Night Owls gan Jenn Bennett

Awdures nofelau i bobl yn eu harddegau ac oedolion o America yw Jenn Bennet. Mae un o’i llyfrau gwobredig, Night Owls, yn dilyn anturiaethau dau artist yn eu harddegau, Bex a Jack. Mae Bex yn fyfyriwr sy’n dyheu am fod yn ddylunydd meddygol, sy’n uchelgais gymharol anarferol i berson yn ei arddegau, gan ei fod yn cynnwys tynnu lluniau anatomeg go iawn i helpu doctoriaid a gweithwyr iechyd proffesiynol i ofalu am gleifion ac addysg. Ar y llaw arall, mae Jack yn artist graffiti euraid adnabyddus sy’n “fandaleiddio” y ddinas gyda’r nos. Mae’r stori yn datblygu wrth iddyn nhw gwrdd ar fws yn hwyr y nos, lle mae bywydau’r ddau yn newid.

Mae’r blog hwn yn archwilio’r rhesymau pam y caiff graffiti, fel ffurf mynegiant, ei ystyried yn fandaliaeth a pha hawliau fyddai’n eich diogelu pe baech yn mynd i drwbl am wneud hynny. Rwy’n credu ei bod yn bwysig bod unrhyw blentyn sydd mewn sefyllfa sy’n debyg i stori Jack yn ymwybodol o’u hawliau yn ogystal â deall sut gall y gyfraith eu hamddiffyn.

Er bod y nofel hon wedi’i lleoli yn America, bydd y gyfraith a’r hawliau yn cael eu trafod fel pe baen nhw wedi’u lleoli yng Nghymru.

 

Y Gyfraith ar Fandaliaeth ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

‘single words painted in enormous gold letters appeared on bridges and building fronts. Not semi-illegible, angry gang tangs, but beautifully executed pieces’

Mae Jack, un o brif gymeriadau’r llyfr, yn artist graffiti stryd enwog, y mae chwilio amdano am fandaliaeth. Mae graffiti yn unrhyw beth sy’n cael ei sgwennu, ei chwistrellu neu ei beintio ar eiddo cyhoeddus neu breifat. Mab maer y ddinas yw Jack ac mae’n efaill i chwaer sydd yn yr ysbyty gyda chyflwr anodd iawn, ac mae’n teimlo’n aml ei fod wedi’i lethu a’i gamddeall. Mae’n amlwg o fewn y llyfr bod Jack yn dewis defnyddio graffiti fel cyfrwng i fynegi ei emosiynau ac i bortreadu beth mae’n ei deimlo ac yn mynd drwyddo.

I lawer, gall ei waith celf gael ei ystyried fel celf dinesig, yn ysbrydoledig ac yn arwyddocaol oherwydd y geiriau mae’n eu dewis yn ei graffiti fel ‘dathlwch’, ‘codwch’ a ‘carwch’, tra bod eraill yn ystyried ei waith celf fel niwsans cyhoeddus ac yn fath o fandaliaeth, rhywbeth a allai ei gael i drwbl mawr, yn enwedig gan fod ei waith celf yn cael ei ddangos mewn lleoliadau poblogaidd o amgylch y ddinas fel mynedfeydd i atyniadau a chofebau.

Gweithred wrthgymdeithasol yw fandaliaeth sy’n cynnwys dinistrio neu ddifrodi eiddo cyhoeddus neu breifat yn fwriadol, ac yn achos y llyfr hwn, mae Jack gan fwyaf yn fandaleiddio ac yn anharddu eiddo cyhoeddus. Yng Nghymru, caiff graffiti ei ystyried yn weithred o fandaliaeth ac yn drosedd o dan Ddeddf Difrod Troseddol 1971.  Yn rhannol, i fynd i’r afael â fandaliaeth, cyflwynwyd Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 i ddarparu ystod o ddulliau a phwerau hyblyg i’r heddlu, awdurdodau lleol ac asiantaethau lleol eraill y gallent eu defnyddio i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i “ymddygiad gwrthgymdeithasol”, a fyddai’n cynnwys fandaliaeth. Er enghraifft, pe bai Jack yn cael ei ddal yn gwneud graffiti, byddai hyn yn cael ei weld fel fandaliaeth a gallai awdurdodau gael gwaharddeb sifil yn ei erbyn i’w atal rhag cyflawni’r weithred wrthgymdeithasol eto.

