- Mae gennych hawl i breifatrwydd – ond mae gennych hefyd hawl i gael eich diogelu rhag camfanteisio a cham-drin rhywiol
- Mae’r gyfraith yng Nghymru (fel yn Lloegr) yno i’ch diogelu rhag niwed a all ddod o gael rhyw pan nad ydych mewn perthynas briodol neu os nad ydych yn ddigon hen
- Os ydych yn gwybod beth yw’r gyfraith, gallwch ddiogelu eich hun, a gwneud yn siŵr na fyddwch mewn trafferth
Efallai y byddwch eisiau cael rhyw ond mae’n werth gwybod beth mae’r gyfraith yn ei ddweud a sut mae’n eich diogelu. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn diogelu plant rhag camfanteisio a cham-drin rhywiol. Mae’r cyfreithiau yng Nghymru’n dweud yn glir beth yw’r isafswm oedran ar gyfer cael rhyw, ac mai dim ond os yw'r ddau unigolyn sy'n cael rhyw (chi a'ch partner) yn cytuno y dylech gael rhyw. Os ydych yn cael rhyw a chithau’n rhy ifanc, rydych yn torri’r gyfraith. Os bydd yr heddlu’n cael gwybod am hyn, bydd yn rhaid iddynt benderfynu a ydyn nhw am gymryd camau yn eich erbyn chi neu eich partner. Hyd yn oed os ydych yn cael rhyw cydsiniol a chithau o dan 16, fe ddylech allu eich diogelu eich hun rhag beichiogi neu rhag bod yn sâl am eich bod wedi cael rhyw.
Mae rhyw yn cynnwys rhyw treiddiol, yn ogystal â rhyw drwy’r geg a chyffwrdd â’ch gilydd mewn ffordd rywiol.
Mae ‘cydsynio’ yn golygu gallu cytuno i rywbeth heb gael eich bwlio, a heb i neb roi pwysau arnoch neu ddylanwadu arnoch fel arall i gael rhyw. Mae hefyd yn golygu cytuno i rywbeth heb i rywun roi rhywbeth fel alcohol neu gyffuriau i chi er mwyn i chi gytuno’n haws.
Yng Nghymru, 16 yw’r oedran cydsynio. Dyma pryd mae’r gyfraith yn dweud eich bod yn ddigon hen i gydsynio i gael rhyw. Dyw hynny ddim yn golygu bod yn rhaid i chi gael rhyw pan fyddwch yn 16 os nad ydych eisiau gwneud hynny. Mae’n golygu, os ydych o dan 16 ac yn cael rhyw gyda rhywun sydd dros 16, y gallai pwy bynnag rydych yn cael rhyw gyda nhw fod mewn trafferth.
Os ydych yn cael rhyw a chithau o dan 16, rydych yn torri’r gyfraith – hyd yn oed os ydych chi a’ch partner yr un oed.
Y ffordd orau o gydsynio i gael rhyw yw dweud yn glir wrth y person sydd gyda chi eich bod eisiau cael rhyw. Mae hynny’n golygu bod y person arall yn gwybod ble mae’n sefyll hefyd.
Os newidiwch eich meddwl yn nes ymlaen, hyd yn oed os ydych wedi dechrau cael rhyw, fe ddylech ei gwneud yn glir nad ydych eisiau cael rhyw. Os ydych wedi yfed rhywbeth neu wedi cymryd cyffuriau, efallai y byddwch yn cytuno i gael rhyw hyd yn oed pe byddech wedi dweud na pe byddech yn sobr. Mae gan bwy bynnag sydd gyda chi gyfrifoldeb i wneud yn siŵr eich bod yn cydsynio mewn gwirionedd i gael rhyw ac nad ydych yn gwneud hynny am eich bod wedi bod yn yfed.
Dyw’r ffaith eich bod wedi cael rhyw gyda rhywun unwaith ddim yn golygu o reidrwydd eich bod wedi cydsynio i gael rhyw gyda nhw eto.
Bydd angen i chi siarad â phwy bynnag rydych yn bwriadu cael rhyw gydag ef neu hi i wneud yn siŵr eich bod chi a’ch partner yn gyfforddus â hynny. Weithiau, bydd y person arall yn ymddwyn mewn ffordd sy’n gwneud i chi feddwl eu bod yn cytuno i gael rhyw, ond ddylech chi ddim dibynnu ar hynny. Os nad ydyn nhw wedi dweud wrthych eu bod eisiau cael rhyw, dylech holi i wneud yn siŵr mai dyna maen nhw ei eisiau. Os ydyn nhw wedi dweud eu bod eisiau cael rhyw, ond bod eu hymddygiad yn awgrymu eu bod yn ansicr, dylech holi a ydyn nhw eisiau cael rhyw mewn gwirionedd.
