Mae saith llyfr yng nghyfres Harry Potter, oes gennych chi ffefryn? Dwi’n meddwl eu bod nhw i gyd yn wych, ond dwi wrth fy modd â hipogriffs, felly fy ffefryn i yw’r trydydd llyfr. Os oeddech chi’n hoffi’r llyfr olaf, Harry Potter and the Deathly Hallows, gallwch ddarllen am y gyfraith mewn perthynas ag ef yma.

Plentyn amddifad yw Harry Potter sy’n cael ei fagu gan ei fodryb a’i ewythr. Pan mae’n un ar ddeg oed, mae’n darganfod bod ganddo bwerau hudol, a’i fod wedi cael ei dderbyn i Ysgol Hudoliaeth a Dewiniaeth Hogwarts. Mae pob llyfr yn dilyn un flwyddyn ysgol yn Hogwarts, ac anturiaethau Harry a’i ffrindiau gorau, Ron a Hermione. Mae’r byd hudolus hwn yn cynnig llawer o gyfleoedd i feddwl am sut mae’r gyfraith yn berthnasol i ysgolion. Wrth i chi ddarllen, gallech feddwl a yw eich ysgol chi yn dilyn y rheolau y dylai eu dilyn. Mae rhagor o wybodaeth am sut mae’r gyfraith yn gweithio ar gael yma.

Eich Llais Chi yn yr Ysgol

Mae Cymru’n ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol wladol gael cyngor ysgol. Efallai y bydd rhai ysgolion yn Lloegr yn dewis cael cyngor, ond nid yw’n orfodol. Mae llawer o wybodaeth ar gael am sut mae ysgolion yn cael eu rhedeg, a pha fath o ysgolion sydd angen cynghorau ysgol. Rhagor o wybodaeth yma.

Grŵp o fyfyrwyr yw cyngor ysgol sy’n cynrychioli barn disgyblion wrth i benderfyniadau gael eu gwneud. Dylai’r grŵp gynrychioli’r ysgol gyfan a dylai fod ag o leiaf un myfyriwr o bob grŵp blwyddyn. Mae’r cyngor ysgol hefyd yn enwebu dau fyfyriwr hŷn i fod yn ‘Ddisgybl-Lywodraethwyr’, sy’n cael llais mewn rhai penderfyniadau ar lefel uwch. Os oes gennych chi rywbeth i’w ddweud ond nad ydych chi ar gyngor yr ysgol, gallwch ddal i siarad â rhywun sydd ar y cyngor, neu athro, a byddant yn gallu codi pwynt ar eich rhan. Dylech gael gwybodaeth ddiweddaru ganddynt am yr hyn sy’n digwydd wedyn. Cyflwynodd Cymru gynghorau ysgol oherwydd bod gan bob plentyn hawl i fynegi ei deimladau a’i ddymuniadau ynghylch pob mater sy’n effeithio arno, ac i’w farn gael ei chymryd o ddifrif. Dyna un o’ch hawliau, a gallwch ddod o hyd i ragor ohonynt yma.

Yn Hogwarts, bob blwyddyn mae athrawon yn ethol Swyddogion o’r bumed flwyddyn ac maent yn dal y teitl hwn nes iddynt adael yr ysgol. Mae Prif Fachgen a Phrif Ferch hefyd yn cael eu dewis o’r seithfed flwyddyn gan y Pennaeth. Nid yw bod yn Swyddog yn gwarantu bod yn Brif Fachgen neu Ferch, ond gall myfyriwr fod y naill a’r llall. Mae hyn yn golygu mai dim ond myfyrwyr hŷn sy’n cael dal y swyddi hyn, ac ni chynhelir pleidlais i’w dewis. Er eu bod yn cael eu dewis yn wahanol, gallai ymddangos fel pe bai hyn yn gweithio mewn modd tebyg i gyngor ysgol. Fodd bynnag, nid yw’r swyddi hyn yn cynnig llwyfan i leisio barn, nac i siarad â myfyrwyr am broblemau. Cyfrifoldebau ychwanegol sydd gan y swyddogion, fel gwneud yn siŵr bod y myfyrwyr yn y gwely ar amser. Mae hon yn enghraifft lle nad yw Hogwarts yn cyrraedd y safonau a ddisgwylir gan ysgolion yng Nghymru. Oes gan eich ysgol chi gyngor ysgol? Os nad ydych chi arno, a ydych chi’n cael cyfle i siarad â’r aelodau, ac a yw pobl yn gwrando ar gyngor yr ysgol?

“Rydw i, yn wahanol i chi, wedi cael fy ngwneud yn swyddog, sy’n golygu bod gen i, yn wahanol i chi, y pŵer i roi cosbau” – Dreigo Mallwyd

Parch yn yr Ysgol

Os oes rhywbeth annheg yn digwydd sy’n effeithio ar bawb, gallwch siarad â chyngor yr ysgol am y peth. Fodd bynnag, os yw’n benodol i chi, mae’n cael ei drin yn wahanol. Os ydych chi’n teimlo nad ydych chi’n cael eich trin yn iawn yn yr ysgol, gallwch siarad ag oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo (naill ai yn yr ysgol neu gartref), neu fynd at sefydliad sy’n rhoi cyngor a chefnogaeth. Mae gan bob ysgol uwchradd wasanaeth cwnsela annibynnol, felly gallai hynny fod yn lle da i ddechrau. Dylai pwy bynnag y byddwch yn penderfynu siarad ag ef allu eich helpu i benderfynu beth yr ydych am ei wneud nesaf.

