Dr Rhian Croke, Arweinydd Eiriolaeth Ymgyfreitha Strategol, Gwybodaeth a Pholisi Hawliau Plant, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru ac Aelod o Grŵp Monitro CCUHP Cymru.
Cefndir i Broses Adrodd CCUHP 6ed/7fed Cylch Adrodd wrth Bwyllgor y CE ar Hawliau’r Plentyn
Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r gweinyddiaethau datganoledig adrodd wrth Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn (y Pwyllgor) oddeutu bob pum mlynedd i egluro i ba raddau maent yn gwarchod hawliau plant. Mae’r Pwyllgor wedyn yn gwneud yr hyn a gyfeirir atynt fel ‘sylwadau cloi’ sydd yn eu hanfod yn disgrifio unrhyw faterion sy’n peri pryder o safbwynt hawliau plant, ynghyd ag argymhellion er mwyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r gweinyddiaethau datganoledig a thiriogaethau tramor eu gweithredu.
Cyhoeddwyd Sylwadau Cloi newydd y DU gan y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn ar 2il Mehefin 2023. Cynhwysai’r rhain bron 200 o argymhellion i Lywodraeth a gweinyddiaethau datganoledig y DU er mwyn cydymffurfio’n well â’r rhwymedigaethau hawliau plant dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Y tro olaf i’r Pwyllgor adrodd ar berfformiad y Deyrnas Unedig yn erbyn y CCUHP oedd yn 2016.
Lluniodd y Pwyllgor y Sylwadau Cloi yn dilyn proses adrodd fanwl, sy’n cynnwys derbyn tystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar gan Lywodraeth, gweinyddiaethau datganoledig a thiriogaethau tramor y DU. Ym mis Medi 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hadroddiad gan ganolbwyntio ar beth sy’n digwydd yng Nghymru o safbwynt hawliau plant. Cyhoeddwyd fersiwn pobl ifanc o’r adroddiad hwn hefyd.
Cafodd tystiolaeth amgen ei chyflwyno hefyd drwy dystiolaeth ysgrifenedig a llafar gan y Comisiynwyr Plant, gan Sefydliadau Hawliau Dynol Annibynnol Cenedlaethol, 4 o Gynghreiriau Hawliau Plant y Deyrnas Unedig, UNICEF, Sefydliadau dan arweiniad plant a chyrff anllywodraethol eraill.
Yng Nghymru, fe wnaeth Grŵp Monitro UNCRC Cymru gasglu tystiolaeth hefyd ar draws y gymdeithas sifil a’i chyflwyno mewn adroddiad i’r Pwyllgor. Mae Comisiynydd Plant Cymru hefyd wedi rhoi tystiolaeth ysgrifenedig mewn adroddiad ar y cyd â Chomisiynydd Plant a Phobl Ifanc yr Alban a Chomisiynydd Plant Gogledd Iwerddon. Cafodd pobl ifanc gyfle i gyflwyno tystiolaeth drwy gyfrwng adroddiad a ysgrifennwyd gan Cymru Ifanc.
Gwahoddwyd y sefydliadau hyn i gyflwyno dadansoddiad amgen o brofiadau plant, yn ogystal â gwybodaeth berthnasol a dibynadwy ar feysydd nad yw’r llywodraeth o bosibl yn rhoi sylw digon manwl-gywir na digonol iddynt. Nod y broses yw cefnogi dialog adeiladol ac annog llywodraethau i fyfyrio ar eu meysydd cynnydd, ond hefyd i fyfyrio ar eu diffygion a chyflwyno targedau ar gyfer gweithredu i’r dyfodol er mwyn rhoi sylw i achosion o dramgwyddo hawliau plant.
Ar ôl gwerthuso’r holl dystiolaeth hon, mae’r Pwyllgor yn llunio’r Sylwadau Cloi.
Meysydd cynnydd
Yn y cylch adrodd hwn, fe wnaeth y Pwyllgor adrodd ar rai meysydd cynnydd, er enghraifft: gweithredu i wahardd priodasau plant yng Nghymru a Lloegr; rhoi diwedd ar gosbi corfforol yng Nghymru; a, gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed yng Nghymru. Drwy gydol y sylwadau, maent yn nodi rhai meysydd cynnydd eraill – fel arfer mewn perthynas â rheoliadau – ond maent yn aml yn nodi na chawsant eu gweithredu’n effeithiol.