Byddai’n rhaid i Jack ddilyn rheolau penodol, fel trwsio’r difrod a achosodd i eiddo rhywun arall, a all fod yn gostus iawn, neu fel arall gallai gael cosb fwy difrifol. Gallai’r gosb am beidio â dilyn gwaharddeb sifil fod mor ddifrifol â gorchymyn cadw tri mis ar gyfer rhywun dan 18 oed, a fyddai’n berthnasol i Jack, gan ei fod yn 17 oed, neu hyd at ddwy flynedd o garchar neu ddirwy diderfyn os ydych yn 18 oed neu’n hŷn. Mae hyn yn golygu y gallai Jack, neu chi, gael cofnod troseddol am wneud graffiti gan ei fod yn cael ei drin fel cyflawni trosedd, hyd yn oed os cyflawnir y weithred heb unrhyw fath o falais, fel Jack, a gall hyn gael effaith fawr iawn ar weddill eich bywyd.

 

Beth sy’n digwydd os ydych chi mewn trwbl? – Eich Hawliau ar Waith

‘Artist Stryd Golden Apple: Bardd neu Fandal sydd Eisiau Sylw?’

Mae rheolau a chyfreithiau yn eu lle i sicrhau bod pawb yn gallu teimlo’n ddiogel, yn cael eu hamddiffyn yn dda a’u parchu. Os cewch eich dal yn gwneud graffiti neu’n gwneud unrhyw weithred wrthgymdeithasol neu anghyfreithlon arall, gallwch wynebu lot o drwbl gyda’r heddlu a’ch awdurdod lleol.

Unwaith y byddwch yn 10 oed, mae’r gyfraith yn dweud eich bod yn ddigon hen i ddeall a ydych wedi torri’r gyfraith ai peidio. Mae’n cael ei alw’n ‘oedran cyfrifoldeb troseddol’. Gan fod Jack o dan 18 oed, mae hyn yn golygu y gallai gael ei holi gan yr heddlu, y gellid mynd ag ef i orsaf heddlu, ac o bosib yn y pen draw, mynd ag e i’r llys lle byddai barnwr yn penderfynu beth fydd yn digwydd iddo nesaf.

Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o sut gall y gyfraith yng Nghymru eich amddiffyn os ydych chi byth mewn sefyllfa fel hyn. Llofnododd Llywodraeth y DU Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) ac mae wedi ei fabwysiadu fel Cyfraith Gymreig o dan Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc 2011. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i weinidogion Cymru roi ‘sylw dyledus’ bellach i’r UNCRC wrth ddatblygu neu wneud penderfyniadau ynghylch deddfwriaeth a pholisi newydd.

 

Hawliau’r UNCRC a fyddai’n berthnasol i chi yn y sefyllfa hon yw: Erthygl 3 –  eich hawl i gael eich lles pennaf wedi’i ystyried pan fydd unrhyw awdurdod yn cymryd unrhyw gamau sy’n effeithio arnoch chi, gan gynnwys yr heddlu.

  • Erthygl 40 – eich hawl i gael eich trin yn deg gan y system cyfiawnder ieuenctid os ydych wedi eich cyhuddo o dorri’r gyfraith. Mae hyn yn golygu y dylai fod gennych chi, neu unrhyw blentyn yr amheuir ei fod wedi cyflawni trosedd, yr hawl i gymorth cyfreithiol a thriniaeth deg mewn system gyfiawnder sy’n parchu eich hawliau. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno y dylai plant sy’n torri’r gyfraith gael eu trin fel ‘plant yn gyntaf, troseddwyr yn ail.’

