Gan Dr. Rhian Croke
Arweinydd Ymgyfreithio Strategol ac Eiriolaeth Polisi ar Hawliau Plant, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru
Cyflwyniad
Yn gynnar yn 2025, rhoddwyd rhybudd llym gan Sefydliad Joseph Rowntree (JRF), y disgwylir y bydd dros 34% o blant Cymru yn byw mewn cartrefi incwm isel erbyn diwedd y degawd hwn, y lefel uchaf o dlodi plant mewn 30 mlynedd. Mae hwn yn argyfwng sy’n cael effaith fawr ar blant heddiw, ac sydd hefyd yn bygwth cenedlaethau’r dyfodol. Erbyn 2029, mae Sefydliad Joseph Rowntree yn amcangyfrif y bydd 32,000 yn rhagor o blant yn cael eu gwthio islaw’r llinell dlodi—llawer ohonynt o ganlyniad i ddewisiadau polisi bwriadol.
Un o’r dewisiadau polisi mwyaf niweidiol yw terfyn dau blentyn Llywodraeth y DU.
Mae’r terfyn dau blentyn a gyflwynwyd yn 2017 yn cyfyngu Credyd Treth Plant a Chredyd Cynhwysol i’r ddau blentyn cyntaf mewn cartref—faint bynnag yw’r angen—ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. Mae’n bolisi sy’n cosbi plant am y drefn y cawsant eu geni ac sy’n gwthio teuluoedd yn ddyfnach i ansicrwydd ariannol.
Er gwaethaf ei hymrwymiad i ddileu tlodi plant, nid oes gan Lywodraeth Cymru reolaeth dros brif ysgogyddion nawdd cymdeithasol—gan gynnwys Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Plant. Mae hyn yn cyfyngu ar ei gallu i gymryd camau uniongyrchol i liniaru lefelau tlodi cynyddol. Mae’r pŵer i ddod â’r terfyn dau blentyn i ben yn nwylo San Steffan—ond mae ei ganlyniadau i’w teimlo’n ddwfn ac yn anghymesur yng Nghymru.
Torri Hawliau Plant yn Uniongyrchol
Mae’r terfyn dau blentyn nid yn unig yn niweidiol o safbwynt economaidd—mae’n mynd yn groes i hawliau dynol sylfaenol plant.
Oherwydd y ffordd y mae wedi’i gynllunio mae’n torri nifer o hawliau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP):
- Erthygl 2: Peidio â gwahaniaethu
- Erthygl 3: Pennaf les y plentyn
- Erthygl 6: Yr hawl i oroesi a datblygu
- Erthygl 26: Yr hawl i elwa o nawdd cymdeithasol
- Erthygl 27: Yr hawl i safon byw ddigonol
- Erthygl 28: Yr hawl i addysg
- Erthygl 32: Amddiffyniad rhag camfanteisio’n economaidd
Mae’r polisi hwn yn rhoi plant o deuluoedd mawr—llawer ohonynt yn dod o gefndiroedd difreintiedig yn barod—dan fwy fyth o anfantais. Mae’n eu hamddifadu o fynediad cyfartal at yr adnoddau sy’n hanfodol i’w datblygiad a’u llesiant, dim ond oherwydd nifer y brodyr a chwiorydd sydd ganddynt (Erthygl 2 CCUHP). Drwy wneud hynny, mae’n gwreiddio anghydraddoldeb ac yn dyfnhau tlodi i’r rhai mwyaf bregus.
Mae’r canlyniadau yn real ac yn ddinistriol. Mae plant mewn teuluoedd mawr sy’n cael eu heffeithio gan y terfyn dau blentyn yn wynebu risgiau uwch o:
- Ansicrwydd bwyd
- Ansefydlogrwydd tai
- Rhwystrau sy’n atal addysg (gan gynnwys mynediad at ddeunyddiau ysgol a chludiant)
- Iechyd corfforol gwaelach
- Oedi datblygiadol
- Gofid seicolegol
- Bod yn fwy agored i gamfanteisio economaidd
Mae’r niweidiau hyn yn mynd yn groes i’w hawl i iechyd (Erthygl 24 CCUHP), mynediad at addysg (Erthygl 28 CCUHP), eu hawl i gael eu hamddiffyn rhag camfanteisio (Erthygl 32), a’u hawl i gyflawni eu potensial yn llawn (Erthygl 6 CCUHP). Mae’r polisi nid yn unig yn gwneud bywyd yn anos i deuluoedd—mewn gwirionedd mae’n cyfyngu ar gyfleoedd plant mewn bywyd ac mae’n groes i’r hyn sydd er eu pennaf les (Erthygl 3 CCUHP).
Y Ddadl dros Ddiddymu
Mae’r terfyn dau blentyn nid yn unig yn foesol anamddiffynadwy—mae’n economaidd anystyriol. Mae costau hirdymor tyfu mewn tlodi yn cynnwys cyrhaeddiad addysgol is, canlyniadau iechyd gwaelach, a chynhyrchiant economaidd is ar ôl dod yn oedolyn. Mae’r polisi hwn yn creu cylch amddifadedd a fydd yn costio llawer iawn mwy i gymdeithas.
