Fe aeth Charles Dickens ati i greu’r cymeriad Tiny Tim er mwyn tynnu sylw at anawsterau plant tlawd ac anabl ym Mhrydain yn Oes Fictoria. Yr oes honno, doedd gan blant fel Tim ddim hawliau wedi’u gwarantu. Ond yng Nghymru heddiw, mae hawliau plant yn cael eu hategu gan gyfreithiau Cymreig, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r llywodraeth ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth wneud penderfyniadau ar ofal iechyd, addysg a chymorth i bobl ag anableddau. Yn y blog hwn, byddwn yn edrych ar yr hawliau hynny a sut gallwn ni helpu i ddiogelu pob ‘Tiny Tim’ yn yr oes sydd ohoni.  

 

Pwy Oedd Tiny Tim?

Tiny Tim yw un o gymeriadau mwyaf cofiadwy y stori enwog ‘A Christmas Carol’ gan Charles Dickens. Yn y llyfr ac yn y ffilmiau, mae’n cael ei bortreadu fel bachgen bach bregus sy’n cerdded gyda baglau. Mae ei dad, Bob Cratchit, yn gorfod ei gario ar ei gefn yn aml. Ydy, mae Tim yn ifanc, ond mae hyn yn adlewyrchu anawsterau’r teulu hefyd. Maen nhw’n dlawd, ac mae salwch Tim yn gwneud bywyd yn anoddach fyth.

Pan ysgrifennodd Dickens y stori yn 1843, roedd Llundain yn orlawn, yn fudr ac yn llygredig. Roedd llawer o blant yn sâl am nad oedd ganddynt ddigon o fwyd, dŵr glân na’r gofal meddygol priodol. Roedd clefydau fel y llechau, y diciâu a pholio yn gyffredin iawn. Yn wir, roedd hanner yr holl blant yn Llundain ar y pryd yn dioddef o’r llechau, ac ni wnaeth traean ohonynt oroesi i ddathlu eu pen-blwydd yn bump oed.

Beth oedd yn Bod gyda Tiny Tim?

Nid yw Dickens yn dweud wrthym yn union pa salwch sydd gan Tiny Tim. Mae rhai pobl yn meddwl mai’r llechau, polio neu barlys yr ymennydd oedd ganddo. Ond y gwir yw mai ‘tlodi’ oedd y prif anhawster gan Tiny Tim.

Fe aeth Dickens ati i greu Tim er mwyn dangos pa mor galed oedd bywyd i blant tlawd yn Lloegr yn Oes Fictoria. Drwy wneud i ddarllenwyr weld trueni dros y bachgen gobeithiol a charedig hwn, tynnai sylw at y dioddefaint gwirioneddol a achosir gan glefyd, newyn ac esgeulustod. Mae Tiny Tim yn cynrychioli’r holl blant sy’n ein gadael o flaen eu hamser oherwydd nad oes gan eu teuluoedd yr arian i’w cadw’n iach.

 

Gweld Gallu, Nid Anabledd:

Yn y stori, mae Tiny Tim yn cynrychioli plant anabl, ond heddiw, mae gan blant anabl yng Nghymru a’r DU hawliau sy’n eu hamddiffyn, ac mae’r hawliau hyn wedi’u cynllunio i sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys, eu cefnogi a’u trin yn deg. Gall anabledd heddiw fod yn un corfforol, yn un sy’n ymwneud â dysgu, yn un synhwyraidd, yn un gysylltiedig ag iechyd meddwl, neu hyd yn oed yn un anweledig. Yn bwysicaf oll, mae plant anabl heddiw yn cael eu hamddiffyn gan y gyfraith.

Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), ac mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn sicrhau bod Ysgrifenyddion a Gweinidogion Cabinet Cymru bob amser yn ystyried hawliau plant, fel y nodir yn CCUHP, wrth wneud penderfyniadau. Mae’r hawliau hyn yn cynnwys:

Erthygl 24 CCUHP – Yr Hawl i Iechyd: Mae gan bob plentyn yr hawl i dderbyn a chael mynediad at y safon iechyd uchaf posibl. Mae hyn yn cynnwys cymorth meddygol, llesiant meddyliol ac emosiynol, mynediad at therapi a chymorth iechyd meddwl, dŵr glân, bwyd maethlon ac amgylchedd diogel a glân.

Erthygl 28 CCUHP – Yr Hawl i Addysg: Mae gan bob plentyn yr hawl i addysg gynradd (ac uwchradd yn ddelfrydol) sy’n orfodol ac yn rhad am ddim, lle mae disgyblaeth yr ysgol yn parchu ei urddas a’i hawliau. Mae hyn yn berthnasol i bob plentyn, waeth beth fo’i hil, rhyw, cefndir neu anabledd.

Un o’r deddfwriaethau eraill a gyflwynwyd i gefnogi plant Cymru yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Mae’r Ddeddf hon yn mynd ymhellach fyth i gefnogi anghenion dysgu ychwanegol (ADY) plant a phobl ifanc. Mae’n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol ac ysgolion i sicrhau’r canlynol: bod unrhyw un sy’n helpu plentyn yn gorfod gwrando arno, bod pobl ifanc a rhieni yn cael eu cynnwys yn llawn mewn penderfyniadau pwysig, a bod gan bob plentyn ag ADY Gynllun Datblygu Unigol.