Nid dim ond y myfyrwyr eraill a allai eich cam-drin. Yn Hogwarts, mae’r Athro Sneip yn greulon tuag at ei fyfyrwyr, yn eu bygwth, neu’n eu sarhau – yn gyhoeddus weithiau. Gobeithio na fydd yn rhaid i chi ddelio ag unrhyw beth fel hyn, ond os ydych chi’n teimlo bod athro yn eich trin yn annheg, a bod yr oedolion rydych chi wedi siarad â nhw ddim yn helpu, dylai fod gan bob ysgol drefn gwyno y gallwch ei dilyn.

Mae angen i athrawon wneud yn siŵr eu bod yn parchu eich hawliau a’ch urddas. Os edrychwn ni ar sut mae Hogwarts yn delio â bwlio, nid yw’n ymddangos bod llawer o systemau ar waith i amddiffyn myfyrwyr. Bydd rhai athrawon da fel yr Athro McGonagall yn camu i mewn pan fyddan nhw’n gweld bwlio, ond fedran nhw ddim bod ym mhob man. Gan amlaf, gadewir i’r myfyrwyr ddatrys problemau ymysg ei gilydd, er enghraifft, gadael iddynt wisgo bathodynnau sy’n dweud “Potter stinks” drwy gydol y flwyddyn. Mae Sneip yn cael llonydd hefyd i fwlio myfyrwyr hyd yn oed ar ôl iddo wneud hynny o flaen athrawon eraill. Ni ddylai eich ysgol chi fod fel hyn. Dylai fod ganddi ganllawiau clir ar sut i gael gafael ar gymorth, a beth fydd yn digwydd os byddwch yn gwneud hynny.

“Tynnu pum pwynt oddi ar Gryffindor am fod yn annioddefol o hollwybodus” – Yr Athro Sneip

Eich Anghenion Chi yn yr Ysgol

Mae ysgolion Cymru yn darparu bwyd i fyfyrwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu prydau ysgol am ddim i fyfyrwyr cymwys yn ystod Pandemig Covid-19. Dywed Erthygl 24 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn y dylai pob gwlad geisio sicrhau bod bwyd a dŵr digonol ar gael i bob plentyn. Efallai nad oes angen prydau ysgol am ddim arnoch chi, ond a yw’n opsiwn yn eich ysgol chi?

Mae Hogwarts yn mynd gam ymhellach na llywodraeth Cymru, gan ddarparu prydau i bob myfyriwr. Mae Hogwarts hefyd yn bwydo’r holl blant sy’n aros yn Hogwarts dros y gwyliau. Fodd bynnag, er bod llawer o opsiynau bwyd ar gael, gall y myfyrwyr ddewis beth bynnag y maen nhw am ei fwyta. Ydych chi’n meddwl bod hyn yn syniad da? Mae rhai o gefnogwyr y gyfres yn credu bod y bwyd yn cael ei wneud yn iachus drwy hud, ond ni fyddai hynny’n paratoi myfyrwyr yn dda iawn ar gyfer bywyd fel oedolion. A yw eich ysgol chi yn cynnig dewisiadau iach o ran prydau bwyd? Nid oes sôn am hynny o gwbl yn y llyfrau, ond gan fod Hogwarts yn gadael i’r myfyrwyr fwyta’r hyn maen nhw ei eisiau, byddai’n gwneud synnwyr eu haddysgu am faeth er mwyn iddyn nhw allu dewis ar sail gwybodaeth.

Disgynnodd ceg Harry ar agor. Roedd y llestri o’i flaen bellach wedi’u pentyrru â bwyd. Nid oedd erioed wedi gweld cymaint o bethau yr oedd yn hoffi eu bwyta ar un bwrdd.

Eich Iechyd Chi yn yr Ysgol

Mae Erthygl 12 y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol yn darparu ar gyfer yr hawl i iechyd. Un enghraifft o Gymru yn ymateb i hyn yw’r gofyniad bod gan bob ysgol nyrs ysgol. Efallai fod eich nyrs ysgol yn rhan-amser neu’n gwneud swydd arall hefyd, ond yn Hogwarts mae ganddynt nyrs ysgol amser llawn o’r enw Madam Pomfrey. Er bod y damweiniau’n fwy anarferol weithiau yn Hogwarts, mae Madam Pomfrey, fel y dylai eich nyrs ysgol chi ei wneud, yn rhoi cymorth cyntaf ac wedi’i hyfforddi i wneud hynny.

Cyrhaeddodd mis Hydref, gan ledaenu oerfel tamp… Cadwyd Madam Pomfrey, y nyrs, yn brysur wrth i lwyth o’r staff a’r myfyrwyr fynd yn sâl efo anwyd.

Rydw i Eisiau Rhagor o Wybodaeth

Mae llawer mwy o wybodaeth am eich hawliau o ran yr ysgol ar gael yma, yn ogystal â dolenni at lawer mwy o wybodaeth am sut mae’r gyfraith yn effeithio arnoch chi.

 

Gair am yr awdur

Isabella Doyle ydw i, ac rydw i wedi graddio yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe. Cefais fy ngeni yng Nghymru ac rwy’n gwirfoddoli’n frwd ar brosiectau hawliau dynol gartref ac yn rhyngwladol. Rydw i’n dipyn o arddwraig ac mae gen i Ddaeargi Manceinion o’r enw Doogal.