Yn ychwanegol at hyn, nid yw Llywodraeth y DU yn cyflawni ei rhwymedigaeth dan Erthygl 4 o CCUHP, sy’n nodi bod yn rhaid i bartïon gwladwriaethau ymgymryd â’r mesurau hyn “hyd eithaf maint yr adnoddau sydd ar gael iddynt” er mwyn gwireddu hawliau plant. Mae’r terfyn dau blentyn yn cynrychioli’r gwrthwyneb: ymdrech ymwybodol i amddifadu’r rhai sydd angen cefnogaeth fwyaf.
Mae diddymu’r terfyn dau blentyn yn deg—dyma hefyd y ffordd fwyaf costeffeithiol o leihau tlodi plant:
- Mae’r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yn amcangyfrif y byddai’n codi 350,000 o blant allan o dlodi ac yn lleddfu caledi i 700,000 yn rhagor.
- Mae Sefydliad Resolution yn awgrymu y gallai diddymu’r terfyn dau blentyn a’r cap budd-daliadau godi 500,000 o blant allan o dlodi erbyn diwedd Senedd bresennol y DU am gost o £4.5 biliwn—tua £10,000 y plentyn.
Ni fydd unrhyw gyfaddawd—megis ymestyn y terfyn i dri phlentyn neu ychwanegu eithriadau—yn llwyddo i gyrraedd y nod. Dim ond diddymu’n gyfan gwbl fydd yn sicrhau newid ystyrlon.
Condemniad Rhyngwladol a Chenedlaethol
Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (yn 2025) a Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (yn 2023) ill dau wedi galw ar Lywodraeth y DU i ddiddymu’r terfyn dau blentyn. Yng Nghymru, mae’r polisi wedi cael ei gondemnio’n gyson gan Gomisiynydd Plant Cymru a chan sefydliadau ymchwil ac elusennau rif y gwlith.
Llwyddodd Sefydliad Bevan yng Nghymru i gyfleu teimladau’r cyhoedd yn glir iawn drwy ddweud:
“Byddai pobl yn wallgof pe bai ysbytai neu ysgolion yn troi plant ymaith oherwydd bod ganddynt ddau frawd neu chwaer hŷn—ond dyna’n union beth mae’r terfyn dau blentyn yn ei wneud yng nghyd-destun nawdd cymdeithasol.”
Oedi yn Niweidiol
Mae Llywodraeth y DU wedi gohirio cyhoeddi ei Strategaeth Tlodi Plant hirddisgwyliedig tan yr hydref. Yn y cyfamser, mae plant yn dioddef. Galwodd Llywodraeth Cymru yn ffurfiol am ddiddymu’r terfyn ym mis Mai 2025, ac yn gwbl briodol beirniadodd arweinwyr y gwrthbleidiau yr oedi cyn gwneud y safiad hwn. Ar y llaw arall, mae Llywodraeth yr Alban wedi cymryd camau pendant i liniaru ei effeithiau drwy fesurau fel Taliad Plant yr Alban.[i] Yn fwyaf diweddar, mae Comisiwn Trawsbleidiol yn y DU, sy’n cynnwys cyn weinidogion lles, yn pwyso ar y llywodraeth i ddiddymu’r terfyn dau blentyn fel rhan o gynllun uchelgeisiol “unwaith mewn cenhedlaeth” i godi miliynau o bobl allan o dlodi. Mae’r amser i gyfaddawdu wedi dod i ben.
Casgliad: Dod â’r Terfyn Dau Blentyn i Ben—Nawr
Mae’r terfyn dau blentyn yn bolisi cosbol, gwahaniaethol, a gwrthgynhyrchiol sy’n targedu plant oherwydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i’w rheolaeth. Mae’n tanseilio hawliau plant, yn gwreiddio tlodi, ac yn niweidio cymdeithas yn yr hirdymor. Mae plant yn cael eu siomi o’r naill genhedlaeth i’r llall, ac mae’r effeithiau ar y gwahanol genedlaethau yn ddinistriol ac yn bellgyrhaeddol.
Mae eiriolwyr hawliau plant yng Nghymru, ledled y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, yn galw yn ddigamsyniol am newid.
Wrth i Lywodraeth y DU baratoi Cyllideb yr Hydref a’r Strategaeth Tlodi Plant sydd wedi’i gohirio ers tro, rhaid iddi wneud y dewis dewr ac angenrheidiol i ddiddymu’r terfyn dau blentyn—unwaith ac am byth.
Mae pob plentyn—ni waeth ym mha drefn y maent wedi cael eu geni—yn haeddu urddas, sicrwydd, a’r cyfle i ffynnu.
Dyma’r adeg i wneud rhywbeth.
[i] Mae’r polisi hwn eisoes yn dangos effaith gadarnhaol codi plant allan o dlodi. Mae tua 31% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), o gymharu â 23% o blant yn yr Alban.
