Torri’r rheolau

  • Mae rheolau ym mhobman, ac maen nhw yno fel arfer i wneud bywyd yn well i bawb, er efallai eu bod yn ddiflas i chi
  • Dyw torri rheol ddim yn golygu y byddwch mewn trafferth gyda’r heddlu, ond os ydych chi wedi torri’r gyfraith hefyd, mae’n bosib iawn y bydd yr heddlu’n cael eu galw
  • Efallai y byddwch yn gallu herio rheol os yw’n gwahaniaethu yn eich erbyn am ryw reswm, neu os nad yw’n gwneud synnwyr

Mae rheolau ym mhobman. Maen nhw yno fel arfer i wella pethau i bawb, ac i wneud yn siŵr bod pawb yn cael eu parchu, er efallai eich bod yn teimlo’ch bod yn cael eich rhwystro rhag gwneud pethau rydych chi eisiau eu gwneud.

Bydd eich rhieni’n gosod rhai rheolau gartref – pethau fel faint o deledu y cewch ei wylio ac a oes raid i chi gadw’ch ystafell wely’n daclus. Mae rheolau yn yr ysgol ynglŷn â beth i’w wisgo, a sut i ymddwyn yn yr ysgol. Mae rheolau ar gyfer croesi’r ffordd. Gall perchnogion siopau osod rheolau ynglŷn â faint o blant sy’n cael bod yn y siop ar yr un pryd. Mae gan byllau nofio reolau ynglŷn â sut i ymddwyn yn y dŵr. Mae rhai rheolau sydd ddim hyd yn oed yn rhai ysgrifenedig, ac mae disgwyl i chi rywsut ddeall sut mae’n rhaid i chi ymddwyn yn rhywle. Nid cyfreithiau yw’r rhan fwyaf o’r rheolau rydym yn eu dilyn o ddydd i ddydd. Er efallai y bydd canlyniadau i dorri rheol – cael eich gwahardd rhag mynd allan os ydych yn gwylio gormod o deledu, neu orfod aros i mewn amser egwyl am siarad yn y dosbarth – mae’n debyg na fyddwch mewn trafferth gyda’r heddlu.

Dylech gael eich trin â pharch hyd yn oed os ydych chi wedi torri rheolau – dyw torri rheol ddim yn golygu y byddwch yn colli eich hawliau.

Gall eich rhieni, neu eich gofalwyr lle rydych yn byw, osod rheolau ynglŷn â’ch ymddygiad. Bydd pob teulu a chartref yn gwneud hyn yn wahanol. Eich rhieni sy’n gyfrifol am eich magu a’ch helpu i ddatblygu er mwyn i chi allu chwarae eich rhan yn y byd fel oedolyn. Os na all eich rhieni wneud hynny am ryw reswm, bydd pobl eraill – gofalwyr maeth efallai, neu warcheidwad arbennig – yn gyfrifol am wneud hyn. Dim ond bod y rheolau, a chanlyniadau torri’r rheolau, ddim yn peri risg na niwed i chi, gall eich rhieni osod rheolau a chanlyniadau sy’n briodol yn eu barn nhw. Os nad ydych yn cytuno â nhw, gofynnwch a gewch chi drafod y mater â nhw, neu gofynnwch i oedolyn arall eich helpu i gael y drafodaeth honno.

Mae gennych chi’r hawl i gael eich gwarchod rhag trais. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn dweud na ddylai neb eich brifo chi na gwneud niwed i chi, gan gynnwys eich rhieni.

Mae cyfraith yng Nghymru a Lloegr sy’n dweud ei bod hi’n erbyn y gyfraith i rywun daro - neu  ‘ymosod’ - ar rywun arall. Mae'r un gyfraith yn dweud os yw eich rhieni yn eich taro a bod hynny’n gosb resymol, yna nid ‘ymosodiad’ yw hwnnw.

Mae’r ‘amddiffyniad o gosb resymol’, fel mae’n cael ei adnabod, yn berthnasol os nad yw’r trawiad neu'r smac yn gadael marc arnoch chi. Nid yw hyn yn berthnasol os yw rhywun yn eich taro gyda’u dwrn neu gyda rhywbeth arall fel belt, neu ffon/gwialen.

Mae amddiffyniad o ‘gosb resymol’ yn golygu bod gwahaniaeth yn y ffordd mae’r gyfraith yn trin oedolion a phlant - nid yw amddiffyniad o gosb resymol yn bodoli os yw oedolyn yn taro oedolyn arall.

Mae Cymru wedi cydnabod y gwahaniaeth hwn ac wedi newid y gyfraith.

Ym mis Ionawr 2020, pasiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddf newydd, sef Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol). Mae’r ddeddf hon yn golygu na fydd oedolion yng Nghymru yn gallu defnyddio amddiffyniad cosb resymol mwyach os ydyn nhw’n ymosod ar blentyn.

Dylai’r ddeddf newydd hon ddod i rym o 2022 ymlaen.

Cewch ddarllen mwy am penderfyniadau a rheolau gartref yma.

Bydd gan bob ysgol ei rheolau a’i threfn ddisgyblu ei hun er mwyn i’r athrawon ac aelodau eraill o staff yr ysgol wybod beth i’w wneud â chi os torrwch y rheolau. Gallai pethau fel tarfu ar y dosbarth, peidio â gwisgo’r wisg ysgol iawn, peidio â chyrraedd yr ysgol yn brydlon a pheidio â gwneud gwaith neu waith cartref i gyd olygu eich bod yn mynd i drafferth. Fe ddylech gael eich trin yn unol â rheolau’r ysgol. Os daliwch ati i dorri rheolau’r ysgol, efallai y cewch eich gwahardd o’r ysgol yn y pen draw, naill ai am gyfnod penodol, neu am byth. Dyw hynny ddim yn golygu na chewch fynd i’r ysgol byth eto, dim ond na fyddwch yn cael mynd i’r ysgol sydd wedi eich gwahardd.