Meysydd pryder
Fel a welir gan ehangder y 200 argymhelliad, rhaid inni beidio ag anwybyddu maint y diffyg cydymffurfio â’r rhwymedigaethau hawliau plant ar draws Plaid Gwladwriaeth a gweinyddiaethau datganoledig y Deyrnas Unedig – a rhaid eu cymryd o ddifrif.
Bûm yn gysylltiedig â’r tri chylch adrodd diwethaf mewn rhyw gyswllt. Yr hyn sy’n peri gwir bryder yw bod yr un pryderon yn dal i gael eu codi, a bod argymhellion yn cael eu gwneud, ond fod dim yn newid – ac fe welwyd rhai pethau’n gwaethygu hyd yn oed. Yr un mor bryderus yw bod materion sy’n peri pryder o’r newydd neu achosion newydd o dramgwyddo hawliau plant – rhai nas adroddwyd amdanynt yn flaenorol – wedi codi eu pennau yn y cylch adrodd hwn, gan ychwanegu at restr sy’n tyfu’n gyflym o bryderon am hawliau plant.
Roedd gan y Pwyllgor bryderon difrifol o safbwynt gwahaniaethu mynych, lefelau amddiffyniad rhag camdriniaeth, y system ofal, iechyd meddwl plant, tlodi plant, ceisio lloches, plant ffoaduriaid a mudwyr a’r system cyfiawnder plant. Dan ofal Llywodraeth y DU y mae rhai o’r materion hawliau plant hyn – ond Llywodraeth Cymru yn unig sy’n gyfrifol am eraill. Mae’n bwysig cydnabod er bod yr argymhellion yn berthnasol i Gymru; mae’r Pwyllgor – mewn adolygiad o’r holl dystiolaeth – wedi nodi materion sy’n peri pryder ar draws y pedair gwlad. Fodd bynnag, er mwyn dysgu rhagor am y manylion y tu ôl i bob sylw, a sut mae’r mater penodol dan sylw wedi ymddangos yn y cyd-destun Cymreig, byddwn yn eich annog i ddarllen adroddiad Grŵp Monitro UNCRC Cymru.
Mewn Atodlen (gweler isod) i’r blog hwn, rwyf wedi crynhoi’r meysydd pryder a’r argymhellion a gynhwyswyd yn y Sylwadau Cloi. Mewn print tywyll, fe allwch weld yr is-faterion sy’n peri pryder a’r clystyrau thematig. Mewn glas, rwyf wedi cyfeirio at rif y Sylw Cloi perthnasol; aiff hwn â chi i’r adran berthnasol yn nogfen y Pwyllgor.
Gweithredwch
Cymdeithas sifil
Fe allai’r Sylwadau Cloi, i lawer, ymddangos yn llethol ac yn anghyraeddadwy os eir ati i’w darllen fel cyfangorff. Fodd bynnag, yng Nghymru, mae’r gymdeithas sifil yn gadarn, a cheir sefydliadau sy’n arbenigo mewn gwahanol elfennau o’r Sylwadau yn unol â’r maes hawliau plant, polisi neu thema y maent yn ymwneud ag ef. Fe’ch cynghoraf i ymgyfarwyddo â’r rhai sy’n berthnasol i’ch sefydliad chi a’u defnyddio yn eich tystiolaeth a’ch eiriolaeth gerbron penderfynwyr allweddol.
Ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi datgan eu bod yn croesawu’r her adeiladol a wnaed gan y Pwyllgor yng Ngenefa ac y bydd yn rhoi ystyriaeth i’r Sylwadau Cloi, gan gynnwys ystyried Cynllun Gweithredu ar Hawliau Plant.
Y rheidrwydd ar Lywodraeth Cymru i ymateb i Sylwadau Cloi y DU 2023
Dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i’r Sylwadau Cloi (gweler adran 2 (4)).[i] Mae hefyd wedi datgan y bydd yn ymateb i’r Sylwadau Cloi yn Adroddiad Cydymffurfio Cynllun Plant 2023 dan yr egwyddor ‘Atebolrwydd’, ac mae eisoes wedi gwneud hynny mewn gohebiaeth i Grŵp Monitro CCUHP Cymru.