Os byddwch yn dod i drwbl gyda’r heddlu, bydd eich hawliau o dan UNCRC yn eich helpu i sicrhau eich bod yn cael eich trin yn deg. Er nad yw hyn yn golygu y gallwch ddianc rhag y gyfraith rydych wedi’i thorri, mae’n golygu y cewch eich trin mewn ffordd sy’n annog canlyniad gwell ac sy’n ystyried eich lles pennaf.

Mae’n bwysig cofio bod y gyfraith hefyd yn amddiffyn eich hawliau sifil a’ch hawliau dynol. Mae gan yr heddlu nifer o bwerau i’w helpu o fewn eu gwaith. Er gwaetha’r ffaith bod Jack yn cael ei ystyried fel ‘fandal y mae’r heddlu’n chwilio amdano’, dylent wastad gofio ei ryddid a’i hawliau sifil fel plentyn os ydynt am ddefnyddio unrhyw bŵer yn ei erbyn; er eu bod yn amau ei fod wedi torri’r gyfraith. Gallwch ddysgu mwy am gael eich stopio, eich arestio, eich cyfweld a’ch cyhuddo gan yr heddlu fan hyn.

 

Ffyrdd Eraill o Gael Clywed eich Llais

Jack, efallai y byddwch chi eisiau mynegi eich hun dwy waith celf. Serch hynny, ar wahân i wneud graffiti, sydd ar sawl achlysur yn anghyfreithlon, mae nifer o ffyrdd eraill o leisio’ch barn. Mae gan bob plentyn hawl i fynegi eu teimladau a’u dymuniadau ym mhob mater sy’n effeithio arnyn nhw, ac y cymerir eu barn o ddifri. Dyma un o’ch hawliau a gallwch ddysgu mwy amdano fan hyn.

Os oes rhywbeth yn digwydd i chi, fel problem yn yr ysgol neu adre, fel Jack, mae gennych hawl i gael eich clywed ac i fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau unrhyw le y mae sefydliad cyhoeddus yn rhan o bethau, fel yr heddlu neu eich ysgol. Dyma eich hawl o dan Erthygl 12.

Efallai y byddwch hefyd eisiau gwneud datganiad cymdeithasol, gwleidyddol neu bersonol. Mae sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eich bywyd bob dydd hefyd yn bwysig iawn. Oherwydd bod Cymru yn wlad sydd wedi’i datganoli erbyn hyn, gall mwy o benderfyniadau am fywyd yng Nghymru gael eu gwneud ar lefel genedlaethol. Gallwch leisio eich barn drwy eich cyngor lleol, eich Aelod Seneddol (AS) lleol neu Aelod o’r Senedd (Senedd Cymru) (AS), neu efallai’n fwyaf cyffrous, drwy Senedd Ieuenctid Cymru. Dyma gorff a grëwyd i rymuso pobl ifanc i wneud penderfyniadau ac i roi llais iddyn nhw yng ngwleidyddiaeth Cymru. Gallwch ddysgu mwy am Senedd Ieuenctid Cymru fan hyn.

 

Ffyrdd Eraill o Ddarllen am y Gyfraith a’ch Hawliau

Mae’n bwysig iawn deall a gwybod eich hawliau, yn ogystal â sut mae’r gyfraith yn eich diogelu yng Nghymru. Gallwch ddarllen mwy ynglŷn â hyn a sut mae’r gyfraith yn effeithio arnoch chi ar wefan Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru fan hyn neu gallwch chi ddarllen mwy o flogiau  fel hyn o’r prosiect ‘Darllen fy Hawliau. Os oes gennych gwestiwn penodol am y gyfraith, defnyddiwch ein ffurflen gysylltu.

 

Ynglŷn â’r Awdur

Megan Salter ydw i ac rwy’n astudio Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn y flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Abertawe. Rydw i wedi mwynhau cyfuno fy nghariad at ddarllen a fy nealltwriaeth o ba mor bwysig yw hi bod plant yn deall y gyfraith ac yn cydnabod eu hawliau i gynhyrchu’r darn hwn. Gan nad wyf yn gwybod eto beth hoffwn ei wneud ar ôl gorffen fy ngradd, rydw i’n mwynhau gwirfoddoli ar brosiectau fel hyn sy’n creu gymaint o argraff.