Does gan eich athrawon ddim hawl i roi smac i chi.

Cliciwch yma i gael gwybod mwy am fod mewn trafferth yn yr ysgol.

Os ydych wedi ymddwyn mewn ffordd sy’n torri’r gyfraith yn ogystal â rheolau’r ysgol, gallai’r ysgol ddweud wrth yr heddlu beth sydd wedi digwydd. Gallai hyn fod oherwydd eich bod wedi brifo rhywun yn yr ysgol neu wedi bygwth eu brifo neu wedi gwerthu cyffuriau yn yr ysgol. Yn ogystal â’r heddlu, gallai’r ysgol gysylltu â’r Tîm Troseddwyr Ifanc, gweithwyr cymdeithasol neu sefydliadau eraill y gallai fod angen rhoi gwybod iddynt. Hyd yn oed os na fydd yr ysgol yn dweud wrth yr heddlu, gallai rhywun sydd wedi cael ei frifo neu ei fygwth ddweud wrth yr heddlu. Cewch wybod mwy am hyn yma.

Y tu allan i’r ysgol a’r cartref, fe welwch fod gwahanol ganlyniadau i wahanol reolau. Os yw’r rheol yn ymwneud ag eiddo personol rhywun, dim ond bod y rheol ddim yn torri’r gyfraith (ac mae mwy am hyn yn yr adran isod, ‘A oes modd i reol dorri’r gyfraith?’), mae gan y person hwnnw hawl i gael rheol. Un enghraifft o hyn fyddai perchennog siop sy’n dweud nad yw eisiau mwy na 2 blentyn yn ei siop ar yr un pryd.

Weithiau, efallai y byddwch yn meddwl bod rheol yn eich trin yn annheg. Weithiau, bydd hynny hefyd yn torri’r gyfraith. Gallai perchennog siop sy’n gwneud rheol mai dim ond 2 blentyn sy’n cael bod yn ei siop ar yr un pryd wahaniaethu yn erbyn plant oherwydd eu hoedran – ond mae gan bobl hawl i wneud hyn. Ar y llaw arall, pe bai perchennog siop yn dweud nad oes neb yn cael mynd i mewn i’w siop yn gwisgo math penodol o ddilledyn fel burka neu kippah fe allai fod yn gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu crefydd, a byddai’n torri’r gyfraith.

Mae cynghorau lleol a sefydliadau cyhoeddus eraill yng Nghymru weithiau’n gwneud rheolau o’r enw ‘is-ddeddfau’. Rheolau yw’r rhain sydd ddim ond yn berthnasol mewn ardal neu le penodol, a bydd y canlyniadau’n fwy difrifol na dim ond ‘torri rheol’. Os torrwch is-ddeddf efallai y bydd yn rhaid i chi dalu dirwy neu gael hysbysiad cosb benodedig. Efallai y bydd canlyniadau eraill, er enghraifft mynd â’ch eiddo oddi arnoch. Bydd torri rhai is-ddeddfau’n golygu bod gennych record droseddol.

Y ffordd orau o herio rheol yw ceisio siarad â phwy bynnag wnaeth y rheol yn y lle cyntaf.

Herio’r rheolau gartref

Os nad yw’r rheolau gartref yn eich peryglu nac yn eich brifo, y ffordd orau o’u herio yw siarad â’ch rhieni. Wrth i chi fynd yn hŷn, rydych yn fwy tebygol o fod eisiau byw fel rydych chi eisiau byw, ac nid fel mae eich rhieni eisiau i chi fyw. Mae’n debyg mai’r ffordd orau o fynd ati yw dweud wrth eich rhieni pam nad ydych yn hoffi’r rheolau, a sut y byddech yn hoffi newid pethau. Os yw hi’n anodd i chi siarad â’ch rhieni, efallai y gallech esbonio’r broblem wrth oedolyn arall – mam-gu neu dad-cu neu fodryb neu ewythr efallai, neu athro neu athrawes – a allai eich helpu i siarad â’ch rhieni.

Herio rheolau’r ysgol

Yng Nghymru, mae gan y rhan fwyaf o ysgolion gyngor ysgol. Os nad ydych yn meddwl bod un o reolau’r ysgol yn synhwyrol neu’n briodol, neu os ydych yn meddwl ei bod yn annheg, gallwch godi hyn gyda’r Cyngor Ysgol. Os yw rheol yn gwahaniaethu yn eich erbyn chi neu yn erbyn grŵp o ddisgyblion am reswm fel hil neu grefydd neu rywedd, mae’r ysgol yn torri’r gyfraith.

Herio rheolau eraill

Os yw’r cyngor lleol yn ystyried cyflwyno rheol drwy ddefnyddio is-ddeddf, mae’n rhaid iddo ofyn i’r bobl sy’n byw yn yr ardal dan sylw am eu barn. Os cewch wybod am gynlluniau sydd ar y gweill i gyflwyno rheol, gallech gyfrannu at y broses drwy ysgrifennu llythyr neu ebost yn lleisio’ch barn at y cyngor neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r is-ddeddf.