Pum Ffordd o wreiddio Hawliau Plant mewn Ysgolion
Mae addysgu plant am, ar gyfer a drwy Hawliau Plant bellach yn ofyniad cyfreithiol fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru. Er bod cyfeiriad penodol at hawliau dynol ym Meysydd Dysgu Y Dyniaethau ac Iechyd a Lles, yn bwysicach na hynny mae’n thema drawsgwricwlaidd, sy’n golygu y dylai gael ei gynnwys ym mhob Maes Dysgu.
Dyma rai ffyrdd y gallwch helpu eich ysgol i gyflawni ei dyletswydd gyfreithiol i addysgu Addysg Hawliau Dynol.
- Defnyddio dull gweithredu trawsgwricwlaidd
Ceir cyfeiriad penodol at Hawliau Dynol ym Meysydd Dysgu y Dyniaethau ac Iechyd a Lles mor gynnar â Cham Cynnydd 1. Fodd bynnag, dylid addysgu plant am eu hawliau dynol ar draws y Cwricwlwm, a gellir gwneud cysylltiadau ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad, ac nid yn unig ym meysydd y Dyniaethau ac Iechyd a Lles.
Drwy Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu, gellir archwilio nifer o erthyglau UNCRC, gan gynnwys Erthygl 30 – yr hawl i siarad eich iaith eich hun. Gellid cysylltu hyn â Mathemateg a Rhifedd drwy gasglu data am nifer y gwahanol ieithoedd a siaredir gan aelodau o gymuned yr ysgol.
Mae Erthygl 27 yn dweud bod gan bawb hawl i gael cartref addas. Gellid gosod her ym maes dysgu Gwyddoniaeth a Thechnoleg i ddylunio cartref mewn amgylcheddau amrywiol, er enghraifft coedwig, anialwch, eira, ac yn y blaen. Er mwyn gwahaniaethu ar gyfer plant hŷn, gellid eu herio i feddwl am hawliau eraill a sut y gellid eu gwireddu, e.e. Erthygl 24 – yr hawl i ddŵr glân, bwyd iach ac amgylchedd glân.
Pan fydd trafodaethau’n cael eu cynnal am ymddygiad a ddisgwylir mewn dosbarth, neu wrth greu siarter dosbarth, gellir gwneud cysylltiadau â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ac yn fwyaf penodol ag Erthygl 2. Mae’r hawliau hyn gan bawb sydd dan 18 oed beth bynnag ei sefyllfa.
Gall diwrnodau Elusennau ac Ymwybyddiaeth fod yn ffordd dda o gysylltu â Hawliau Dynol. Os yw’r plant yn gwisgo pyjamas ac yn dod â £1 i Blant mewn Angen neu’n gwisgo dwy hosan wahanol ar gyfer diwrnod Syndrom Down neu ddiwrnod Gwrth-fwlio, defnyddiwch hyn fel ffordd o siarad am yr heriau y mae rhai plant yn eu hwynebu wrth geisio defnyddio eu hawliau a’r rheswm dros y diwrnodau ymwybyddiaeth hyn er mwyn helpu pob plentyn i fwynhau ei hawliau. Gallwch siarad â’r plant am bobl a all helpu pan fydd rhywun yn teimlo nad yw ei hawliau’n cael eu hystyried, er enghraifft Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru neu Gomisiynydd Plant Cymru.
Mae Y Ffordd Gywir yn ddogfen glir ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau addysg ac mae’n cynnwys ffyrdd o ddefnyddio Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant mewn ysgolion.
- Cysylltu hawliau plant â llyfrau storïau
Gall disgyblion meithrin mor ifanc â thair oed ddechrau dysgu a siarad am eu Hawliau Dynol. Ffordd dda o wneud hyn yw drwy storïau. Mae gan blant ymdeimlad rhyfeddol o empathi a byddant yn aml yn gofyn llawer o gwestiynau wrth wrando ar storïau. Dewiswch lyfrau lluniau a all arwain at drafodaethau am hawliau dynol penodol. Gallai cymeriad llwglyd gysylltu ag Erthygl 24. Gellid cysylltu’r Tri Mochyn Bach ag Erthygl 27 a thrafodaethau am gartrefi. Mae rhestr o lyfrau y gellir eu cysylltu â Hawliau plant i’w gweld ar wefan Comisiynydd Plant Cymru yn ogystal â fideo yn rhannu syniadau ynglŷn â sut y gellir defnyddio llyfrau. Gallwch wylio’r fideo yma;
https://x.com/childcomwales/status/1754595498391150788 (Fideo Saesneg gydag is-deitlau Cymraeg)
Mae defnyddio Philosophy for Children P4C hefyd yn ffordd wych o roi cyfle i bobl ifanc archwilio a thrafod Hawliau Plant. Gellir archwilio erthyglau megis 2, 38 a 23 a chysyniadau megis hunaniaeth, hil, rhyfel, cosb, a hawliau drwy lyfrau megis;
War and Peas gan Michael Foreman
Lion in the Meadow gan Margaret Mahy
Little Hotchpotch gan Brian Patten a Mike Terry
Tusk Tusk gan David McKee
Why? gan Nikolai Popov
Choices gan Roozeboos
- Cael cefnogaeth pawb
Ar ôl gweithio gyda llawer o athrawon sy’n ‘Arweinwyr Hawliau Plant’ mewn ysgolion, mae’n bwysig cael cefnogaeth yr ysgol gyfan a’r gymuned ehangach. Ni ddylid rhoi’r gwaith o ddarparu cyfleoedd i blant ddysgu am eu hawliau i un athro/athrawes yn unig. Mae swyddfa Comisiynydd Plant Cymru yn darparu cynllun llysgenhadon sy’n cynnig ffordd gyffrous a rhyngweithiol i blant yn eich ysgol ddysgu am eu hawliau, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n sail i weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg. Mae’r Wobr Ysgolion sy’n Parchu Hawliau, sy’n cael ei harwain gan UNICEF, yn rhoi hyfforddiant a syniadau am adnoddau er mwyn addysgu hawliau dynol yn eu hysgolion i Athrawon Arweiniol.