Myfyrdod terfynol
Mae’r Sylwadau Cloi yn darparu fframwaith defnyddiol ac awdurdodol ar gyfer gweithredu ar hawliau plant. Bawb: defnyddiwch nhw i annog newid er mwyn plant. Rydyn ni’n wlad sydd wedi mynegi ein hymrwymiad i hawliau plant; mae’n gyfrifoldeb ar bawb i eiriol dros roi diwedd ar achosion o dramgwyddo hawliau plant – ac i hawliau plant gael eu parchu, eu hamddiffyn a’u cyflawni.
Atodlen 1
Sylwadau Cloi y DU 2023: crynodeb
- Mesurau Gweithredu Cyffredinol (erthyglau 4, 42 a 44 (6)
Gwnaed argymhellion, unwaith eto, i ymgorffori CCUHP yn llwyr (8 f), datblygu asesiadau gorfodol o’r effaith ar hawliau plant ar gyfer deddfwriaeth a pholisïau (8 e), mabwysiadu cynlluniau gweithredu cynhwysfawr ar gyfer gweithredu CCUHP sydd â digon o adnoddau (9 a a b), sefydlu Arweinydd Gweinidogol ar gyfer plant (10), a dull o gyllidebu sy’n seiliedig ar hawliau plant (11 a t- e). Fe wnaethant hefyd argymell bod y Comisiynydd yn cryfhau’r dulliau casglu data gan ddefnyddio dangosyddion i gwmpasu holl feysydd CCUHP (12 a – e).
Roedd y Pwyllgor hefyd yn pryderu nad yw rolau’r Comisiynwyr Plant (gan gynnwys Comisiynydd Plant Cymru) yn dal i fod yn gwbl annibynnol ar y Llywodraeth nac yn cydymffurfio ag Egwyddorion Paris (13 a & b). Fe wnaethant sylwi, â phryder, ar y prinder gwybodaeth am CCUHP gan argymell y dylid sefydlu hyfforddiant systematig ar gyfer yr holl weithwyr proffesiynol sy’n gweithio â phlant (14 a & b). Roedd eu hargymhellion yn ymwneud nid yn unig â’r Wladwriaeth, cawsant hefyd eu targedu at sicrhau atebolrwydd i hawliau plant ymysg y sector busnes (16 a & b). Fe wnaethant bwysleisio hefyd, yn gywir felly, eto fyth, bwysigrwydd peirianweithiau cwyno annibynnol a chyfeillgar i blant ar draws pob sector, cynrychiolaeth gyfreithiol a chefnogaeth i bob plentyn, a hyfforddiant i rai sy’n gweithio yn y system cyfiawnder plant ar hawliau plant a gweithdrefnau cyfeillgar i blant (17 a -c).
- Diffiniad o Blentyn (erthygl 1)
Roedd y Pwyllgor yn awyddus i sicrhau bod plant – gan gynnwys rhai sy’n 16 ac yn 17 oed – yn cael eu diffinio fel plant yn y gyfraith ac yn cael amddiffyniad; argymhellodd y Pwyllgor gynnal adolygiad o ddeddfwriaeth seiliedig ar oedran (18 a, b)
- Egwyddorion Cyffredinol (erthyglau 2, 3, 6 a 12)
Roedd y Pwyllgor yn bryderus dros ben am wahaniaethu mynych, megis: drwy hiliaeth a bwlio: yn erbyn plant mewn sefyllfaoedd difreintiedig, gan gynnwys plant sy’n perthyn i grwpiau lleiafrifol a phlant lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a rhyngrywiol; diffyg cynnydd i sicrhau bod pob plentyn dan 18 oed yn cael ei ddiogelu rhag gwahaniaethu ar sail oedran; a’r gynrychiolaeth ormodol o blant o dras Asiaidd ac Affricanaidd a phlant Moslem, Roma, Sipsiwn a Theithwyr sydd yn y system cyfiawnder troseddol yn ogystal â’r gyfran fawr o’r grwpiau hyn o blant sy’n byw mewn tlodi. Fe wnaethant gyfres o argymhellion cysylltiedig (gweler 20 a -f).
Roeddent hefyd yn bryderus na chaiff yr egwyddor er lles gorau’r plentyn ei gweithredu’n systematig ym mhob mater sy’n effeithio ar blant, a gwnaethant gyfres o argymhellion cysylltiedig (gweler 21 a -c). Roeddent yn dal i fynegi pryderon ynglŷn â’r hawl i fyw, goroesi a datblygu o safbwynt cyfraddau marwolaethau babanod, marwolaethau annisgwyl mewn sefydliadau a phryderon am hunan-niwed a hunan-laddiad (gweler 22 a-d). Fe wnaethant fynegi pryder na chaiff safbwyntiau plant eu hystyried yn systematig mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt nac mewn penderfyniadau cenedlaethol a lleol (gweler 23 a -d).
