Rydw i eisiau bod yn rhan o’r ffordd mae fy ysgol yn cael ei rhedeg

  • Mae gan blant a phobl ifanc yng Nghymru lais yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt
  • Mae llawer o gyfleoedd i chi i gymryd rhan mewn penderfyniadau ynglŷn â’r ffordd mae eich ysgol yn cael ei rhedeg
  • Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru Gyngor Ysgol i leisio barn y disgyblion pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud yn yr ysgol

Rydych yn treulio llawer o amser yn yr ysgol, felly mae’n iawn i chi gael lleisio barn am yr hyn sy’n digwydd yno. Efallai mai eich rhieni neu’r sawl sy’n gyfrifol amdanoch sydd wedi dewis eich ysgol i chi – ond fe gewch chi ddweud eich dweud ynglŷn â’r ffordd mae’r ysgol yn cael ei rhedeg. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod gan blant a phobl ifanc lais go iawn pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud yn yr ysgol, a dyna pam mae’n rhaid i bob ysgol gael Cyngor Ysgol.