Fy Hawliau

  • Mae’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn treulio llawer o’u hamser yn yr ysgol. Dyma’r brif ffordd y mae Llywodraeth Cymru’n sicrhau eich bod yn cael addysg
  • Tra byddwch yn yr ysgol bydd disgwyl i chi ymddwyn mewn ffordd benodol a dilyn rheolau’r ysgol – hyd yn oed os na wnewch chi hynny, bydd gennych hawliau o hyd
  • Ddylech chi ddim cael eich trin yn annheg pan fyddwch chi a’ch rhieni’n dewis pa ysgol y dylech fynd iddi, pan fyddwch yn yr ysgol, na hyd yn oed pan fyddwch mewn trafferth am dorri rheolau’r ysgol

Mae gan bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru hawl i gael addysg – felly er bod y rhan hon o’r wefan yn sôn am yr ‘ysgol’, lle mae’r rhan fwyaf o blant yn cael eu haddysg, bydd yr hawliau hyn yn berthnasol os ydych mewn Uned Cyfeirio Disgyblion, neu’n cael eich dysgu yn rhywle arall fel Sefydliad Troseddwyr Ifanc neu Gartref Diogel i Blant neu mewn Canolfan Hyfforddi Ddiogel.