Cyfoeth. Euogrwydd. Cywilydd.

Mae’r rhain i gyd yn themâu sy’n digwydd yn nrama J.B. Priestley, ‘An Inspector Calls’, sef drama y mae llawer o fyfyrwyr yn ei hastudio ar gyfer eu TGAU. Wnaethoch chi astudio’r ddrama hon, neu wnaethoch chi astudio testun arall? Rhowch wybod yn y sylwadau isod!

Mae’r ddrama hon yn canolbwyntio ar hunanladdiad Eva Smith, merch ifanc dosbarth gweithiol. Mae’r Arolygydd Goole yn ymchwilio i holl aelodau’r teulu Birling am eu cyfraniadau unigol i’w marwolaeth. Datgelir wedyn bod Eva wedi cael ei threisio gan Eric Birling.

 

Nid yw Eva ar ei phen ei hun yn hyn o beth, gydag adran ymchwil Statista  yn adrodd cynnydd o bron i chwe gwaith yn nifer y troseddau treisio a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr o gymharu’r blynyddoedd rhwng 2022/23 a 2002/03. Dyna pam mae hyn yn fater pwysig y mae’n rhaid i ni godi ymwybyddiaeth ohono, a gwybod sut i ddelio ag ef os byddwch chi neu rywun rydych chi’n ei garu mewn sefyllfa debyg.

Yn syml, ni ddylai neb gael ei orfodi i gael unrhyw fath o ryw neu sylw corfforol gan rywun arall. Mae angen cydsyniad bob amser.

 

 

Y Cyfreithiau yng Nghymru ynghylch Trais Rhywiol

Yn ôl Deddf Troseddau Rhywiol 2003, mae trais rhywiol yn drosedd difrifol yng Nghymru a Lloegr. Mae Adran 1 yn datgan yn glir bod ‘treiddiad’ heb gydsyniad yn drais rhywiol a gellir ei gosbi drwy gyfraith. Wrth wneud hyn, cyflawnodd Eric Birling drosedd a byddai wedi cael ei anfon i’r carchar pe bai’n cael ei ddyfarnu’n euog. Mae trais rhywiol yn drosedd, a gall y cyflawnwr gael ei gosbi drwy fynd i’r carchar am oes.

Beth yw “Cydsyniad”?

Yn ôl Adran 74 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003, rydych yn cydsynio, drwy ddewis, i’r weithred ac mae gennych y rhyddid a’r gallu i wneud y dewis hwnnw.

Mae meddu ar alluedd yn golygu amrywiaeth o bethau, ond yn cynnwys a oedd y dioddefwr dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol, yn cysgu, neu gyda chyflwr meddygol neu iechyd meddwl a oedd yn cyfyngu eu gallu i gydsynio.

Oedran Cydsynio

Yng Nghymru, oedran cydsynio yw 16. Os ydych chi o dan 13 oed, mae’r gyfraith yn ystyried nad oes gennych chi’r ‘gallu cyfreithiol i gydsynio’ sy’n golygu bod rhyw yn anghyfreithlon hyd yn oed os ydych chi wedi cydsynio.

Nid yw’r ffaith eich bod yn 13 oed neu’n hŷn yn golygu bod yn rhaid i chi gael rhyw os nad ydych chi eisiau gwneud hynny.

Mae’n drosedd i rywun dros 18 oed gael rhyw gyda rhywun dan 18 oed os yw’r person hŷn mewn sefyllfa o ymddiriedaeth fel athro neu weithiwr cymdeithasol.

Os yw hyn yn berthnasol i chi, mae eich hawliau’n cael eu gwarchod gan Adran 8 Deddf Troseddau Rhywiol 2003, a gall y trosedd hwn weld y troseddwr yn cael ei gosbi â dedfryd o garchar am oes. Mae rhagor o wybodaeth am ryw a chydsynio ar gael ar wefan Canolfan Gyfreithiol y Plant ar y dudalen Rhyw a Chydsynio.

 

 

Cyfraith Sarah

Os ydych chi’n poeni bod plentyn mewn perygl o gael ei dreisio (neu unrhyw niwed arall) gan rywun, gallwch gael gwybod a oes ganddo gofnod o droseddau rhywiol sy’n ymwneud â phlant drwy ofyn i’r heddlu am wybodaeth yn unol â ‘Chyfraith Sarah’. Mae’r gyfraith hon yn golygu bod gennym hawl i wybod am gofnod troseddol unrhyw un a allai, yn ein barn ni, niweidio plentyn.

