Dyluniwyd y nodyn briffio hwn at ddefnydd gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi plant ac oedolion ifanc sy’n gadael gofal sy’n ceisio lloches yn eu rhinwedd eu hunain – yn enwedig y rhai a fydd wedi cyrraedd y DU ar neu ar ôl 7 Mawrth 2023. Nid yw gyfystyr â chyngor cyfreithiol ar gyfer unrhyw achos penodol.
Dylid nodi, oherwydd y ffordd y gweithredwyd Deddf Mudo Anghyfreithlon 2023 (IMA) yn rhannol, fod llawer iawn o ansicrwydd ynghylch achosion lloches i’r rhai a gyrhaeddodd y DU ar ôl 7 Mawrth 2023. Mae hyn yn dod â heriau i’r rhai sy’n cefnogi pobl ifanc agored i niwed sydd mewn perygl o ecsbloetiaeth lle gallai diffyg sicrwydd ynghylch eu dyfodol yn y DU fod yn peri gofid mawr iddynt.
Beth yw’r Ddeddf Mudo Anghyfreithlon?
Pasiwyd Deddf Mudo Anghyfreithlon 2023 y llynedd. Mae’n newid y ffordd y mae ceisiadau am loches yn cael eu prosesu yn y DU. Ei nod yw cyfyngu ar nifer y bobl a all hawlio lloches yn y DU i’r rhai sydd wedi cyrraedd gyda chaniatâd (y cyfeirir ato weithiau fel ‘yn gyfreithlon’). Mae hefyd yn newid y ffordd y gall pobl y gwrthodir caniatâd iddynt aros yn y DU herio’r penderfyniadau hynny. Mae rhai rhannau o’r Ddeddf wedi dod i rym, ond nid yw’r rhan fwyaf ohoni mewn grym eto.
Mae darpariaethau’r Ddeddf yn effeithio ar Oedolion a Phlant – bydd y nodyn briffio hwn yn canolbwyntio ar bobl a gyrhaeddodd y DU fel plant (roedden nhw o dan 18 wrth gyrraedd).
Pa Blant y mae hyn yn effeithio arnynt?
Mae darpariaethau’r IMA yn effeithio ar ddau grŵp o blant yn benodol:
Y rhai a gyrhaeddodd rhwng 7 Mawrth 2023 ac 20 Gorffennaf 2023
- Mae’r plant hyn rhwng dau le i bob pwrpas
- Nid yw’r DDYLETSWYDD i symud yn gymwys i’r plant hyn tra eu bod o dan 18 oed
- Fel y mae’r gyfraith ar hyn o bryd, nid oes ganddynt hawl i gael lloches, ond gellir derbyn eu hawliadau (felly gellid cyflwyno ffurflenni SEF i blant)
- Mae’r hawl i gael caniatâd yn dibynnu ar ran o’r Rheolau Mewnfudo nad yw wedi’i hysgrifennu eto
Y rhai a hawliodd loches ar ôl Gorffennaf 2023
- Dyma’r dyddiad y cafodd y Ddeddf ei phasio ac felly bydd yr holl ddarpariaethau, pan fydd mewn grym, yn dechrau ar y dyddiad hwn, oni bai y caiff ei hôl-ddyddio
- Eto, nid oes yna ddyletswydd i symud tra bod plentyn o dan 18, ond mae yna bŵer
- Mae’r Ddeddf hefyd yn cynnwys pŵer i gadw plant, ond mae’n aneglur sut y byddai hyn yn gweithio’n ymarferol
- Mae’r Ddeddf yn cadarnhau na ellir rhoi caniatâd tra bod anghydfod oedran yn mynd rhagddo
- Fel gyda’r garfan flaenorol, er bod y Ddeddf yn darparu ar gyfer rhoi rhyw fath o ganiatâd i blant, byddai hyn wedi’i gynnwys yn y Rheolau Mewnfudo, ond nid yw wedi’i gynnwys ar hyn o bryd
Beth am blant eraill
Mae plant a hawliodd loches cyn 7 Mawrth 2023 ac sy’n dod o Affganistan, Eritrea, Sudan, Syria neu Fietnam yn gymwys i fod yn rhan o’r Broses Lloches Symlach.
Yn hytrach na chwblhau ffurflen SEF gyda datganiad a chyfweliad, dylid eu gwahodd i Gyfarfod Gwybodaeth Rhagarweiniol (PIM). Dylai hwn fod yn fyrrach na chyfweliad llawn. Gallant gael cyfreithiwr ac oedolyn cyfrifol yn bresennol, ond nid yw’r cyfarfod yn cael ei ystyried yn gyfweliad gan y Swyddfa Gartref ac ni all gael ei ohirio os nad oes gan y plentyn gyfreithiwr.
Os na all y Swyddfa Gartref ganiatáu lloches ar sail y PIM gallant ffonio’r plentyn yn ôl am gyfweliad llawn.
Mae plant o wledydd eraill yn parhau i fod ar y broses flaenorol. Gellir ardystio hawliadau o hyd mewn rhai achosion sy’n golygu y bydd y plentyn heb hawl i apelio yn y wlad.
Beth am Rwanda
Fel y mae’r gyfraith ar hyn o bryd, ni ddylai plant gael eu hanfon i Rwanda. Fodd bynnag, o ystyried sut mae’r IMA yn gweithio, mae’n anodd atal pobl rhag cael eu hanfon i Rwanda tra bod her llys ar y gweill. Mae hyn, a’r darpariaethau sy’n atal caniatâd i aros yn y DU rhag cael ei roi tra bod anghydfod oedran yn mynd rhagddo, yn golygu ei bod yn bosibl y gellir anfon plant y mae anghydfod ynghylch eu hoedran i Rwanda.
Effaith ar Blant
Bydd yna nifer o blant sydd yn y DU ar hyn o bryd a fydd yn troi’n 18 oed cyn i gyflwr y gyfraith gael ei ddatrys. Bydd rhai eisoes wedi troi’n 18. Nid oes unrhyw ddarpariaethau sy’n caniatáu prosesau i ystyried yr oedi hwn.
Mae yna bryderon y bydd y ddealltwriaeth na fyddant yn gallu cael caniatâd hirdymor i aros yn y DU yn gwneud plant yn fwy agored i ecsbloetiaeth. Bydd angen ystyried hyn wrth gynllunio eu gofal.