- Hawliau sifil a rhyddid (erthyglau 7, 8 ac 13 –17)
Roedd y Pwyllgor yn bryderus dros ben fod plant a’u teuluoedd yn cael eu hamddifadu o’u cenedligrwydd heb rybudd dan Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau’r DU 2022, gan gael effaith niweidiol ar les gorau plant a’u hawl i genedligrwydd (gweler 24 a – b). Fe wnaethant hefyd ategu pwysigrwydd hawl i hunaniaeth a bod angen i unrhyw benderfyniadau ynglŷn â systemau cydnabod rhywedd plant gael eu gwneud drwy ymgynghori’n agos â phlant trawsrywiol ac yn unol â hawliau plant (gweler 25). Fe wnaeth y Pwyllgor hefyd annog plaid Gwladwriaeth y DU i warantu hawl pob plentyn i ryddid mynegiant ac i ymarfer ei grefydd yn rhydd; roeddent yn bryderus ynglŷn ag effeithiau iasol cyhuddiadau gwrth-derfysgaeth (gweler 26 a -e). Roeddent hefyd yn bryderus ynglŷn â chyflwyno Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 a’r Bil Trefn Gyhoeddus sydd wedi arwain at gyfyngu ar hawl plentyn i ryddid i ymgysylltu ac ymgynnull yn heddychlon (gweler 27 a -c); fe wnaethant ofyn i fesurau o fewn y ddeddfwriaeth gael eu diddymu.
Datganodd y Pwyllgor eu bod yn dal yn bryderus ynglŷn â defnyddio archwiliadau stopio a chwilio diangen ar blant a bod y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu gwneud ar blant sy’n perthyn i grwpiau ethnig, gan dramgwyddo hawl plentyn i breifatrwydd; fe wnaethant nifer o argymhellion cysylltiedig (gweler 28 a – C). O safbwynt plant yn defnyddio’u hawl i wybodaeth briodol, nododd y Pwyllgor, yn ddiolchgar, yr ymdrechion a wnaed o safbwynt cynhwysiant digidol yn ystod y pandemig – ond nododd hefyd fod yn rhaid mabwysiadu Bil Diogelwch Ar-lein y DU er mwyn sicrhau bod pob cyfraith a pholisi yn yr amgylchedd digidol yn diogelu plant rhag cynnwys niweidiol a risgiau eraill ar-lein (gweler 29 a – c).
- Trais yn erbyn plant (erthyglau 19, 24 (3), 28 (2), 34, 37 (a) a 39)
O safbwynt arteithio a chosbau neu driniaethau creulon, annynol neu ddiraddiol eraill, dywedodd y Pwyllgor fod yn rhaid cymryd mesurau deddfwriaethol i wahardd yn ddiamod, ac yn ddieithriad, yr arfer o ddefnyddio: (i) dyfeisiau niweidiol, gan gynnwys mygydau poeri, bwledi plastig a gynau taser, taflegrau egni gwanhau ac arfau tanio trydanol eraill, yn erbyn plant; (ii) noeth-chwilio plant; a (iii) cadw mewn cell ar eu pen eu hunain, ynysu, gwahanu ac atal fel dulliau disgyblu mewn ysgolion a lleoliadau gofal iechyd a gofal amgen. Roeddent hefyd yn bryderus dros ben ynglŷn ag atal plant a gofynnwyd ai fel dewis yn niffyg dim arall y’i defnyddiwyd, gan ddweud y dylid bod sancsiynau priodol yn erbyn tramgwyddwyr mewn lleoliadau gofal iechyd ac amgen os caiff plant (yn enwedig plant ag anableddau) eu cam-drin neu’u brifo (gweler 30 a i c).
O safbwynt cosbi corfforol, argymhellodd y Pwyllgor y dylid monitro gweithredu deddfwriaeth 2022 oedd yn ei wahardd yng Nghymru a’i heffaith – yn ogystal â chryfhau’r ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth i rieni, athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill er mwyn hybu ffurfiau di-drais a chyfranogol o fagu plant (31 b, c).