 

Cyfraith Clare (y Cynllun Datgelu Trais yn y Cartref)

Os ydych chi’n darllen hwn a bod y person rydych chi’n poeni amdano yn rhywun a allai fod mewn perygl o gael ei dreisio (neu unrhyw niwed arall) gan oedolyn yn ei fywyd, gallwch chi neu ef/hi gysylltu â’r heddlu yn gofyn am ragor o wybodaeth yn unol â ‘Chyfraith Clare’. Yn unol â’r gyfraith hon, bydd yr heddlu’n datgelu cofnod troseddol unrhyw un a allai niweidio dioddefwr posibl.

 

Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod wedi cael ei effeithio gan drais rhywiol, mae’n bwysig eich bod yn deall bod y cyfreithiau hyn ar waith i ddiogelu hawliau a hawliau’r bobl o’n cwmpas. Pe bai Eva Smith yn byw yng Nghymru, byddai hi wedi cael ei diogelu gan y cyfreithiau a’r sefydliadau hyn ac wedi cael cyfiawnder.

 

Amddiffyn Eich Hawliau fel Plentyn

Os ydych chi’n blentyn ac yn darllen hwn, yna diogelir eich hawliau hefyd drwy Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae hyn yn golygu bod gan yr awdurdodau gyfrifoldeb i sicrhau eu bod yn cadw at bopeth a ysgrifennwyd yn y confensiwn fel eich bod yn cael eich gwarchod. Mae Erthygl 34, Adran A yn datgan bod angen iddynt gyflwyno mesurau i atal ‘cymhelliad neu orfodaeth ar blentyn i gymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch rhywiol anghyfreithlon.’

 

Doedd Eva ddim yn teimlo bod unrhyw fesurau wedi cael eu rhoi ar waith i’w hamddiffyn, ond yng Nghymru mae llawer o fesurau fel llinellau cymorth ac elusennau!

 

Arwyddion o Drais Rhywiol

Mae trais rhywiol yn effeithio ar bawb yn wahanol ac mae’n bwysig cofio nad oes arwyddion amlwg bob amser. Fodd bynnag, mae arwyddion a allai ddangos bod rhywbeth drwg wedi digwydd, ac mae’n bwysig gwybod beth yw’r rhain os bydd rhywun rydych chi’n ei adnabod yn dangos yr arwyddion hynny. Dyma’r arwyddion pwysig sydd angen sylwi arnynt:

  • Arwyddion corfforol (poen, cleisiau, gwaedu)
  • Ofn rhai pobl a/neu leoedd penodol
  • Gorbryder a/neu iselder
  • Ynysu eu hunain
  • Newidiadau mewn patrymau cysgu a bwyta

Cofiwch, nid i fenywod a merched yn unig y mae trais rhywiol yn digwydd, gall ddigwydd i unrhyw un beth bynnag fo’u hoedran, eu rhyw neu unrhyw beth arall.

 

Ble i ddod o hyd i gymorth os ydych chi wedi cael eich effeithio?

Os oes unrhyw beth sy’n cael ei grybwyll yma wedi effeithio arnoch chi, cofiwch fod cymorth ar gael. Siaradwch ag oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo, fel aelod o’r teulu, athro neu hyfforddwr. Mae rhai cysylltiadau defnyddiol wedi’u rhestru isod – defnyddiwch nhw os ydych chi angen unrhyw gymorth!

 

Samariaid – 116 123

Heddlu De Cymru – 999 (Rhif brys) neu 101 (Rhif di-frys)

RapeCrisis – 0808 500 2222

Cymru Ddiogelach – 02920 220033

 

Ysgrifennwyd gan Maria Reji, myfyriwr y Gyfraith yn ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Abertawe sy’n gweithio tuag at yrfa yn y proffesiwn cyfreithiol yn y dyfodol.

 

Diolch yn fawr i Belinda Moseley, Uwch Swyddog Cyswllt ar gyfer ac ar ran Geldards LLP am wirio cynnwys cyfreithiol y blog hwn.