Gan yr Athro Jane Williams, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru 

Mae Wythnos Ymddiriedolwyr wastad yn adeg arbennig yng nghalendr y sector elusennau — amser i ddathlu’r miloedd o bobl ledled y DU sy’n rhoi o’u hamser, eu sgiliau, a’u profiad i helpu sefydliadau i ffynnu. Mae hefyd yn gyfle i ystyried beth mae bod yn ymddiriedolwr yn ei olygu mewn gwirionedd: nid dim ond llywodraethiant a goruchwyliaeth dda, ond cred ar y cyd mewn cenhadaeth sy’n bwysig. 

I mi, mae’r genhadaeth honno wastad wedi bod yn glir. Yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, rydyn ni’n bodoli i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn deall eu hawliau, yn gallu cael mynediad at gyfiawnder, ac yn cael eu grymuso i ddefnyddio’r gyfraith i ddiogelu a siapio eu dyfodol. 

Mae’n weledigaeth feiddgar — ac yn un sy’n teimlo’n bwysicach nag erioed. Ledled Cymru, mae plant yn dal i wynebu rhwystrau rhag deall a mynnu eu hawliau. Gall y gyfraith ymddangos yn gymhleth ac yn rhywbeth sydd y tu hwnt iddynt, yn enwedig pan fydd penderfyniadau am addysg, gofal, neu fywyd teuluol yn cael eu gwneud heb esboniad clir a heb iddynt allu cyfrannu’n ystyrlon. A dyna sut gallwn ni helpu. 

Dechreuodd Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru bron i ddegawd yn ôl fel menter ymchwil ac addysg yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe. Dros y blynyddoedd hynny, fe wnaethom adeiladu sylfeini cryf: datblygu adnoddau dysgu yn seiliedig ar hawliau, cefnogi gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant, a dylanwadu ar y gyfraith a pholisi yng Nghymru i adlewyrchu profiadau bywyd plant. 

Mae eleni’n bennod newydd yn ein hanes. Ym mis Mawrth 2025, daeth Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn sefydliad annibynnol, yn barod i dyfu’n elusen genedlaethol yn ei hawl ei hun. Rydyn ni’n awr yn gwahodd ymddiriedolwyr newydd i’n helpu i lunio’r cam nesaf hwnnw — a pha amser gwell nag Wythnos Ymddiriedolwyr i estyn y gwahoddiad hwnnw? 

 

Grym Ymddiriedolwyr 

Mae bod yn ymddiriedolwr yn fraint ac yn gyfrifoldeb. Bydd gofyn ichi roi arweiniad strategol, gofyn cwestiynau da, a sicrhau bod y sefydliad yn cadw’n driw at ei werthoedd a’i genhadaeth. Ond mae hefyd yn brofiad gwerth chweil. Byddwch yn dod yn rhan o dîm sy’n sbarduno newid cymdeithasol go iawn — yn ein hachos ni, drwy helpu i greu Cymru decach a mwy cyfiawn i blant a phobl ifanc. 

Yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, mae ein bwrdd yn grŵp deinamig o bobl sydd ag arbenigedd amrywiol — o’r gyfraith, addysg, a’r byd academaidd i gyllid, polisi, a phrofiad bywyd. Yr hyn sy’n ein huno yw ein cred ar y cyd y dylai’r gyfraith weithio i blant, nid yn eu herbyn. 

Gwyddom mai amrywiaeth — o ran cefndir, daearyddiaeth, proffesiwn, a phersbectif — yw ein cryfder fel bwrdd. Dyna pam yr ydyn ni’n arbennig o awyddus i groesawu ymddiriedolwyr newydd sy’n dod ag amrywiaeth o brofiadau a lleisiau i’r bwrdd. P’un a ydych chi’n weithiwr cyllid proffesiynol, yn godwr arian, yn eiriolwr cymunedol, neu’n rhywun sydd â phrofiad uniongyrchol o’r heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, gallai eich dealltwriaeth wneud gwahaniaeth go iawn i’n gwaith. 

 

Elusen ar Adeg Hollbwysig 

Bydd ein hymddiriedolwyr newydd yn ymuno â ni ar adeg drawsnewidiol. Mae ein strategaeth wedi’i seilio ar dair elfen gydgysylltiedig: Polisi a DylanwadAddysg a Gwybodaeth, a Chyngor a Chynrychiolaeth. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn creu map ar gyfer newid — o siapio cyfraith a pholisi, i rymuso plant â gwybodaeth, i allu, rhyw ddiwrnod, darparu cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol uniongyrchol am ddim i’r rheini sydd eu hangen fwyaf. 

Rydyn ni eisoes wedi hen ennill ein plwyf gyda’n gwaith polisi ac addysg, ac mae gennym enw da yn genedlaethol am ein harbenigedd ar hawliau plant yng Nghymru. Ehangu ein cyrhaeddiad yw’r cam nesaf — meithrin partneriaethau, sicrhau cyllid cynaliadwy, a gosod y sylfeini ar gyfer gwasanaethau cyngor cyfreithiol yn y dyfodol. 

Mae ein hymddiriedolwyr yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o wireddu’r weledigaeth honno. Maen nhw’n darparu arweiniad, her, a chefnogaeth — gan sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau cadarn, yn rheoli adnoddau’n gyfrifol, ac yn parhau i fod yn uchelgeisiol ar gyfer y plant a’r bobl ifanc rydyn ni’n eu gwasanaethu. 

 

Ymunwch â Ni 

Os ydych chi’n credu mewn tegwch, mynediad at gyfiawnder, a grym y gyfraith i greu newid cadarnhaol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Mae hon yn rôl wirfoddol, sy’n gofyn am oddeutu un diwrnod y mis, ac rydyn ni’n cynnig rhaglen lawn o gynefino a hyfforddiant. 

https://childrenslegalcentre.wales/wp-content/uploads/2025/11/CYM-Trustee-Role-description.pdf  

I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol byr yn amlinellu eich diddordeb a’ch profiad perthnasol at info@childrenslegalcentre.wales erbyn dydd Gwener, 9 Ionawr 2026. 

Fel y mae Wythnos Ymddiriedolwyr yn ein hatgoffa, mae llywodraethiant da yn fwy na dim ond goruchwyliaeth —mae’n gofyn am optimistiaeth, cydweithio, a phwrpas ar y cyd. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yr wybodaeth, yr hyder, a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i sefyll dros eu hawliau. 

Os yw’r weledigaeth honno’n eich ysbrydoli, dyma’ch cyfle i helpu i’w siapio.