allan i’r systemau a sefydlwyd trwy eu cynllun gofal.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn bennaf er mwyn creu taflen ffeithiau i blant a phobl ifanc, i esbonio’r sefyllfa gyfreithiol mewn perthynas â’r cyswllt rhwng brodyr a chwiorydd.