Ceid pryderon o hyd am fynychder camfanteisio rhywiol, cam-drin domestig, trais ar sail rhywedd a ffurfiau eraill ar drais yn erbyn plant, a hefyd am y mesurau annigonol presennol i ymchwilio a dwyn drwgweithredwyr o flaen eu gwell. Fe wnaethant hefyd bwysleisio’r angen i adnabod a chefnogi plant sydd mewn perygl oherwydd trais yn y cartref, a hefyd i fynd i’r afael â’r mater o ddiffyg adnoddau ar gyfer gwasanaethau i blant sy’n ddioddefwyr. Fe wnaethant nifer o argymhellion cysylltiedig (gweler 33 a- k).
Rhoddwyd pwyslais hefyd ar bwysigrwydd atal ymladd a thrais sy’n gysylltiedig â gangiau a throseddau cyllyll; cyflwynwyd cyfres o argymhellion i roi sylw i’r mater. (34 a i-iv). Mynegwyd pryderon hefyd fod arferion niweidiol yn dal i ddigwydd, arferion fel anffurfio organau cenhedlu benywod, priodasau plant, trais yn enw anrhydedd, therapïau trosi a thriniaeth feddygol neu lawfeddygol heb fod yn frys nac yn hanfodol ar blant rhyngrywiol (35 a -d).
- Teulu a gofal amgen (erthyglau 5, 9–11, 18 (1) a (2), 20, 21, 25 a 27 (4))
Canmolodd y Pwyllgor Blaid Gwladwriaeth y Deyrnas Unedig am ei hamrywiol wasanaethau gofal plant – ond argymhellodd o hyd i’r mesurau gael eu cryfhau i alluogi gofalwyr a rhieni sy’n gweithio i gael cydbwysedd rhwng eu cyfrifoldebau teuluol a phroffesiynol. Fe wnaethant argymell hefyd fod y meini prawf i weld pwy sy’n gymwys am y cynllun Dechrau’n Deg yn cael eu hymestyn er mwyn sicrhau bod pob plentyn mewn sefyllfaoedd cymdeithasol-economaidd difreintiedig yn cael mynediad i ofal plant am ddim. Cyfeiriasant hefyd at bwysigrwydd bod gweithwyr proffesiynol yn cael eu hyfforddi i adnabod a chefnogi gofalwyr ifanc ac at bwysigrwydd cynyddu ymwybyddiaeth o’r system cardiau adnabod genedlaethol yng Nghymru (36 a – c).
O safbwynt plant yn y system ofal, roedd y Pwyllgor yn pryderu’n fawr iawn am y nifer fawr o blant sy’n dal mewn gofal, gan gynnwys mewn lletyau na chânt eu rheoleiddio megis gwestai. Roeddent hefyd yn bryderus am y trosglwyddiadau a’r newidiadau mynych mewn gweithwyr cymdeithasol a oedd yn cael eu neilltuo ar gyfer plant. Roeddent hefyd yn bryderus am leoli plant mewn sefyllfaoedd o natur fregus, mewn cartrefi gofal preswyl a diogel, a oedd weithiau yn gyfystyr ag amddifadu plant o’u rhyddid. Gwnaethant sylw ar y gwasanaethau annigonol ar gyfer plant sy’n byw mewn gofal neu’n gadael gofal. Gwnaethant nifer o argymhellion (gweler 38 a -h) o safbwynt y materion a’r pryderon hyn.
O safbwynt plant y mae eu rhieni yn y carchar, fe wnaethant argymell mai lles gorau’r plant yw’r ystyriaeth gyntaf ym mhob penderfyniad ac y dylai plant fod yn gallu cynnal perthnasoedd personol gyda’u rhieni a chael mynediad i wasanaethau digonol (39 a-b).
- Plant ag anableddau (erthygl 23)
Mynegwyd pryderon o hyd ynglŷn â’r ffaith nad oes gan blant ag anableddau fynediad priodol i wasanaethau neu eu bod yn wynebu gwahaniaethu. Fe wnaeth y Pwyllgor argymhellion ynglŷn ag adolygu effeithiau penodol y trefniadau diwygio lles ar deuluoedd sydd â phlant anabl, lleihau’r amseroedd aros diagnostig, cryfhau’r gefnogaeth ar gyfer integreiddio cymdeithasol, a rhoi llais i blant wrth wneud penderfyniadau.
