Cyflwyniad ac am y llyfr!
Ydych chi wedi darllen A Little Princess? Rwy’n cofio fy chwaer yn ei roi i mi ar gyfer fy mhen-blwydd a dyna oedd fy hoff lyfr (ac mae o hyd!). Mae’n rhoi hanes Sara Crewe, merch hardd a chyfoethog gyda dychymyg rhyfeddol. Mae’n storïwraig wych ac yn rhannu ei straeon gyda’r merched eraill yn ei hysgol breswyl ‘Miss Minchin’s Select Seminary for Young Ladies’ ar ôl i’w thad cariadus ei gadael yno. Mae Sara yn byw bywyd moethus gyda ffrogiau pert a doliau arbennig ac mae’r merched eraill i gyd eisiau bod yn ffrind iddi. Mae hyn i gyd yn newid pan ddaw newyddion bod ei thad, ‘Capten Crewe wedi marw!’ ac ‘ni adawodd yr un ceiniog’. O hynny ymlaen mae Sara yn dechrau cael llawer o anawsterau a byddwn yn awr yn edrych arnyn nhw i weld sut maen nhw’n effeithio ar ei hawliau fel plentyn.
Beth, mae gan blant hawliau?!
Mae’r Cenhedloedd Unedig yn sefydliad i wledydd y byd ac mae 193 allan o 195 o wledydd y byd yn aelodau ohono. Mae gan y Cenhedloedd Unedig Gonfensiwn ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae hawl yn rhywbeth sy ddim yn gallu cael ei ddileu ac mae’r hawliau sy’n cael eu nodi yn CCUHP yn berthnasol i unrhyw un o dan 18 oed. Mae’n hanfodol bod pob plentyn yn ymwybodol bod hawliau ganddyn nhw, ac mae dyletswydd ar lywodraethau i sicrhau bod hyn yn digwydd.
Gadewch i ni edrych ar 6 hawl a gymerwyd oddi wrth Sara ac ystyried beth ddylai fod wedi digwydd yn lle hynny. Mae geiriad y 6 hawl ar gael ar wefan CCUHP, a dyma gyfieithiad Cymraeg ohonyn nhw, ond mae fersiwn haws ohonyn nhw ar ddiwedd y postiad os oes gennych ddiddordeb!
Erthygl 15 Mae gennych yr hawl i gwrdd â phlant ac ymuno â grwpiau a sefydliadau.
Allwch chi ddychmygu petasech chi bob amser ar eich pen eich hun neu pe na fyddech chi’n cael treulio amser gyda phobl o’r un oedran â chi? Meddyliwch am yr holl gymdeithasu rydych chi siŵr o fod yn ei wneud. Dyma ychydig o enghreifftiau i chi, clybiau, ysgol, teulu, ffrindiau a phartïon. Ni chaiff Sara ddefnyddio’r hawl hon gan fod Miss Minchin yn dweud na fydd yn caniatáu iddi siarad â phlant eraill a’i bod yn ‘well iddi fyw bywyd ar wahân’. Mae hyn yn groes i’w hawliau!
Erthygl 19 Mae plant yn cael eu hamddiffyn rhag pob math o drais, o gamdriniaeth, o esgeulustod ac o driniaeth wael gan eu rhieni neu gan unrhyw un arall sy’n gofalu amdanyn nhw.
‘Roedd ffrogiau Sara yn mynd yn fyrrach ac yn fwy di-raen’, ‘roedd hi’n gwisgo esgidiau gyda thyllau ynddyn nhw’, ac roedd yn cael ei beio a’i chosbi am bopeth hyd yn oed os nad hi oedd wedi’i wneud. Mae hyn yn esgeulus. Ar hyn o bryd, mae trafodaeth yng Nghymru ynghylch newidiadau i bolisïau gwisg ysgol er mwyn eu gwneud yn fwy fforddiadwy. Un cynnig yw cael gwared ar logos ysgolion ar y dillad, byddai hyn yn golygu ei bod yn bosibl prynu gwisgoedd ysgol yn rhatach (e.e. yn yr archfarchnad) yn hytrach nag mewn siopau gwisgoedd ysgol drud. Mae’n golygu y byddai’n rhatach prynu gwisgoedd ysgol newydd ac na fydden nhw’n mynd yn fach neu yn ddi-raen pe na fyddai’r teulu yn gallu eu fforddio. Efallai nad yw’n ymddangos bod ffrogiau budr ac esgidiau treuliedig Sara yn broblem ond, mae gan blant hawl i beidio â dioddef hynny.
Erthygl 20 Os na all plentyn dderbyn gofal gan ei deulu agos, mae’n rhaid i’r llywodraeth roi amddiffyniad a chymorth arbennig iddo AC Erthygl 25 Os yw plentyn wedi’i leoli oddi cartref, mae ganddo’r hawl i adolygiad rheolaidd o’i driniaeth a’r gofal y mae’n ei dderbyn.
