Rhian Howells – Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru
Mae pobl ifanc wedi bod yn dweud wrthym fod pobl wedi gofyn iddynt anfon lluniau noeth, a’u bod yn ansicr am y rheolau sy’n ymwneud â secstio. Roedd llawer yn synnu o glywed bod rhywbeth mor gyffredin â gofyn am luniau noeth neu hanner noeth yn erbyn y gyfraith os ydych chi dan 18 oed.
Felly, yn y blog hwn, rydyn ni’n dadansoddi’r gyfraith mewn termau syml, yn egluro eich hawliau, ac yn dangos i chi ble i gael cymorth.
Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud?
Yn y DU, mae unrhyw un o dan 18 oed yn cael ei ystyried yn blentyn yn ôl y gyfraith.
Mae hynny’n golygu bod unrhyw lun noeth neu hanner noeth o rywun dan 18 oed yn cael ei ystyried yn “llun anweddus o blentyn”, hyd yn oes os mai’r person yn y llun sydd wedi’i dynnu, a hyd yn oed os oedd pawb dan sylw yn cytuno.
Oherwydd hyn, mae’r gyfraith yn nodi ei bod yn anghyfreithlon gwneud y canlynol:
- Tynnu llun noeth neu hanner noeth o unrhyw un dan 18 oed
- Anfon y llun
- Derbyn y llun (a’i gadw)
- Rhannu neu anfon y llun ymlaen
Mae hyn yn cynnwys lluniau, fideos, ac weithiau hyd yn oed lluniau mewn dillad isaf neu rai sy’n rhywiol eu natur.
“Pam alla i gytuno i gael rhyw, ond alla i ddim anfon llun fflyrtiog?”
Yn 16 oed, gallwch chi gydsynio’n gyfreithiol i weithgarwch rhywiol, ond mae’r gyfraith o ran lluniau yn wahanol.
Hyd yn oed os ydych chi a’ch partner yn 16 neu’n 17 oed, a bod y ddau ohonoch chi’n cytuno, mae’n dal yn anghyfreithlon creu neu rannu lluniau rhywiol o unrhyw un dan 18 oed.
Mae’r gyfraith wedi’i chynllunio i amddiffyn pobl ifanc rhag pwysau, camfanteisio a niwed hirdymor.
Mae rhagor o wybodaeth am ryw a chydsyniad ar gael yma.
Beth os bydd rhywun yn anfon llun anweddus ataf fi?
Os ydych chi o dan 18 oed a bod rhywun yn anfon llun noeth neu hanner noeth o rywun o’ch oedran chi (neu iau):
- Ni ddylech chi ei gadw
- Dylech chi ei ddileu cyn gynted â phosib
- Dylech chi roi riportio’r llun, neu ddweud wrth oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo, yn enwedig os na wnaethoch chi ofyn amdano
Gall cadw’r llun eich rhoi mewn trwbl cyfreithiol, hyd yn oed os na wnaethoch chi ofyn amdano neu os nad oeddech chi ei eisiau.
Os bydd oedolyn yn anfon llun rhywiol atoch chi, mae hynny’n anghyfreithlon – mae mor syml â hynny.
Mae rhagor o wybodaeth am y gyfraith ar gael yma.
Beth os ydw i’n rhannu llun mae rhywun wedi’i anfon ataf fi?
Mae rhannu neu anfon ymlaen unrhyw luniau noeth neu hanner noeth o berson dan 18 oed yn drosedd ddifrifol. Hyd yn oed os ydych chi’n gwneud hynny o ran sbort. Hyd yn oed os nad chi wnaeth dynnu’r llun gwreiddiol.
Mae ei anfon ymlaen yn cyfrif fel dosbarthu, ac mae’r gyfraith yn trin hynny’n ddifrifol iawn.
Beth os oes rhywun yn rhoi pwysau arnaf fi i anfon lluniau?
Mae gofyn i rywun dan 18 oed am luniau noeth neu hanner noeth yn anghyfreithlon.
Rhoi pwysau, manipiwleiddio, “fflyrtio”, herio, bygwth, ac ati; does gan neb yr hawl i wneud i chi anfon llun, a ddylech chi byth deimlo bod yn rhaid i chi wneud hynny.
Unwaith y byddwch chi wedi anfon llun, byddwch yn colli rheolaeth dros yr hyn sy’n digwydd nesaf. Gall y llun gael ei gopïo, ei gadw, ei rannu a’i ddefnyddio yn eich erbyn – gall hyn achosi pryder a straen difrifol.
Beth alla i ei wneud os oes llun ohonof fi wedi cael ei rannu?
Dydych chi ddim ar eich pen eich hun, ac mae cymorth ar gael.
- Dwedwch wrth oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo (rhiant, athro, gweithiwr ieuenctid).
- Mae gan ysgolion yng Nghymru reolau diogelu clir i’ch helpu chi, nid i’ch cosbi chi.
- Gallwch gysylltu â’r heddlu, a fydd yn eich trin fel rhywun y mae angen ei amddiffyn.
- Gallwch ddefnyddio Report Remove, gwasanaeth sy’n helpu pobl ifanc i dynnu lluniau noeth neu hanner noeth oddi ar y rhyngrwyd:
Mae Report Remove yn cael ei redeg gan yr Internet Watch Foundation a Childline
Does dim angen i chi wybod ble mae’r llun, gall y gwasanaeth helpu i ddod o hyd iddo.
Y gwir amdani
Os ydych chi dan 18 oed, mae’r dewis mwyaf diogel yn syml:
Peidiwch â thynnu, anfon, rhannu na chadw lluniau noeth neu hanner noeth ohonoch chi eich hun nac unrhyw un arall.
Mae’n anghyfreithlon. Gall fod yn niweidiol. Gall hefyd effeithio ar eich dyfodol.
Os oes rhywbeth wedi digwydd yn barod, mae cymorth ar gael, ac ni fyddwch yn cael eich beirniadu.
Gofynnwch am gymorth. Siaradwch â rhywun. Mae gennych chi hawl i deimlo’n ddiogel ac wedi’ch gwarchod.
Hafan | Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru

Beth os bydd rhywun yn anfon llun anweddus ataf fi?