- Iechyd a lles sylfaenol (erthyglau 6, 18 (3), 24, 26, 27 (1)–(3) a 33)
Cyfeiriodd y Pwyllgor at Sylw Cyffredinol Rhif 15 ar iechyd plant, gan ofyn i’r mesurau gael eu cryfhau er mwyn sicrhau ansawdd gwasanaethau gofal iechyd arbenigol a phediatrig priodol i oedran, a sensitif i blant, ac i safbwyntiau plant gael eu cynnwys wrth eu datblygu a’u gweithredu. Dywedasant fod angen cael strategaethau i roi sylw i anghydraddoldebau iechyd. Cyfeiriasant at yr amseroedd aros hir y mae plant trawsrywiol a phlant sy’n cwestiynu eu rhywedd yn eu hwynebu. Gofynasant i’r mesurau gael eu cryfhau i roi sylw i ddiffyg maethiad ymysg plant, diffyg diogeledd bwyd, tueddiadau cynyddol o ran gordewdra. Gofynasant i ymdrechion barhau i hybu bwydo ar y fron (41 a -f).
Roeddent yn bryderus dros ben ynglŷn â’r amseroedd aros hir i blant sydd eisiau defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yn ogystal â’r nifer fawr o blant sydd â phryderon iechyd meddwl, anableddau dysgu ac awtistiaeth a roddir mewn lleoliadau cadw ac mewn wardiau seiciatrig i oedolion dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Gwnaethant nifer o argymhellion cadarn (gweler 43 a – g).
O safbwynt iechyd y glasoed, gwnaethant argymhellion i addysg gynhwysfawr seiliedig ar dystiolaeth a phriodol i oedran, ar iechyd atgenhedlu ac iechyd rhyw yng nghwricwla ysgolion gael ei gwneud yn orfodol, er mwyn cryfhau’r mesurau i ddarparu i’r glasoed wybodaeth i’w hatal rhag camddefnyddio sylweddau, a sicrhau bod gwasanaethau dibyniaeth ar gyffuriau ar gael yn hawdd yn y gymuned (gweler 44 a-d)
O safbwynt iechyd yr amgylchedd, roeddent yn croesawu’r ymrwymiad i ostwng yr holl allyriadau tŷ gwydr i sero net erbyn 2050 ond roeddent yn bryderus ynglŷn â’r nifer fawr o blant sy’n byw mewn ardaloedd sydd â lefelau anniogel o lygredd aer, cyfeiriasant hefyd at y mesurau annigonol a gymerwyd i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwnaethant nifer o argymhellion (gweler 45 a -f).
O safbwynt diffyg Safonau byw roeddent yn bryderus iawn ynglŷn â’r nifer fawr o blant sy’n byw mewn tlodi, ynglŷn â diffyg diogeledd bwyd a digartrefedd. Fe wnaethant argymell bod angen i’r polisïau gael eu cryfhau gan sefydlu targedau clir, dangosyddion mesuradwy, a systemau atebolrwydd a monitro cadarn (Gweler 46 a – d).
- Addysg, hamdden a gweithgareddau diwylliannol (erthyglau 28–31)
Mynegodd y Pwyllgor eu pryder parhaus ynglŷn ag anghydraddoldebau mewn deilliannau a chyrhaeddiad addysgol i blant mewn sefyllfaoedd difreintiedig a dywedasant fod yn rhaid cryfhau’r mesurau er mwyn cefnogi’r plant hyn. Cyfeiriasant at sicrhau y ceir addysg gynhwysol mewn ysgolion prif ffrwd i bob plentyn ag anableddau. Dywedasant fod yn rhaid i’r ymdrechion barhau i sicrhau bod gan bob plentyn fynediad i addysg plentyndod cynnar ddigonol a fforddiadwy. Maent yn pryderu bod y defnydd o waharddiadau yn cael ei fonitro, a’i wahardd mewn ysgolion cynradd ac na chaiff ond ei ddefnyddio mewn ysgolion uwchradd fel mesur yn niffyg pob dim arall. Dywedasant hefyd y dylid sicrhau plant bod ganddynt hawl i apelio eu gwaharddiad a chael cynnig cynrychiolaeth a chyngor cyfreithiol.
Dywedasant hefyd fod yn rhaid i blaid y wladwriaeth gynyddu ei hymdrechion i ddileu gwahaniaethu a bwlio. Cyfeiriasant at ddatblygu arweiniad ar gyfer cynnwys plant trawsrywiol a phlant sy’n cwestiynu eu rhywedd mewn ysgolion. Cyfeiriasant hefyd at ddileu iaith wahaniaethol o bob gwerslyfr a chwricwlwm a bod yn rhaid i hawliau plant fod yn orfodol yng nghwricwlwm yr ysgol. Dywedasant fod yn rhaid gwahardd y defnydd o atal a gwahanu ym mhob lleoliad addysgol (gweler 47 a – k).