Dydy rhai plant ddim yn gallu byw gyda’u teulu am lawer o resymau, efallai yn debyg i Sara oherwydd bod eu rhieni wedi marw. Ond ni ddylid caniatáu i hyn olygu bod bywydau’r plant hyn yn waeth na bywydau plant sy’n byw gyda’u deuluoedd. Yn wahanol i Miss Minchin a fygythiodd daflu Sara i’r stryd, mae gweithdrefnau penodol ar waith i sicrhau bod plant yn cael cartref braf yn y pen draw. Yng Nghymru, mae tua 17,000 o blant yn derbyn gofal fel hyn (sy’n cynnwys byw gyda pherthynas heblaw eu rhieni, byw mewn cartrefi gofal, cartrefi maeth ac ati) Yn y cartref newydd hwn byddai pobl yn sicrhau bod y plentyn yn iawn ac yn adolygu ei ofal a byddan nhw’n rhoi dymuniadau’r plentyn yn gyntaf. Pe bai pobl wedi gwirio sut roedd Sara yn byw, bydden nhw wedi gweld ei bod yn byw mewn ystafell oer yn yr atig.
Erthygl 28 Mae gan bob plentyn hawl i addysg.
Er ein bod yn aml yn cwyno am yr ysgol a pha mor ddiflas yw hi, mae’n hynod o bwysig (hyd yn oed os yw’n golygu bod yn rhaid i ni ddeffro’n gynnar…) Mae’r awdur yn ysgrifennu bod ‘gwersi yn bethau’r gorffennol i Sara’ a bod yn rhaid iddi fynd ‘i mewn i’r ystafell ddosbarth wag, gyda phentwr o hen lyfrau, ac astudio ar ei phen ei hun gyda’r nos.’
Erthygl 31 Mae gan bob plentyn yr hawl i ymlacio, i chwarae ac i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau diwylliannol ac artistig.
Byddai bywyd yn ddiflas iawn pe na bai gennym amser i ymlacio, mae hyd yn oed yn hawl! Pan ddywedir wrth Sara “Fydd dim amser gyda thi ar gyfer doliau yn y dyfodol”, torrwyd yr hawl hon ac roedd yn rhaid iddi “grwydro drwy’r strydoedd gwlyb, gan gario parseli a basgedi… dywedwyd wrthi y byddai’n well iddi fwyta i lawr y grisiau; roedd yn cael ei thrin fel petai neb yn poeni amdani”. Mae’r sefydliad ‘Chwarae Cymru’ yn gweithio gyda’r Llywodraeth i sicrhau nad yw’r hawl hon yn cael ei hanwybyddu wrth wneud penderfyniadau ac yn codi ymwybyddiaeth o fanteision chwarae.
Erthygl 32 Mae’n rhaid i lywodraethau amddiffyn plant rhag camfanteisio economaidd a gwaith sy’n beryglus neu a allai niweidio eu hiechyd, eu datblygiad neu eu haddysg.
Mae’r hawl hon yn golygu na ddylai plant gael eu defnyddio i wneud gwaith trwm a bod yn weithwyr! Ond dyma beth ddaeth i ran Sara. Roedd hi’n gweithio ddydd a nos ac roedd yn flinedig ac roedd hyn yn erbyn ei hawliau “Ar ôl diwrnod hir, caled, wedi cael ei hanfon yma ac acw, weithiau ar negeseuon hir yn y gwynt a’r oerni a’r glaw, byddai’n dod yn ôl yn wlyb ac yn newynog, a byddai’n cael ei hanfon allan eto gan fod neb yn dewis cofio mai dim ond plentyn oedd hi, ac y gallai ei choesau tenau fod yn flinedig a’i chorff bach yn oer”. Er i’r driniaeth hon gael ei gwahardd ym Mhrydain amser maith yn ôl, mae llawer o blant ledled y byd yn dal i gael eu gorfodi i weithio ac mae’n bwysig nad yw’r hawl hon yn cael ei hanwybyddu.
Casgliad
Mae’n amlwg iawn pa mor bwysig yw gwybod bod gan blant hawliau. Gallai Sara fod wedi cael bywyd mor wahanol, a byddai’r diwedd hapus i’w stori wedi dod yn gynharach. A dyfalwch beth? Rydym wedi edrych ar YCHYDIG ohonyn nhw yn unig, mae yna 42!
Rhoddir ystyriaeth ddifrifol i hawliau cyfreithiol plant felly:
- Os hoffech wybod mwy am eich hawliau CCUHP yng Nghymru, cliciwch yma
- Gallwch barhau i ddysgu mwy am eich hawliau yma ar y wefan hon neu gallwch ddarllen mwy o flogiau yn union fel yr un yma
Gadewch sylw os hoffech gysylltu i ddysgu mwy neu os oes gennych unrhyw gwestiynau!
Florence Symonds yw f’enw i, ac ar hyn o bryd rwy’n fyfyriwr ail flwyddyn yn astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe. Rydw i wir wedi mwynhau gallu cyfuno fy nghariad at lyfrau â’r gyfraith. Ar ôl i mi orffen fy ngradd, rwy’n gobeithio mynd yn gyfreithiwr gweithredol. Rwyf wrth fy modd yn gwirfoddoli ar gyfer prosiectau fel hyn ac yn gobeithio gwneud llawer mwy.
