Mae’r llyfr newydd hwn The Impact of Devolution in Wales: Social Democracy with a Welsh Stripe? golygwyd gan Jane Williams ac Aled Eirug, sy’n cynnwys pennod ar hawliau plant, yn taflu rhywfaint o oleuni ar y  cwestiwn hwnnw.

Mae’r gyfrol yn ystyried dau ddegawd o ddatganoli yng Nghymru ac yn cyfrannu at drafodaeth am arwyddocâd a chyfeiriad hynny’n y dyfodol. Mae’n seiliedig ar gyfweliadau a gynhaliwyd gan y diweddar Athro Michael Sullivan â phrif gymeriadau’r stori, ynghyd â chyfeiriadau arbennig at etifeddiaeth wleidyddol y diweddar Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru 2000 – 2010, a oedd yn gyfrifol am annog Cymru i gymryd y cam arloesol o ymgorffori’r Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yng nghyfraith y wlad ar ffurf Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

Gyda dadansoddiad arbenigol gan ymchwilwyr blaenllaw o wahanol ddisgyblaethau a meysydd polisi, daw’r llyfr i ben drwy gytuno ag awgrym yr Athro Sullivan fod yr hyn sydd wedi dod i’r amlwg yng Nghymru yn frand unigryw o ddemocratiaeth gymdeithasol â naws Gymreig.

Mae CCUHP yn rhan o’r brand unigryw hwnnw. Yn ôl y llyfr, mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn dweud bod hawliau plant yn ‘linyn’ sy’n cysylltu pob un o’r pum gweinyddiaeth ers dechrau datganoli yn 1999. Yn allweddol, mae Cymru wedi gallu defnyddio’r gyfraith ryngwladol ar hawliau’r plentyn – y CCUHP, sydd, i bob pwrpas, yn ôl y llyfr, yn ‘siarter cyfiawnder cymdeithasol i blant’ – fel fframwaith ar gyfer polisïau a deddfu. Wrth wneud hyn, mae Cymru’n dangos sut y gall gwlad neu ranbarth o fewn ‘Gwladwriaeth sy’n Barti’ wneud cynnydd sylweddol tuag at weithredu CCUHP, hyd yn oed os yw’r gweithredu ar lefel Gwladwriaeth sy’n Barti yn arafach.

Fodd bynnag, nid yw’r cynnydd wedi bod yn unionlin ac mae hanes hawliau plant yng Nghymru ymhell o fod yn gyflawn. Mae’r cysyniad o blant fel dinasyddion a deiliaid hawliau wedi denu consensws eang yng Nghymru, weithiau’n drawiadol felly, ond dim ond un edefyn ydyw mewn cyfres o syniadau a blaenoriaethau, sydd weithiau’n fwy ac weithiau’n llai amlwg.

I’r rheini sy’n mwynhau edrych i’r dyfodol ac ar y darlun ehangach, mae’r gyfrol hon yn gyfle i feddwl am hawliau plant yng nghyd-destun datblygiad datganoli yng Nghymru, yn y gorffennol, heddiw ac yn y dyfodol.

 

The Impact of Devolution in Wales: Social Democracy with a Welsh Stripe? golygwyd gan Jane Williams ac Aled Eirug a’i gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru Book | UWP