O safbwynt seibiant, chwarae a hamdden, roeddent yn awyddus bod camau yn cael eu cymryd i sicrhau bod gan bob plentyn fynediad i fannau chwarae awyr agored cyhoeddus diogel a bod plant yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau o safbwynt prosesau cynllunio trefol, gan gynnwys cludiant cyhoeddus ac wrth ddatblygu mannau i blant chwarae (gweler 48 a- d).
- Mesurau amddiffyn arbennig (erthyglau 22, 30, 32, 33, 35, 36, 37 (b)–(d) a 38–40)
Plant sy’n ceisio lloches, plant ffoaduriaid a mudwyr
Mynegodd y Pwyllgor yn gryf eu pryderon ynglŷn â Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022, o safbwynt hawliau lloches ac ailuno teuluoedd, troseddoli pan maent yn cyrraedd heb ganiatâd ymlaen llaw a chyflwyno system dwy haen ar gyfer adnabod plant ffoaduriaid, gan ofyn iddi gael ei diwygio.
Roeddent yn bryderus iawn hefyd ynglŷn ag effaith y Bil Mudo Anghyfreithlon ar blant. Dywedasant fod yn rhaid i Lywodraeth y DU ddiwygio’r Bil Mudo Anghyfreithlon ar frys oherwydd y byddai’n tramgwyddo hawliau plant dan CCUHP a’r Confensiwn o safbwynt Statws Ffoaduriaid, a sicrhau ei fod yn gydnaws â’r gyfraith hawliau dynol rhyngwladol er mwyn sicrhau hawliau plant i genedligrwydd, i geisio lloches ac i sicrhau bod eu lles gorau yn cael ei ystyried yn flaenaf gan atal yr arfer o’u cadw’n hir a’u symud.
Roeddent hefyd yn bryderus ynglŷn â’r arfer mynych o ddefnyddio dulliau annibynadwy o bennu oedran plentyn, y nifer fawr o blant y cafodd eu hoedran ei herio a’r diffyg data ar nifer y ceiswyr lloches sy’n honni bod yn blant sydd wedi cael eu hasesu ac weithiau eu cadw fel oedolion gan swyddogion mewnfudo. Roedd pryderon yn parhau ynglŷn â cheiswyr lloches ifanc, ynglŷn â mynediad i’w hawliau a gwasanaethau a methu â gweithredu cynllun gwarcheidiaeth ar gyfer ceiswyr lloches ifanc bregus. Gwnaethant nifer o argymhellion cadarn. (gweler 49 -50).
Gweinyddu Cyfiawnder Plant
Roedd y Pwyllgor yn bryderus dros ben ynglŷn â natur ddidrugaredd a chosbol y system cyfiawnder plant yn y Deyrnas Unedig a’r cynnydd araf yn gweithredu argymhellion blaenorol y Pwyllgor i wneud y system cyfiawnder plant yn gydnaws â CCUHP. Roeddent yn bryderus am barhad yr oedran isaf ar gyfer bod yn droseddol gyfrifol, plant ddim yn cael eu trin fel plant, plant ar remand yn cael eu cadw yn y ddalfa dros nos, parhad yn y defnydd o gaethiwo plant ar eu pen eu hunain, y gynrychiolaeth ormodol o grwpiau lleiafrifol ethnig sydd mewn lletyau cadw, yr achosion o drais a gyflawnwyd gan staff yn y system cyfiawnder plant. Gwnaethant argymhellion cadarn (gweler 54 a-f).[ii]
ÔL-NODIADAU
[i] Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn pen chwe mis ar ôl i’r Pwyllgor wneud unrhyw awgrym neu argymhelliad cyffredinol dan erthygl 45(d) yn seiliedig ar adroddiad a wnaed yn y DU, ystyried a ddylid diwygio neu ail-greu’r cynllun yng ngoleuni’r awgrym neu’r argymhelliad hwnnw.
[ii] Crynodeb defnyddiol y bwriedir i hwn fod; i gael manylion pellach, darllenwch sylwadau’r Pwyllgor sy’n berthnasol i’r Protocolau Dewisol, a’r holl Sylwadau sy’n berthnasol i’r holl faterion hawliau plant.





