Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd i bawb oherwydd y pandemig Coronafeirws. Fodd bynnag, mae’r cyfnod hwn wedi bod yn arbennig o anodd i’r rheini sy’n ofalwyr ifanc. Amcangyfrifir bod tua 700,000 o ofalwyr ifanc yn y DU, gydag oddeutu 30,000 o ofalwyr o dan 25 yng Nghymru[1]. Hefyd, yng Nghymru y mae’r gyfran fwyaf o ofalwyr o dan 18 oed yn y DU.
Chwaraeodd ysgolion ran hollbwysig yn y gwaith o gefnogi gofalwyr ifanc drwy ddarparu seibiant hanfodol iddynt o’u dyletswyddau gofalu. Gyda chyfyngiadau cenedlaethol mewn grym, yn cynnwys cau ysgolion, nid oes amheuaeth nad yw’r cyfnod hwn wedi bod yn anodd i ofalwyr ifanc.
Yn ôl Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, mae 16% o ddisgyblion ysgolion uwchradd Cymru yn cydbwyso eu rôl ofalu â’u haddysg ac yn eu harolwg diweddar, datgelwyd bod gofalwyr ifanc yn ei chael yn anodd dal i fyny â’u dysgu a hefyd yn gorfod gofalu gartref yn ystod y pandemig[2]. Yn benodol, nid oedd gan 45% o ofalwyr ifanc ddigon o amser i’w dreulio ar waith ysgol, gyda 58% yn teimlo bod eu haddysg yn dioddef yn ddifrifol.
Ym mis Mehefin 2020, canfu Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, er bod rhai gofalwyr ifanc wedi cael profiadau cadarnhaol yn ystod y pandemig, fod llawer mwy yn teimlo dan straen, yn methu ymdopi ac yn cael eu llethu gan y pwysau ychwanegol maen nhw’n ei wynebu nawr. Roedd y gofalwyr hynny a gymerodd ran yn yr arolwg yn dweud yn glir eu bod eisiau a’u bod angenneeded[3]:
- Cefnogaeth ar gyfer eu lles emosiynol a’u hiechyd meddwl
- Help i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a’u cymunedau
- Saib o’u rôl ofalu a chefnogaeth gwasanaethau arbenigol i ofalwyr ifanc
- Mwy o help i gael cydbwysedd rhwng gofalu, addysg a chyflogaeth
- Cefnogaeth i gadw’n heini ac yn iach.
Dy hawliau di yng Nghymru
Mae’r Gyfraith yng Nghymru yn amcanu i Ofalwyr Ifanc allu dal i fwynhau eu plentyndod a chael yr un hawliau a chyfleoedd â phob plentyn arall. Mae Cymru wedi ymrwymo i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) i sicrhau bod gan bob plentyn hawliau. Nid yw llawer o bobl ifanc sy’n darparu gofal yn sylweddoli y gallant fod yn ofalwyr ifanc, ac efallai eich bod chi yn un o’r bobl hynny.
O dan yr UNCRC, mae gennych yr hawliau canlynol:
- Yr hawl i gael eich amddiffyn rhag gwahaniaethu (erthygl 2)
- Yr hawl i ffurfio a mynegi eich barn eich hun (erthygl 12)
- Yr hawl i fyw, goroesi a datblygu’n iach (erthygl 6)
- Yr hawl i dreulio amser gyda ffrindiau (erthygl 15)
- Yr hawl i fwynhau cyfleoedd hamdden ac ymlacio a chwarae (erthygl 31)
- Yr hawl i addysg (Erthygl 28 o Brotocol 29)
Mae’r hawliau hyn wedi cael eu hymgorffori yng nghyfraith Cymru o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cymaint o warchodaeth â phosibl. Mae Bmae’r Ddeddf yn diffinio gofalwr ifanc fel rhywun sy’n darparu, neu sy’n bwriadu darparu, gofal i oedolyn neu blentyn anabl.
Sut alla’ i gael help?
Mae’r rhan fwyaf o ofalwyr ifanc wedi ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau gofalu yn ystod y pandemig oherwydd pryderon ynghylch caniatáu i weithwyr gofal fynd i mewn i’w cartrefi gan ledaenu’r feirws[4]. Mae eraill wedi bod yn bryderus ynghylch gallu cael asesiad o anghenion ac wedi cael anawsterau i gael bwyd neu feddyginiaeth. Ni ddylai’r pandemig presennol eich atal rhag cael cymorth.
Mae gennych hawl i gael asesiad gan eich awdurdod lleol. Yn ystod yr asesiad hwn, bydd eich amgylchiadau’n cael eu gwerthuso a chewch wybod pa gymorth y gallwch ei gael gan yr awdurdod lleol. Byddant yn deall sut mae eich sefyllfa’n effeithio arnoch chi a beth hoffech chi ei weld yn digwydd, yn ogystal â beth fyddai’r rheini sydd â chyfrifoldeb rhiant yn ei ddymuno i chi. Byddant hefyd yn ystyried eich oedran. Gallwch ddarllen mwy am hyn ar ein blog ‘Sut i gael help ios ydych chi’n ofalwr ifanc fel Katniss Everdeen’.
Ers dechrau’r pandemig, bu datblygiadau o ran y cymorth y gallwch ei gael ac ni ddylech feddwl bod y pandemig yn rhoi terfyn ar y cymorth hwn. Mae rhaglen addysg Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, wedi gweithio ledled Cymru i ddarparu adnoddau hyfforddi cynhwysfawr i bob ysgol ar gyfer disgyblion a gweithwyr proffesiynol ym myd addysg. Mae hyn yn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r offer i athrawon i sicrhau bod eu hysgol yn darparu amgylchedd cefnogol i ofalwyr ifanc. Mae nifer yr athrawon sydd â gwybodaeth ragorol am yr hyn y mae bod yn ofalwr ifanc yn ei olygu bellach wedi cynyddu yn ystod y rhaglen i 61%[5].
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi cyllid ychwanegol tuag at gefnogi gofalwyr ifanc yn ystod y pandemig. Maent hefyd yn eich annog i gysylltu â’ch awdurdod lleol o hyd neu i gysylltu ag athro neu athrawes er mwyn cael y cymorth y mae gennych hawl iddo, gyda’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol hefyd yn darparu cymorth ar-lein a dros y ffôn.
[1] https://childrenslegalcentre.wales/how-to-get-help-if-you-are-a-young-carer-like-katniss-everdeen/
[2] https://carers.org/news-and-media/news/post/69-carers-trust-wales-help-young-carers-catch-up-after-covid-19-by-launching-new-resources-for-schools
[3] https://carers.org/downloads/wales-pdfs/support-not-sympathy-english-language.pdf
[4] https://gov.wales/sites/default/files/consultations/2020-10/young-persons-consultation-for-a-national-plan-for-carers-in-wales-young-peoples-version.pdf?fbclid=IwAR0QH6QR5ZnwJWsqi5cqqHwskZBqxR1x4y8_mgO_Z6Hn250IaImi54Ngt8A
[5] https://carers.org/news-and-media/news/post/69-carers-trust-wales-help-young-carers-catch-up-after-covid-19-by-launching-new-resources-for-schools