Os ydych yn meddwl bod y person arall wedi cytuno a’ch bod yn dechrau cael rhyw, a’r person arall yn newid eu meddwl, fe ddylech stopio.
Os yw’r person arall wedi bod yn yfed neu wedi cymryd cyffuriau, dylech fod yn arbennig o ofalus a gwneud yn siŵr eu bod yn cytuno i gael rhyw – os yw rhywun yn feddw neu dan ddylanwad cyffuriau, efallai na fyddant yn gallu cydsynio i gael rhyw, hyd yn oed os ydynt yn dweud ar y pryd eu bod eisiau cael rhyw, neu os yw’n ymddangos fel petaent yn cytuno i gael rhyw.
Efallai na fydd rhai pobl yn dweud nad ydyn nhw eisiau cael rhyw – efallai y byddant yn poeni am eich gwneud yn anhapus neu’n poeni y byddwch yn tynnu arnynt neu’n dweud wrth bobl eraill. Hyd yn oed os na fydd rhywun yn dweud nad ydynt eisiau cael rhyw, mae angen i chi feddwl am y ffordd maen nhw’n ymddwyn ac a ydynt yn ymddangos yn amharod i gael rhyw. Weithiau bydd pobl yn cytuno pan nad ydyn nhw eisiau cael rhyw mewn gwirionedd.
Mae cydsynio’n fater cymhleth, felly os nad ydych yn siŵr bod y person arall eisiau cael rhyw, neu os ydyn nhw wedi bod yn yfed neu’n cymryd cyffuriau, peidiwch â chael rhyw.
Fe allech gael eich arestio a’ch cyhuddo o dreisio. Mae hon yn drosedd ddifrifol iawn, a gallech orfod mynd i’r llys a chael cofnod troseddol y bydd yn rhaid i chi ddweud wrth bobl amdano os ydych eisiau mynd i goleg neu brifysgol, neu wrth wneud cais am swydd.
Er mai 16 yw’r oedran cydsynio, os ydych chi a’ch partner eisiau cael rhyw gyda’ch gilydd, a’ch bod tua’r un oed, efallai y bydd yr heddlu’n penderfynu peidio â chymryd camau yn eich erbyn. Os oes un ohonoch yn 15 a’r llall yn iau o lawer – yn 13 efallai, yna efallai y bydd yr heddlu, a phobl eraill, yn poeni fod problem. Hyd yn oed os bydd yr heddlu’n penderfynu peidio â chymryd camau, efallai y bydd eich rhieni’n ddig neu’n anhapus ac yn pryderu eich bod yn cael rhyw a hynny ddim yn gyfreithlon.
Oes. Dydych chi ddim yn gallu cydsynio i gael rhyw os ydych o dan 13, felly os cewch chi ryw gyda rhywun sydd o dan 13, fe allech gael eich arestio. Gallech hyd yn oed gael cofnod troseddol sy’n aros gyda chi am byth. Os mai chi sydd o dan 13, fyddwch chi ddim mewn trafferth gyda’r heddlu, ond efallai y bydd eich rhieni’n bryderus neu’n anhapus ynglŷn â’r hyn sydd wedi digwydd.
Os yw eich partner dros 18 a chithau o dan 16, fe allai eich partner fod mewn trafferth. Os ydych o dan 13, gallai unrhyw un sy’n cael rhyw gyda chi fod mewn trafferth gyda’r heddlu – does dim ots pa oed roedden nhw’n meddwl oeddech chi pan gawsoch ryw.
Fe ddylech allu cael dulliau atal cenhedlu os ydych o dan 16. Cewch brynu condomau mewn fferyllfa neu archfarchnad beth bynnag yw eich oed. Gallwch gael cyngor am ryw a siarad â meddyg, nyrs neu glinig iechyd rhywiol am ryw heb i’ch rhieni wybod. Os ydych o dan 16 ac eisiau dulliau atal cenhedlu, does dim angen i’ch rhieni wybod heblaw bod meddyg neu nyrs yn poeni nad ydych yn deall yn iawn beth sy’n digwydd a beth yw goblygiadau atal cenhedlu.
Rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni Cyfreithwyr Irwin Mitchell am fod mor garedig â rhoi o’u hamser a’u harbenigedd i wirio cynnwys yr adran hon o’r wefan. Hydref 2018.