Ond mae angen mwy nag un athro/athrawes i wneud hyn. Yn aml iawn mae’r athrawon hyn yn gweld y swydd hon yn un unig os ydynt yn chwifio’r faner ac yn casglu tystiolaeth ar eu pen eu hunain.
Mae ar ysgolion angen Uwch Dîm Arweinyddiaeth cefnogol a fydd yn caniatáu i Arweinwyr gael amser allan o’r dosbarth er mwyn hybu eu gwybodaeth eu hunain am hawliau plant a pharatoi sesiynau hyfforddi ar gyfer staff yr ysgol gyfan fel bod gwybodaeth yn cael ei rhannu ar draws yr ysgol.
Gellir gweld hyfforddiant ar gyfer yr holl staff ar blatfform Hwb yma.
Elfen bwysig arall yw rhannu’r gwaith rydych wedi bod yn ei wneud â’r rhieni a’r gymuned ehangach. Mae llawer o ysgolion sy’n canolbwyntio ar Hawl y Mis yn cynnwys hyn ar ddeunydd cyfathrebu â rhieni, er enghraifft eu newyddlen. Neu gellir gwahodd rhieni i’r ysgol iddynt gael gweld y gwaith y mae’r ysgol wedi bod yn ei wneud ar Hawliau Plant.
Mae gan Ysgol Gymraeg Pontardawe fasgot hawliau, ‘Harri Hawliau’, sy’n cael ei anfon adref gyda disgybl gwahanol yn y dosbarth derbyn bob penwythnos. Gall y plant adrodd yn ôl wrth y dosbarth wedyn gan ddweud pa hawliau maen nhw wedi eu mwynhau gyda Harri dros y penwythnos. Mae hyn yn annog y plant i fod yn hyderus wrth siarad am eu hawliau, a hefyd yn galluogi’r rhieni a’r teulu ehangach i ddod yn gyfarwydd â Hawliau Plant.
- Ffurfio grŵp llywio hawliau plant
Bydd gan y plant yn eich ysgol eu set unigryw eu hunain o ddiddordebau a phroblemau yn seiliedig ar eu profiadau bywyd. Drwy sefydlu Grŵp Llywio Hawliau Plant gallwch gasglu meddyliau plant yn eich ysgol a gofyn iddynt pa faterion y maen nhw’n teimlo y dylid eu harchwilio a sut maen nhw’n teimlo y gellir goresgyn heriau.
O ddisgyblion Meithrin i ddisgyblion Blwyddyn 13, mae gan bob plentyn hawl i gael rhywun i wrando arno a’i gymryd o ddifri. Trefnwch gyfarfodydd rheolaidd lle gall disgyblion ddod at ei gilydd i rannu syniadau a gwneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Gwnewch yn siŵr bod syniadau’r plant yn cael eu hystyried a’u bod yn cael adborth. Bydd hyn yn helpu i gyflawni Egwyddorion 4 a 5 Y Ffordd Gywir.
Yn ogystal â chyfarfodydd y grŵp llywio, rhowch ddull o rannu syniadau a materion yn anffurfiol drwy gydol y diwrnod ysgol i’r plant drwy ddarparu blwch syniadau/awgrymiadau. Rhannwch eich llwyddiannau â’r ysgol gyfan drwy ddefnyddio bwrdd arddangos cyffrous. Rydym yn hoff iawn o’r bwrdd ‘We said it, You did it’ a ddefnyddir gan Ysgol Gynradd y Gnoll i rannu’r gwaith y mae pob grŵp llais y disgybl wedi bod yn ei wneud ym mhob rhan o’r ysgol.
- Creu cysylltiadau ag ysgolion a siroedd eraill
Mae Erthygl 2 yn dweud bod yr hawliau hyn gan Bob Plentyn dan 18. Mae’n bwysig bod plant yn sylweddoli nad nhw yw’r unig rai sydd â hawliau. Mae’r hawliau hyn gan bob plentyn yn eu hysgol, eu cymuned, eu dinas a’u gwlad. A hefyd, gan blant mewn gwledydd eraill. Bydd creu cysylltiadau â phlant mewn ysgolion eraill, yn enwedig mewn gwledydd eraill, yn galluogi plant i gael profiadau dysgu dilys ac i glywed am broblemau y mae plant mewn gwledydd eraill yn eu hwynebu, a deall y gall bywydau’r plant hyn fod yn wahanol iawn i’w bywydau nhw. Bydd hyn yn eu helpu i fod yn ddinasyddion Egwyddorol a Gwybodus ac i sylweddoli y gall penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yma yng Nghymru effeithio ar blant mewn gwledydd eraill. Os oes gennych ddiddordeb mewn creu cysylltiadau ag ysgolion mewn gwledydd eraill gallwch ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer cyllid yma Cyfleoedd Ariannu – Taith
Dyma restr o adnoddau defnyddiol sydd i’w gweld ar wefan Comisiynydd Plant Cymru:
Cân Hawliau: sydd ar waelod y dudalen yma