Os nad yw plentyn yn deall ei hawliau, gall gael ‘cyfaill achos’ i’w gefnogi, a gall hefyd gael eiriolwr, sy’n helpu i wneud yn siŵr bod oedolion yn gwybod beth mae’n ei feddwl a sut mae’n teimlo.. Mae hyn yn sicrhau nad yw plant byth yn cael eu heithrio o benderfyniadau am eu bywydau eu hunain.

Gweld Cryfder, 𝙽id Trafferthion:

Mae’r teulu Cratchit yn cynrychioli plant dosbarth gweithiol sydd â’u cyfleoedd wedi’u cyfyngu gan dlodi. Heddiw, mae gan blant yng Nghymru a’r DU sy’n profi tlodi hawliau i’w hamddiffyn hefyd. Mae’r hawliau hyn wedi’u cynllunio i sicrhau bod pob plentyn, ni waeth faint o arian sydd gan eu teulu, yn cael gofal, cefnogaeth a’u trin yn deg.

Mae hawliau CCUHP yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt wedi’u cyfyngu iddynt:

Erthygl 6 CCUHPHawl i Fyw, Goroesi a Datblygu: sy’n mynnu bod gwladwriaethau’n sicrhau bod y plentyn yn goroesi ac yn datblygu i’r graddau mwyaf posibl. Mae hyn yn cynnwys diogelu eu llesiant a sicrhau eu bod yn gallu tyfu i fyny mewn amodau sy’n cefnogi eu datblygiad i’w llawn botensial. 

Erthygl 27 CCUHP – Safon Byw: Hawl pob plentyn i safon byw sy’n ddigonol ar gyfer datblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol, moesol a chymdeithasol y plentyn, gan gynnwys maeth, dillad a thai priodol. Er mai rhieni sy’n bennaf gyfrifol am ddarparu hyn, rhaid i lywodraethau gymryd camau priodol i helpu teuluoedd sy’n methu gwneud hynny eu hunain. 

Strategaeth Tlodi Plant Cymru [2024]: Mae gan Lywodraeth Cymru strategaeth sy’n defnyddio hawliau plant fel ei phrif egwyddor. Nod y strategaeth yw sicrhau bod pob plentyn yn gallu arfer ei hawliau ni waeth beth yw incwm ei deulu. O dan y strategaeth hon, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i gynyddu mynediad at brydau ysgol am ddim (Rhaglen HAF), yn ogystal â mynediad at gynlluniau sy’n cefnogi plant yn ystod y gwyliau. Yn ogystal â hyn, mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddyrannu a’i ddefnyddio i helpu plant a phobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial.

Cyn i Scrooge newid ei ffordd, mae’n dangos beth sy’n digwydd pan fydd pobl yn anwybyddu plant sydd angen help. Nid yw’n poeni am neb ond amdano ef ei hun, ac mae hyn yn tynnu sylw at pam y dylem bob amser wneud yn siŵr bod plant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod rhywun yn gofalu amdanynt.

Ar ôl ei drawsnewidiad, mae Scrooge yn dod yn berson gofalgar iawn. Mae’n helpu Tiny Tim ac yn rhoi sylw i anghenion pobl eraill. Gellir gweld y newid hwn fel neges am ba mor bwysig yw hi i bob un ohonom, ac i gymdeithas, gefnogi plant.

Yng Nghymru heddiw, mae’r llywodraeth yn cymryd hawliau plant o ddifrif. Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) yn helpu i sicrhau bod lleisiau, anghenion a hawliau plant yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau.

Fel y dysgodd Scrooge i ofalu am blant, nod Cymru yw sicrhau bod pob person ifanc yn cael cyfle i dyfu, teimlo’n ddiogel, a ffynnu.

 

 

Beth allwn ni ei ddysgu gan Scrooge am hawliau plant?

Fy enw i yw Honee Crocker. Dwi ar fy nhrydedd flwyddyn yn astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, a’r nod yw bod yn fargyfreithiwr cyfraith teulu. Mae hyn yn deillio o fy mhrofiad o gefnogi unigolion agored i niwed a chymunedau ymylol.

Y tu hwnt i’m hastudiaethau, rydw i’n gweithio gyda Chymorth i Fenywod, yn eirioli ar ran merched a phlant dan 18 oed sy’n profi trais a cham-drin – profiad sydd wedi siapio fy nealltwriaeth o effaith y gyfraith yn y byd go iawn.

Pan oeddwn ar leoliad gwaith ym maes cyfraith teulu, gwelais sut y gall y gyfraith effeithio ar blant ag anableddau, a dyna pam roeddwn i’n teimlo fy mod wedi cael fy ysbrydoli i ysgrifennu am Tiny Tim, gan mai diogelu pobl sydd angen help yw un o’r pethau pwysicaf y gallwn ni ei wneud fel cymdeithas.

Pan nad ydw i’n brysur gyda gwaith, rydw i’n mwynhau treulio amser gyda Beau, fy nghi tarw Ffrengig, a oedd yn mwynhau cysgu ar fy nglin wrth i mi ysgrifennu am Tiny Tim!

Diolch yn fawr i Belinda Moseley o Geldards am wirio cynnwys cyfreithiol y blog hwn.